Karim Benzema
Pêl-droediwr o Ffrainc ydy Karim Benzema (ganwyd Karim Mostafa Benzema 19 Rhagfyr 1987) sy'n chwarae i Real Madrid yn La Liga yn Sbaen ac i dîm pêl-droed cenedlaethol Ffrainc.
Benzema yn chwarae dros ffrainc yn Euro 2012. | |||
Gwybodaeth Bersonol | |||
---|---|---|---|
Enw llawn | Karim Mostafa Benzema[1] | ||
Dyddiad geni | 19 Rhagfyr 1987 | ||
Man geni | Lyon, Ffrainc | ||
Taldra | 1.85 m (6 tr 1 mod)[2] | ||
Safle | Ymosodwr | ||
Y Clwb | |||
Clwb presennol | Real Madrid | ||
Rhif | 9 | ||
Gyrfa Ieuenctid | |||
1996–2005 | Lyon | ||
Gyrfa Lawn* | |||
Blwyddyn | Tîm | Ymdd† | (Gôl)† |
2004–2006 | Lyon B | 20 | (15) |
2004–2009 | Lyon | 112 | (43) |
2009– | Real Madrid | 353 | (170) |
Tîm Cenedlaethol‡ | |||
2004 | Ffrainc dan 17 | 4 | (1) |
2004–2005 | Ffrainc dan 18 | 17 | (14) |
2005–2006 | Ffrainc dan 19 | 9 | (5) |
2006–2007 | Ffrainc dan 21 | 5 | (0) |
2007– | Ffrainc | 81 | (27) |
* Cyfrifir yn unig: ymddangosiadau i Glybiau fel oedolyn a goliau domestg a sgoriwyd. sy'n gywir ar 18:21, 26 Mai 2015 (UTC). † Ymddangosiadau (Goliau). |
Ymunodd Benzema â chlwb Olympique Lyonnais pan yn naw mlwydd oed a daeth trwy'r system academi ieuenctid cyn gwneud ei ymddangosiad cyntaf i'r clwb yn ystod tymor 2004–05. Llwyddodd i ennill pencampwriaeth Ligue 1 am bedwar tymor yn olynol gyda Lyon, gyda'r bencampwriaeth olaf yn seithfed pencampwriaeth o'r bron i'r clwb ac yn dymor welodd Benzema yn cael ei ddewis fel Chwaraewr y Flwyddyn Ligue 1.
Yng Ngorffennaf 2009, symudodd i Real Madrid am ffi o €35m[3] ac roedd yn aelod o'r tîm enillodd La Liga yn 2011-12 a Chynghrair y Pencampwyr yn 2013-14.
Gwnaeth ei ymddangosiad cyntaf dros Ffrainc ar 28 Mawrth 2007 fel eilydd ail hanner yn erbyn Awstria a rhwydodd unig gôl y gêm.[4]
Ym mis Hydref 2021, yn achos Karim Benzema yn achos sextape Mathieu Valbuena, gofynnodd swyddfa erlynydd Versailles i’r llys troseddol ynganu dedfryd o garchar wedi’i ohirio am ddeng mis a dirwy o 75,000 ewro yn erbyn Karim. Benzema.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "UEFA Champions League 2008/2009" (PDF). uefa.com.
- ↑ "Real Madrid C.F. – Karim Benzema". Real Madrid. Cyrchwyd 14 March 2012.
- ↑ "Benzema agrees six-year deal at Real Madrid". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-03-04. Cyrchwyd 2014-06-19. Unknown parameter
|published=
ignored (help) - ↑ Vignal, Patrick (2007-03-28). "Debutant Benzema gives France win over Austria". Reuters. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-05-18. Cyrchwyd 2014-06-19.