Kaliningrad

Dinas Baltig Rwseg rhwng Gwlad Pwyl a Lithwania

Dinas a phorthladd yn Rwsia yw Kaliningrad (Rwseg: Калининград; Almaeneg: Königsberg; Lithwaneg: Karaliaučius, Pwyleg: Królewiec), sy'n ganolfan weinyddol Oblast Kaliningrad yn rhanbarth gweinyddol y Dosbarth Ffederal Gogledd-orllewinol. Poblogaeth: 431,902 (Cyfrifiad 2010). Yr hen enw, tan 1946 oedd Königsberg ac fe'i sefydlwyd gan Farchogion Tiwtonaidd yn 1255.

Kaliningrad
Mathcanolfan oblast, tref neu ddinas, dinas fawr, dinas gyda statws oblast Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMikhail Kalinin Edit this on Wikidata
Poblogaeth489,584 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 1255 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethOleg Aminov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Zeitz, Bremerhaven, Omsk, Brest, Cagliari, Cherbourg-Octeville, Dalian, Yerevan, Forlì, Gomel, Guyuan, Hamburg, Hrodna, Krasnoyarsk, Minsk, Potsdam, Samara, Severodvinsk, Yaroslavl, Baranavičy, Patras, Bwrdeistref Karlshamn, Bodenwerder, Kalininsky District, Mühlhausen/Thüringen, Catania Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirKaliningrad Urban Okrug Edit this on Wikidata
GwladBaner Rwsia Rwsia
Arwynebedd224.7 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr5 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Pregolya Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau54.72°N 20.5°E Edit this on Wikidata
Cod post236000 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethOleg Aminov Edit this on Wikidata
Map

Mae'r ddinas tua 663 cilometr (412 mi) i'r gorllewin o'r rhan fwyaf o Rwsia, yng ngorllewin y Rwsia Ewropeaidd ac mae Oblast Kaliningrad yn allglofan o Rwsia ei hun, sy'n gorwedd rhwng Lithwania a Gwlad Pwyl ar lan y Môr Baltig. Mae'r ddinas wedi'i lleoli ar Afon Pregolya, ar ben Morlyn Vistula ar y Môr Baltig. Dyma'r unig borthladd sy'n rhydd o iâ yn Rwsia ym Môr y Baltig.

Ei phoblogaeth yw 489,584 (1 Ionawr 2024), tua'r un faint a Chaerdydd. Kaliningrad yw'r ddinas ail-fwyaf yn Nosbarth Ffederal Gogledd-orllewinolRwsia ar ôl Saint Petersburg, y drydedd ddinas fwyaf yn rhanbarth y Baltig, a'r seithfed ddinas fwyaf ar y Môr Baltig.

Cafodd Kaliningrad ei hailenwi, ei hailadeiladu a'i hailboblogi gan Rwsiaid ym 1946 yn adfeilion yr hen Königsberg, ac yno, dim ond trigolion o Lithwania oedd yn cael byw. Yn y cyfamser, carthwyd y boblogaeth Almaenig mewn modd ethnig, gan greu dinas newydd i bob pwrpas. Roedd Königsberg ei hun wedi'i sefydlu ym 1255 ar safle anheddiad hynafol Hen Brwsia Twangste gan Farchogion Tiwtonaidd yn ystod Croesgadau'r Gogledd, a'i enwi'n Königsberg i anrhydeddu Brenin Ottokar II o Fohemia. Daeth yn brifddinas Gwladwriaeth yr Urdd Diwtonaidd, Dugiaeth Prwsia (1525–1701) a Dwyrain Prwsia.

Dolenni allanol

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Rwsia. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.