Julian Hopkin
Meddyg, ymchwilydd ac athro prifysgol yw Julian Hopkin. Yn 2004, daeth yn Bennaeth ar Ysgol Feddygaeth newydd Prifysgol Abertawe.[1] Mae bellach yn Athro Meddygaeth Arbrofol yn Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac yn Feddyg Anrhydeddus o Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg.[2][3]
Julian Hopkin | |
---|---|
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | academydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | CBE, Cymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, Cymrawd Coleg Brenhinol y Meddygon Llundain, Cymrawd Academi'r Gwyddoniaethau Meddygol |
Gyrfa
golyguGaned Hopkin yn Ystradgynlais, ac aeth i Ysgol Maesydderwen, Ystradgynlais cyn mynd ymlaen i Ysgol Feddygaeth Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd, gan raddio MB ym 1972. Canolbwyntiodd ar hyfforddiant clinigol ôl-raddedig yng Nghaerdydd ac yna yn Rhydychen a Chaeredin, gan gynnwys cyfnod lle dylanwadwyd arno gan John Crofton. Cychwynnydd ar brofion cemotherapi llwyddiannus ar gyfer diciâu. Ymgymerodd Hopkin â hyfforddiant gwyddonol (Meistr a Doethuriaeth) yn Uned Geneteg Ddynol MRC ym Mhrifysgol a Chyngor Ymchwil Meddygol Caeredin.[4][4] [5][6]
Anrhydeddau
golygu- Cymrawd, Academi Gwyddorau Meddygol
- Cymrawd, Cymdeithas Ddysgiedig Cymru (2011)
- Cadlynydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig (CBE) - cyfraniad i feddygaeth (2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ ; Archifwyd 2016-11-28 yn y Peiriant Wayback adalwyd 1 Mai 2019
- ↑ "Fears growing over car pollution". Cyrchwyd 28 Tachwedd 2016 – drwy www.bbc.co.uk.
- ↑ "Julian Hopkin". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-07-01. Cyrchwyd 2019-05-01.
- ↑ 4.0 4.1 http://www.wales.nhs.uk/documents/W080152-Hlt.pdf
- ↑ Aelodaeth: https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021.
- ↑ Anrhydeddau: https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021. https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021. https://www.learnedsociety.wales/fellowship/fellows/. dyddiad cyrchiad: 25 Ebrill 2021.