June Whitfield

actores a aned yn 1925

Actores o Loegr oedd y Fonesig June Rosemary Whitfield, CBE (11 Tachwedd 192529 Rhagfyr 2018). Gweithiodd fel actores ar y radio ac mewn cyfresi comedi ar y teledu ers y 1950au.

June Whitfield
GanwydJune Rosemary Whitfield Edit this on Wikidata
11 Tachwedd 1925 Edit this on Wikidata
Streatham Edit this on Wikidata
Bu farw28 Rhagfyr 2018 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
Galwedigaethactor, actor llwyfan, actor ffilm, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
TadJohn Herbert Whitfield Edit this on Wikidata
PriodTimothy John Aitchison Edit this on Wikidata
PlantSuzy Aitchison Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, OBE Edit this on Wikidata

Cafodd ei rôl flaenllaw gyntaf yn y comedi radio Take It From Here, ac arweiniodd hyn at waith ar y teledu, gan gynnwys ymddangosiadau gyda Tony Hancock trwy gydol ei yrfa deledu ef. Ym 1966, chwaraeodd Whitfield ei rôl gyntaf mewn comedi sefyllfa ar gyfer y teledu, yn Beggar My Neighbour a pharhaodd hyn am ddwy flynedd. Serennodd hefyd mewn nifer o'r ffilmiau Carry On.

Ym 1968, dechreuodd June Whitfield a Terry Scott eu partneriaeth hir-hoedlog a gyrhaeddodd uchafbwynt gyda'u rôlau fel gŵr a gwraig yn Happy Ever After (1974–78) a Terry and June (1979–87). O 1992 tan 2003, actiodd Whitfield yng nghomedi sefyllfa Jennifer Saunders Absolutely Fabulous ac roedd yn chwarae cymeriad rheolaidd yn Last of the Summer Wine yn ogystal â chymeriad rheolaidd yn The Green Green Grass.

Yn 89 oed ymddangosodd yn EastEnders fel lleian. Fe'i gwnaed yn Fonesig yn 92 oed, gan dderbyn yr anrhydedd ym Mhalas Buckingham.[1]

Ffilmiau

golygu
  • The Passing Show (1951)
  • The Spy with a Cold Nose (1966)
  • The Magnificent Seven Deadly Sins (1971)
  • Carry On Girls (1973)
  • The Lion, the Witch and the Wardrobe (1979)
  • Absolutely Fabulous: The Movie (2016)

Teledu

golygu
  • The Tony Hancock Show (1956–1957)
  • Dixon of Dock Green (1958)
  • The Benny Hill Show (1961–1968)
  • Steptoe and Son (1964)
  • Father, Dear Father (1968)
  • The Dick Emery Show (1969–1974)
  • The Pallisers (1974)
  • Happy Ever After (1974–1979)
  • Terry and June (1979–1987)
  • Absolutely Fabulous (1992–2012)
  • The Last of the Blonde Bombshells (2000)
  • The Green Green Grass (2007–2009)
  • EastEnders (2015–2016)

Cyfeiriadau

golygu
  1. Ab Fab's Dame June Whitfield dies aged 93 , BBC News, 29 Rhagfyr 2018.