Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud
Llyfr plant gan Lewis Carroll a gyhoeddwyd ym 1865 yn wreiddiol yw Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud (teitl gwreiddiol Saesneg: Alice's Adventures in Wonderland, y cyfeirir ato yn gyffredinol fel Alice in Wonderland). Mae'r stori yn sôn am ferch ifanc, Alys (Alice), sy'n cwympo i lawr twll cwningen i fyd ffantasi ("Wonderland") a boblogir gan greaduriaid anthropomorffaidd rhyfedd. Mae'r stori'n chwarae â rhesymeg a dyma sydd wedi cadw'r stori'n boblogaidd i oedolion a phlant fel ei gilydd.[1] Canmolir y llyfr fel un o enghreifftiau gorau'r genre dwli.[1][2] Cyhoeddwyd fersiwn Cymraeg, trosiad gan Selyf Roberts, gan Wasg Gomer ym 1982.
Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud | |
---|---|
Arddull | nofel i blant, stori dylwyth teg, literary nonsense |
Olynydd | Through the Looking-Glass |
Gwobr/au | Medal Kate Greenaway |
Hanes
golyguCyhoeddwyd y fersiwn gwreiddiol yn Saesneg ym 1865, tair blynedd ar ôl i Charles Lutwidge Dodgson (Carroll) a Robinson Duckworth rwyfo mewn cwch ar y 4ydd o Orffennaf, 1862[3] ar Afon Tafwys gyda thair merch ifanc:[4]
- Lorina Charlotte Liddell (13 oed, ganed 1849; "Prima" yn y llyfr)
- Alice Pleasance Liddell (10 oed, ganed 1852; "Secuna" yn y llyfr) - Byddai Alice yn treulio gwyliau'r haf gyda'i theulu ym Mhenmorfa, Llandudno. Dymchwelwyd y tŷ Fictoraidd yn 2008 er mwyn adeiladau fflatiau ar y safle. Er gwaethaf ymgyrch byd eang, methodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a Chadw warchod y lle.
- Edith Mary Liddell (8 oed, ganed 1853; "Tertia" yn y llyfr)
Merched Henry George Liddell, is-ganghellor Prifysgol Rhydychen, a phrifathro Ysgol Westminster oedd y merched ifanc hyn. Dechreuodd y daith yn Folly Bridge ar bwys Rhydychen a gorffennodd mewn pentref bychan o'r enw Godstow. Yn ystod y daith, dywedodd Dodgson wrth y merched stori am ferch ifanc, a enwyd yn Alice ganddo, sy'n chwilio am antur. Mwynheuodd y merched y stori a gofynnodd Alice am gopi ysgrifenedig. Gorffennodd Dodgson ei lawysgrif Alice's Adventures Under Ground, gyda'i luniau ei hun, ar 26 Tachwedd 1864 a chyflwynodd y llyfr i Alice.
Cyn i Dodgson gyflwyno'i lawysgrif i Alice, roedd yn paratoi'r llyfr i'w gyhoeddi a datblygodd y stori wreiddiol o 15,500 i 27,500 gair, sy'n cynnwys y penodau am Gath Swydd Gaer a Pharti Te'r Hetiwr Gwallgof. Ym 1865, cyhoeddwyd stori Dodgson dan yr enw Alice's Adventures in Wonderland gan "Lewis Carroll", gyda darluniadau gan John Tenniel. Gohiriwyd yr argraffiad cyntaf oherwydd gwrthwynebodd Tenniel safon yr argraffiad. Cyhoeddwyd argraffiad newydd ym mis Rhagfyr 1865.
Gwerthodd yr argraffiadau i gyd allan yn gyflym. Roedd Alice yn rhyfeddod annwyl i oedolion a phlant. Roedd y frenhines Victoria a'r llenor Oscar Wilde ifanc yn rhai o'r darllenwyr cyntaf.
Uchafbwyntiau cyhoeddi
golygu- 1865: Argraffiad cyntaf y Deyrnas Unedig
- 1865: Argraffiad cyntaf Unol Daleithiau America
- 1869: Cyhoeddwyd Alice's Abenteuer im Wunderland gan Antonie Zimmermann yn Yr Almaen
- 1869: Cyhoeddwyd Aventures d'Alice au pays des merveilles gan Henri Bué yn Ffrainc
- 1870: Cyhoeddwyd Alice's Äfventyr i Sagolandet gan Emily Nonnen yn Sweden
- 1871: Cwrddodd Dodgson Alice arall, Alice Raikes, yn Llundain a siaradodd e ag hi am ei hadlewyrchiad, ysbrydoliaeth Dodgson i ysgrifennu Through the Looking-Glass
- 1886: Cyhoeddodd Carroll ffacsimili o'r lawysgrif Alice's Adventures Under Ground
- 1890: Cyhoeddodd Carroll The Nursery "Alice", argraffiad arbennig i blant 0-5 oed
- 1905: Cyhoeddodd Mrs J. C. Gorham Alice's Adventures in Wonderland retold in words of one syllable i ddarlledwyr ifanc
- 1907: Roedd yr hawlfraint Alice wedi dod i ben yn y DU a'r stori wedi dod parth cyhoeddus. Cyhoeddodd o leiaf wyth argraffiad newydd yn y flwyddyn honno
- 1908: Cyhoeddwyd y fersiwn Siapaneg cyntaf
- 1910: Cyhoeddwyd La Aventuroj de Alicio en Mirlando yn Esperanto gan Elfric Leofwine Kearney
- 1928: Gwerthwyd y lawysgrif sy wedi'i rhoi gan Dodgson i Alice Lindell yn Sotheby's ar Ebrill 3. Prynodd Philip Rosenbach y lawysgrif am ₤15,400
- 1953: Cyhoeddwyd Anturiaethau Alys Yng Ngwlad Hud gan Selyf Roberts yng Nghymru (Gwasg Gee)
- 1960: Cyhoeddodd Martin Gardner argraffiad arbennig, The Annotated Alice
- 1964: Cyhoeddwyd Alicia in Terra Mirabili gan Clive Harcourt Carruthers yn Lladin
- 1982: Cyhoeddwyd Anturiaethau Alys Yng Ngwlad Hud gan Selyf Roberts yng Nghymru (Gwasg Gomer)
- 1990: Cyhoeddwyd Contoyrtyssyn Ealish ayns Çheer ny Yindyssyn gan Brian Stowell ym Manaweg
- 1998: Gwerthwyd copi Carroll Alice, un o'r chwe argraffiad sy wedi para'n fyw ers 1865, mewn acsiwn am $1.54 miliwn
- 2003: Cyhoeddwyd Eachtraí Eilíse i dTír na nIontas gan Nicholas Williams yn Ngwyddeleg
- 2009: Cyhoeddwyd Alys in Pow an Anethow gan Nicholas Williams yng Nghernyweg
Argraffiad Cymraeg
golyguCynhyrchodd Selyf Roberts drosiad talfyredig ac eithaf ffurfiol ym 1953 yn Gymraeg. Ym 1982, bron i ddeng mlynedd ar hugain diweddarach, teimlai'r angen i'w ddisodli â throsiad llawn o'r newydd mewn arddull ystwythach. Wrth baratoi'r argraffiad modern, gwnaethpwyd ychydig o newidiadau i'r orgraff a'r gystrawen i gydymffurfio ag arferion cyfoes. Er enghraifft, newidiwyd p'le i ble; hwn'na i hwnna ac hon'na i honna; trowyd y cyplysnodau i bara-menyn a moch-gini i fylchau; newidiwyd ac ysgrôl i a sgrôl, ag a allai i ag y gallai.[5][6]
Cymysgodd Roberts fesuriadau metrig ac ymerodrol yn anghyson braidd. Am gysondeb mewnol ac i adlewyrchu testun gwreiddiol Carroll yn well, adferwyd y mesuriadau ymerodrol, felly newidiwyd deugain centimedr i pymtheng modfedd a hanner metr i dwy droedfedd.
Er mwyn pwysleisio'r ffaith mai cymeriad gwrywaidd yn amlwg yw'r Gwningen Wen yn nhestun Carroll ac mewn lluniau Tenniel, er bod cwningen yn enw benywaidd yn y Gymraeg, newidiwyd yr enw ar ddrws y Gwningen Wen o "C. WEN" i "GWYN GWNINGEN".
Fel yn yr argraffiadau eraill o lyfrau Alys, mae'r cyhoeddwr (Evertype ers argraffiad 2010) wedi cadw at ddyluniad a ysbrydolwyd gan Annotated Alice Martin Gardiner.[5] Cyhoeddodd Evertype, cyhoeddwr sy'n arbenigo mewn cyfieithu llên glasurol Saesneg, y fersiwn Cymraeg yn 2010 ers iddo fod allan o brint am bum mlynedd ar hugain.
Lleoedd
golygu- Alice in Wonderland Centre - Llandudno, Cymru
- The White Rabbit (siop) - Carmel-by-the-sea, Califfornia
- Alice in Wonderland (reid yn seiliedig ar y ffilm Disney) - Disneyland, Califfornia
- Alice's Curious Labyrinth - Disneyland Paris, Ffrainc
- Alice's Shop - Rhydychen, Lloegr
Ffilmiau
golyguGweler Hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 Lecercle, Jean-Jacques (1994) Philosophy of nonsense: the intuitions of Victorian nonsense literature Routledge, Efrog Newydd, o, ac yn cynnwys, dudalen 1 ymlaen, ISBN 0-415-07652-8
- ↑ Schwab, Gabriele (1996) "Chapter 2: Nonsense and Metacommunication: Alice in Wonderland" The mirror and the killer-queen: otherness in literary language Indiana University Press, Bloomington, Indiana, t. 49-102, ISBN 0-253-33037-8
- ↑ "Story Museum - The real Alice". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-11-17. Cyrchwyd 2010-09-05.
- ↑ "The Background & History of Alice In Wonderland". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-06-02. Cyrchwyd 2010-09-05.
- ↑ 5.0 5.1 Roberts, Selyf (2010) "Foreword: Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud" Evertype, Iwerddon, t. v/vi, ISBN 1904808468
- ↑ Anturiaethau Alys yng Ngwlad Hud