Katja Lange-Müller
Awdures o'r Almaen sy'n byw yn Berlin yw Katja Lange-Müller (ganwyd 13 Chwefror 1951) sy'n arbenigo yn y stori fer, nofelau byrion a dramâu.[1]
Katja Lange-Müller | |
---|---|
Ganwyd | 13 Chwefror 1951 Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Galwedigaeth | llenor, gwleidydd, nofelydd |
Mam | Ingeburg Lange |
Priod | Wolfgang Müller |
Gwobr/au | Gwobr Ingeborg Bachmann, Mainzer Stadtschreiber, Gwobr Alfred-Döblin, Gwobr Kleist, Gwobr Lenyddol Kassel, Berliner Literaturpreis, Gwobr SWR-Bestenliste, Stadtschreiber von Bergen, Gwobr Wilhelm Raabe am Lenyddiaeth, Candide Preis |
llofnod | |
Mae'n ferch i Inge Lange, un o gyn-swyddogion plaid Dwyrain yr Almaen, a ganwyd Katja Lange-Müller yn Berlin-Lichtenberg. Cafodd ei diarddel o'r ysgol yn 17 oed oherwydd ei hymddygiad "anghymdeithasol". O oedran cynnar, roedd hi a'i chylch o ffrindiau yn cael eu gwylio'n ofalus gan y Stasi (sef Gweinyddiaeth Diogelwch y Wladwriaeth). Wedi ei hatal rhag mynychu'r coleg, dysgodd i fod yn gysodydd, sef gosod y 'teip' mewn gwasg argraffu, ac yn ddiweddarach bu'n gweithio fel nyrs mewn clinig seiciatrig. Yn 28 oed, cafodd ei derbyn i 'Sefydliad Llenyddiaeth Johannes R. Becher' yn Leipzig, man cychwyn ei gyrfa fel awdur.[2][3][4][5][6]
Gwaith
golygu- Wehleid – wie im Leben, Frankfurt am Main 1986
- Kasper Mauser – die Feigheit vorm Freund, Köln 1988
- Verfrühte Tierliebe, Köln 1995
- Bahnhof Berlin, München 1997 (ed.)
- Die Letzten, Köln 2000
- Biotopische Zustände, Berlin 2001
- Preußens letzte Pioniere, Rheinsberg 2001
- Stille Post, Schwetzingen 2001 (with Hans Scheib)
- Vom Fisch bespuckt, Köln 2002 (ed.)
- Der süße Käfer und der saure Käfer, Berlin 2002 (zusammen mit Ingrid Jörg)
- Was weiß die Katze vom Sonntag?, Berlin 2002 (gyda Jonas Maron a Monika Maron)
- Die Enten, die Frauen und die Wahrheit, Köln 2003
- Der nicaraguanische Hund, Berlin 2003
- o.ä., München 2003 (with Traute Langner-Geißler)
- Böse Schafe, Kiepenheuer & Witsch, Köln, 2007
- Drehtür, Kiepenheuer & Witsch, 2016
Aelodaeth
golyguBu'n aelod o Academi Iaith a Barddoniaeth Almaeneg, Academy of Arts, Berlin am rai blynyddoedd. [7]
Anrhydeddau
golygu- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Gwobr Ingeborg Bachmann (1986), Mainzer Stadtschreiber (2002), Gwobr Alfred-Döblin (1995), Gwobr Kleist (2013), Gwobr Lenyddol Kassel (2005), Berliner Literaturpreis (1996), Gwobr SWR-Bestenliste (2001), Stadtschreiber von Bergen (1989), Gwobr Wilhelm Raabe am Lenyddiaeth (2008), Candide Preis (1997)[8][9][10] ..
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Katja Lange-Müller". Massachusetts Institute of Technology. Cyrchwyd 10 Ionawr 2011.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_200. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 21 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Katja Lange-Müller". Discogs. Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Katja Lange-Müller". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Katja Lange-Müller". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Národní autority České republiky. dyddiad cyrchiad: 23 Tachwedd 2019.
- ↑ "Katja Lange-Müller- Portrait". Litrix-German Literature Online. Cyrchwyd 10 ionawr 2011. Check date values in:
|accessdate=
(help) - ↑ Anrhydeddau: http://www.mainz.de/kultur-und-wissenschaft/literatur/stadtschreiber_2002.php. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019. https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-literaturpreis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021. https://archive.wikiwix.com/cache/index2.php?url=http%3A%2F%2Fwww.literarischer-verein-minden.de%2Fliterarischer_verein_minden_literaturpreise.html#federation=archive.wikiwix.com&tab=url.
- ↑ http://www.mainz.de/kultur-und-wissenschaft/literatur/stadtschreiber_2002.php. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019.
- ↑ https://www.literaturpreisgewinner.de/belletristik/wilhelm-raabe-literaturpreis. dyddiad cyrchiad: 20 Gorffennaf 2021.
- ↑ https://archive.wikiwix.com/cache/index2.php?url=http%3A%2F%2Fwww.literarischer-verein-minden.de%2Fliterarischer_verein_minden_literaturpreise.html#federation=archive.wikiwix.com&tab=url.