Tro Breizh
Pererindod Gatholig sy'n dilyn llwybr trwy saith tref a gysylltir â Saith Sant-sefydlydd Llydaw yw Tro Breizh (Llydaweg am "Tro [yn] Llydaw"). Mae'n cofio gwaith cenhadol y mynachod Celtaidd a aeth drosodd o Gernyw a Chymru i Lydaw tua troad y 6g i gyflwyno'r Gristnogaeth i Lydaw a sefydlu'r esgobaethau cyntaf yno.
Taith gerdded 600 km (370 milltir) yn para am fis oedd y Tro Breizh yn wreiddiol. Pan gafodd ei hadfer yn 1994 gan gymdeithas Les Chemins du Tro Breizh ("Llwybrau'r Tro Breizh"), cwtogwyd y siwrnai i gylch wythnos gan ymweld a'r trefi canlynol yn eu tro:
- Kemper, tref Sant Corentin
- Saint-Pol-de-Léon, tref Sant Pol
- Tréguier, tref Sant Tudwal
- Sant-Brieg, tref Sant Briog
- Sant-Maloù, tref Sant Malo
- Dol, tref Sant Samson o Ddol
- Vannes, tref Sant Padarn (Patern)
Yn 2002, ar ôl cwblhau'r bererindod saith rhan, symudodd y Tro i Gymru i ddathlu cysylltiadau Cymreig y seintiau hyn.
Dolenni allanol
golygu- (Ffrangeg) Safle swyddogol y Tro Breiz
- (Ffrangeg) "Sur les chemins du Tro Breizh" Archifwyd 2008-11-21 yn y Peiriant Wayback Arweiniad i'r daith.