Karl Ferdinand Wimar

Roedd Karl Ferdinand Wimar (a elwir hefyd yn Charles Wimar a Carl Wimar, 20 Chwefror 1828 - 28 Tachwedd 1862), yn arlunydd Almaenaidd Americanaidd a oedd yn canolbwyntio ar ddarlunio Brodorion America'r Gorllewin a buchesi mawr o fyfflo.

Karl Ferdinand Wimar
Ganwyd20 Chwefror 1828 Edit this on Wikidata
Siegburg Edit this on Wikidata
Bu farw28 Tachwedd 1862 Edit this on Wikidata
o diciâu Edit this on Wikidata
St. Louis, Missouri Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen Baner UDA UDA
Alma mater
  • Kunstakademie Düsseldorf Edit this on Wikidata
Galwedigaetharlunydd Edit this on Wikidata

Mae'n nodedig am baentiad cynnar o ddigwyddiad cytrefol: ei The Abduction of Boone's Girl by the Indians (1855-56), sy'n bortread darlun o ddigwyddiad ym 1776 pan gafodd Jemima Boone, merch y fforiwr Daniel Boon a dwy ferch arall, eu dal ger Boonesborough, Kentucky wedi ymosodiad gan aelodau o dylwyth y Cherokee-Shawnee.

Bywyd cynnar ac addysg golygu

Wedi'i eni yn Siegburg, yr Almaen, ymfudodd Wimar i'r Unol Daleithiau pan oedd yn 15 oed gyda'i deulu. Ymgartrefodd y teulu yn St Louis, Missouri, a denodd ymfudwyr Almaenaidd niferus yn ystod yr ymfudo mawr yn y 19eg ganrif.[1]

Ym 1846 dechreuodd astudio paentio gyda Leon Pomarede. Gyda'i gilydd buont yn teithio i fyny Afon Mississippi. Ym 1852 aeth i Academi Düsseldorf i astudio gydag Emanuel Leutze.[1] Mae'n cael ei gysylltu ag ysgol peintio Düsseldorf.

Gyrfa golygu

Dychwelodd Wimar i St Louis ym 1856. Ar yr achlysur hwnnw, peintiodd ddigwyddiad nodedig o'r cyfnod trefedigaethol, The Abduction of Boone's Daughter by the Indians' (1855-1856). Roedd yn un o'i weithiau cyntaf i gael sylw yn yr Unol Daleithiau. Disgrifiodd arddangosfa ddiweddar yn Amgueddfa Amon Carter y peintiad fel un yn dangos pum Indiad a Jemima mewn canŵ, pob un yn meddwl pa bryd fyddai achubwyr yn dod i'w hachub hi.[2]

Peintiodd Wimar themâu bywyd Indiad ar y Plaenau Mawr yn bennaf, gan ddangos helfeydd byfflo ganddynt a gweithgareddau eraill yn gysylltiedig â'u bywydau nomadig. Roedd hefyd yn peintio golygfeydd o drenau wagen yr ymfudwyr a oedd yn mynd â setlwyr cychwynnol ar draws yr eangderau gorllewinol.

Gwnaeth ddwy daith hir ym 1858 a 1859 i fyny Afon Missouri, ac fe'i hysbrydolwyd gan ei brofiadau ac arsylwadau o fywyd Brodorol America. Teithiodd hefyd i fyny'r Mississippi.

Ymhlith gweithiau mwyaf adnabyddus Wimar mae murluniau sydd wedi'u paentio ym 1861 yn Rotwnda Tŷ Llys San Louis. Mae'r adeilad bellach yn rhan o Barc Cenedlaethol Arch Gateway.

Gwaith golygu

Dolenni allanol golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i:

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Wimar, Karl Ferdinand (1828–1862)". Germanheritage.com Archifwyd 2017-09-04 yn y Peiriant Wayback. adalwyd 10 Ionawr 2018
  2. Arddangosfa yn yr Amon Carter Museum yn Fort Worth, Texas