Kelly Morgan

chwaraewr badminton Cymreig

Chwaraewr badminton Cymreig yw Kelly Ann Aston MBE (neé Morgan, ganwyd 22 Mai 1975). Llwyddodd i ennill y fedal aur yng Ngemau Gymanwlad 1998 yn Kuala Lumpur, Maleisia, ac roedd yn aelod o dîm Prydain Fawr yng Gemau Olympaidd yr Haf ym 1996, 2000 a 2004[1].

Kelly Ann Morgan
Gwybodaeth bersonol
Ganwyd (1975-05-22) 22 Mai 1975 (48 oed)
Pontypridd
Camp
GwladCymru
ChwaraeonBadminton
Diweddarwyd 15 Awst 2016.

Gyrfa badminton golygu

Dechreuodd Morgan chwarae badminton yn naw mlwydd gan fod ffrind i'w theulu wedi sefydlu clwb badminton[2]. Sicrhaodd ei lle yn nhîm Cymru ar ôl mynd i wylio ei brawd Ross yn y treialon[3].

Llwyddodd i ennill Senglau'r Merched ym Mhencampwriaeth Badminton Cymru am 13 blynedd yn olynol rhwng 1992 a 2004 yn ogystal â chipio chwe pencampwriaeth yng nghystadleuaeth Dyblau'r Merched a phedair pencampwriaeth Dyblau Cymysg. Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 1996 yn Atlanta, Unol Daleithiau America yng nghystadleuaeth y senglau a'r dyblau[1].

Yn Ebrill 1998 llwyddodd Morgan i ennill medal arian ym Mhencampwriaeth Badminton Ewrop yn Sofia, Bwlgaria cyn cipio'r fedal aur yn senglau'r merched yng Ngemau'r Gymanwlad yn Kuala Lumpur, Maleisia.[2] Cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd yr Haf 2000 yn Sydney, Awstralia lle llwyddodd i gyrraedd yr 16 olaf[4]

Anrhydeddau golygu

Ym 1999 cafodd Morgan ei henwi'n Merch Gymreig y Flwyddyn [3] ac yn 2002 cafodd ei hurddo ag MBE am "wasanaeth i'r gymuned, yn enwedig mewn chwaraeon yn ne Cymru".[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 "Sports Reference: Kelly Morgan". Sports-Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-23. Cyrchwyd 2016-08-15.
  2. 2.0 2.1 "Q&A: Kelly Morgan". BBCSport. 2005-08-24.
  3. 3.0 3.1 Harris, Nick (2002-07-28). "Badminton: Morgan the Racket seeks action replay of greatest moment". The Independent.
  4. "Badminton at the 2000 Sydney Summer Games: Women's Singles Round Three". Sports-Reference. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-07-21. Cyrchwyd 2016-08-15.
  5. "MBEs: I – M". BBC News. 2002-06-14.