Y Primera División (Cymraeg: Adran Gyntaf) o'r Liga Nacional de Fútbol Profesional (LFP), sy'n cael ei adnabod fel La Liga, yw prif adran system bêl-droed Sbaen ac fe'i hadnabyddir, am resymau nawdd, fel Liga BBVA (Cynghrair BBVA). Fe'i gweinyddir gan Ffederasiwn Frenhinol Pêl-droed Sbaen, yr RFEF.

La Liga
GwladSbaen
ConffederasiwnUEFA
Ffurfiwyd1929
Nifer o dimau20
Lefel yn y pyramid1
Cwympo iSegunda División
Cwpanau domestigCopa del Rey
Supercopa de España
Cwpanau rhyngwladolCynghrair y Pencampwyr UEFA
Cynghrair Europa UEFA
PencampwyrReal Madrid (34in penc.)
(2019-20)
Mwyaf llwyddiannusReal Madrid (34)
Gwefanwww.lfp.es

Mae 20 tîm yn yr adran gyda'r tri tîm sy'n gorffen ar waelod yr adran yn disgyn i'r Segunda División (Ail Adran) ar ddiwedd y tymor gyda'r ddau dîm ar frig y Segunda ac enillydd gêm ail gyfle yn esgyn yn eu lle. Mae 60 o dimau gwahanol wedi cystadlu yn La Liga gyda naw tîm gwahanol yn cael eu coroni'n bencampwyr. Real Madrid a Barcelona sydd wedi rheoli'r bencampwriaeth gyda Real Madrid yn ei hennill 32 o weithiau a Barcelona 22 o weithiau.

Hanes golygu

Cafwyd y syniad o greu pencampwriaeth cenedlaethol i brif dimau Sbaen ym 1927 gan José María Acha, cyfarwyddwr â chlwb Arenas Club de Getxo, ac estynnwyd gwahoddiad i Barcelona, Real Madrid, Athletic Bilbao, Real Sociedad, Arenas Club de Getxo a Real Unión fel cyn enillwyr y Copa del Rey a cafodd Atlético Madrid, Espanyol ac Europa o ddinas Barcelona wahoddiad fel clybiau oedd wedi colli yn y rownd derfynol o’r Copa.[1]

Ers sefydlu’r gynghrair ym 1929, ‘dyw Barcelona, Real Madrid ac Athletic Bilbao erioed wedi disgyn allan o’r Primera ond mae un neu ddau o’r clybiau gwreiddiol wedi disgyn yn bell iawn. Mae Arenas Club de Getxo ac Europa bellach yn chwarae yng Ngrwpiau rhanbarthol y Tercera División, sef pedwaredd rheng o bêl-droed Sbaen, tra bo Real Unión yn chwarae yn y drydedd rheng o’r pyramid, y Segunda B.

Pencampwyr golygu

Clwb Enillwyr Ail Tymhorau buddugol

Real Madrid

33
23
1931–32, 1932–33, 1953–54, 1954–55, 1956–57, 1957–58, 1960–61, 1961–62, 1962–63, 1963–64, 1964–65, 1966–67, 1967–68, 1968–69, 1971–72, 1974–75, 1975–76, 1977–78, 1978–79, 1979–80, 1985–86, 1986–87, 1987–88, 1988–89, 1989–90, 1994–95, 1996–97, 2000–01, 2002–03, 2006–07, 2007–08, 2011–12, 2016-17

Barcelona

26
25
1929, 1944–45, 1947–48, 1948–49, 1951–52, 1952–53, 1958–59, 1959–60, 1973–74, 1984–85, 1990–91, 1991–92, 1992–93, 1993–94, 1997–98, 1998–99, 2004–05, 2005–06, 2008–09, 2009–10, 2010–11, 2012–13, 2014-15, 2015-16, 2017-18, 2018-19

Atlético Madrid

10
8
1939–40, 1940–41, 1949–50, 1950–51, 1965–66, 1969–70, 1972–73, 1976–77, 1995–96, 2013–14

Athletic Bilbao

8
7
1929–30, 1930–31, 1933–34, 1935–36, 1942–43, 1955–56, 1982–83, 1983–84
Valencia
6
6
1941–42, 1943–44, 1946–47, 1970–71, 2001–02, 2003–04

Real Sociedad

2
3
1980–81, 1981–82
Deportivo La Coruña
1
5
1999–2000
Sevilla
1
4
1945–46
Real Betis
1
0
1934–35

Cyfeiriadau golygu

  1. "Sgorio: Heddiw Mewn Hanes 10 Chwefror". 2011-01-10. Unknown parameter |published= ignored (help)