Dinas yn Siberia, Rwsia, yw Krasnoyarsk (Rwseg: Красноярск), sy'n ganolfan weinyddol Crai Krasnoyarsk, Dosbarth Ffederal Siberia, ac a leolir ar lan Afon Yenisei. Krasnoyarsk yw'r dryded ddinas fwyaf yn Siberia ar ôl Novosibirsk ac Omsk, gyda phoblogaeth o 973,826 (Cyfrifiad 2010).

Krasnoyarsk
Mathtref/dinas, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth1,092,851 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 Awst 1628 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethEdkham Akbulatov Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+07:00 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Cremona, Omsk, Changchun, Daqing, Harbin, Heihe, Irkutsk, Istaravshan, Kaliningrad, Kazan’, Kyzyl, Mirninsky District, Mogilev, Moscfa, Norilsk, Novosibirsk, Oneonta, Efrog Newydd, Qiqihar, Samarcand, St Petersburg, Sajanshk, Tomsk, Cheboksary, Ulan Bator, Žilina, Sault Ste. Marie Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Rwseg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirDinas Crai Krasnoyarsk Edit this on Wikidata
GwladRwsia Edit this on Wikidata
Arwynebedd348 ±1 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr287 metr Edit this on Wikidata
GerllawAfon Yenisei Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaYemelyanovsky District, Beryozovsky District, Krasnoyarsk Krai Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau56.0089°N 92.8719°E Edit this on Wikidata
Cod post660000–660136 Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethEdkham Akbulatov Edit this on Wikidata
Map
Baner Krasnoyarsk.
Krasnoyarsk o'r awyr.

Mae Krasnoyarsk yn gyffordd bwysig ar y Rheilffordd Traws-Siberia ac yn un 'r cynhyrchwyr aliwminiwm mwyaf yn Rwsia. Mae'r ddinas yn adnabyddus am ei golygfeydd naturiol; ym marn y dramodydd Anton Chekhov, Krasnoyarsk oedd "y ddinas harddaf yn Siberia."[1]

Meteoryn

golygu

Yn dilyn ei darganfyddiad yn yr ardal, mae hefyd meteoryn o'r enw Krasnoyarsk yn adnabyddus, nid yn unig am ei faint, ond hefyd am fod y meteoryn palasit cyntaf erioed i'w ganfod, nôl ym 1749. Mae darn o'r meteoryn yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Anton Chekhov, "The Crooked Mirror" and Other Stories, Zebra Book, 1995, tud. 200.

Dolenni allanol

golygu
 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:
  Eginyn erthygl sydd uchod am Crai Krasnoyarsk. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.