Monika Maron
Awdur Almaenig yw Monika Maron (ganwyd yn Berlin, 3 Mehefin 1941) sy'n cael ei hystyried yn nodigedig hefyd am ei gwaith fel newyddiadurwr.[1][2][3][4][5]
Monika Maron | |
---|---|
Ganwyd | Monika Eva Iglarz 3 Mehefin 1941 Berlin |
Dinasyddiaeth | Yr Almaen |
Alma mater | |
Galwedigaeth | newyddiadurwr, llenor, awdur ffuglen wyddonol |
Adnabyddus am | Flugasche |
Plaid Wleidyddol | Plaid Undod Sosialaidd yr Almaen |
Gwobr/au | Mainzer Stadtschreiber, Gwobr Irmgard-Heilmann, Medal Carl Zuckmayer, Gwobr Brodyr Grimm o ddinas Hanau, Deutscher Nationalpreis, Gwobr Friedrich-Hölderlin, Lessing Prize of the Free State of Saxony |
Wedi gadael yr ysgol mynychodd Brifysgol Humboldt, Berlin. [6]
Ymhlith y gwaith pwysig a nodedig yr ysgrifennodd y mae: Flugasche. Roedd yn gymarol wleidyddol ei natur, ac yn ystod ei hoes bu'n aelod o Blaid Undod Sosialaidd yr Almaen.
Magwraeth
golyguSymudodd ym 1951, pan oedd yn 10 oed, o Orllewin i Ddwyrain Berlin gyda'i llys-dad, Karl Maron, Gweinidog Cartref y GDR (sef Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, gwlad Gomiwnyddol). Astudiodd y theatr a threuliodd amser fel cynorthwy-ydd cyfarwyddo ac fel newyddiadurwr.
Yr awdur
golyguAr ddiwedd y 1970au, dechreuodd ysgrifennu'n llawn amser yn Nwyrain Berlin. Gadawodd y GDR ym 1988 gyda fisa tair blynedd. Ar ôl byw yn Hamburg, yr Almaen, tan 1992, dychwelodd i Ferlin a oedd bellach yn un, lle roedd yn byw ac yn dal i ysgrifennu yn 2019. Mae ei gwaith yn delio i raddau helaeth â gwrthdaro â'r gorffennol ac yn archwilio'r bygythiadau a berir gan gof ac unigedd. Mae ei rhyddiaith yn denau, yn llwm, ac yn unig, gan gyfleu sensitifrwydd ac anobaith ei chymeriadau.
Anrhydeddau
golyguYm 1992, cafodd ei gwobrwyo â Gwobr Kleist, sy'n cael ei dyfarnu'n flynyddol i awduron blaenllaw o'r Almaen, ac, yn 2003, gyda Gwobr Friedrich Hölderlin.
- Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Mainzer Stadtschreiber (2009), Gwobr Irmgard-Heilmann (1990), Medal Carl Zuckmayer (2003), Gwobr Brodyr Grimm o ddinas Hanau (1991), Deutscher Nationalpreis (2009), Gwobr Friedrich-Hölderlin (2003), Lessing Prize of the Free State of Saxony (2011)[7][8] .
Llyfryddiaeth
golygu- Flight of Ashes (Flugasche) (1981)
- Herr Aurich (Mr. Aurich) (1982)
- Das Mißverständnis (Y Camddeall) (1982)
- Die Überläuferin (1986)
- Stille Zeile Sechs (1991)
- Nach Massgabe meiner Begreifungskraft: Essays und Artikel (1993)
- Animal Triste (1996)
- Pavel's Letters (Sialens Pavel) (1999)
- Endmoränen (2002)
- Quer über die Gleise (2002)
- Wie ich ein Buch nicht schreiben kann und es trotzdem versuche (2005)
- Ach, Glück (2007)
- Bitterfelder Bogen (2009)
- Zwei Brüder: Gedanken zur Einheit 1989–2009 (2010)
- Zwischenspiel (seibiant) (2013)
- Munin oder Chaos im Kopf (2018)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Cyffredinol: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015.
- ↑ Disgrifiwyd yn: https://link.springer.com/chapter/10.1007/978-3-476-03702-2_235. dyddiad cyrchiad: 31 Gorffennaf 2022.
- ↑ Rhyw: ffeil awdurdod y BnF. dyddiad cyrchiad: 10 Hydref 2015. Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 3 Gorffennaf 2024.
- ↑ Dyddiad geni: "Monika Maron". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Monika Maron". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Monika Maron". "Monika Maron". Cyrchwyd 9 Hydref 2017.
- ↑ Man geni: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 10 Rhagfyr 2014
- ↑ Anrhydeddau: http://www.mainz.de/kultur-und-wissenschaft/literatur/stadtschreiber_2009.php. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019. https://www.spiegel.de/spiegel/print/d-76551170.html. dyddiad cyrchiad: 30 Medi 2021.
- ↑ http://www.mainz.de/kultur-und-wissenschaft/literatur/stadtschreiber_2009.php. dyddiad cyrchiad: 17 Tachwedd 2019.
- ↑ https://www.spiegel.de/spiegel/print/d-76551170.html. dyddiad cyrchiad: 30 Medi 2021.