Kenneth Waltz
Ysgolhaig cysylltiadau rhyngwladol o'r Unol Daleithiau sy'n gysylltiedig â damcaniaeth neo-realaeth oedd Kenneth Neal Waltz (8 Mehefin 1924 – 12 Mai 2013).[1][2] Roedd yn athro ym Mhrifysgol Columbia. Ei lyfr enwocaf yw Man, the State, and War (1959) a gyflwynodd y cysyniad o lefelau dadansoddi i faes cysylltiadau rhyngwladol. Bathwyd y term "lefelau dadansoddi" gan J. David Singer yn ei adolygiad o'r llyfr yn y cyfnodolyn World Politics yn Ebrill 1960. Disgrifiodd Waltz tair delwedd wrth geisio esbonio achosion rhyfel: yr unigolyn, lle bo natur ddynol yn achosi rhyfel; y wladwriaeth, lle bo systemau llywodraethol neu sefyllfaoedd gwleidyddol o fath arbennig yn achosi rhyfel; a'r system ryngwladol, lle bo anllywodraeth yn gwneud rhyfel yn sefydliad cymdeithasol anochel.
Kenneth Waltz | |
---|---|
Ganwyd | 8 Mehefin 1924 Ann Arbor |
Bu farw | 12 Mai 2013 o niwmonia Washington |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
ymgynghorydd y doethor | |
Galwedigaeth | academydd, gwyddonydd gwleidyddol, athronydd, gwleidydd |
Swydd | cadeirydd |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Cymrodoriaeth Guggenheim, Heinz I. Eulau Award |
Ysgrifennodd hefyd Theory of International Politics (1979) gan ymhelaethu ar y syniad o fyd deubegynol gyda dau brif rym, sef yr Unol Daleithiau a'r Undeb Sofietaidd yn ystod y Rhyfel Oer. Ym 1995 cyhoeddwyd The Spread of Nuclear Weapons: A Debate, sef trafodaeth am arfau niwclear rhwng Waltz a'r Athro Scott Sagan o Brifysgol Stanford.
Yn 2008 cynhaliodd Adran Gwleidyddiaeth Ryngwladol Prifysgol Aberystwyth gynhadledd academaidd er anrhydedd i Waltz, "The King of Thought: Theory, the Subject and Waltz".[1]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Martin, Douglas (18 Mai 2013). Kenneth Waltz, Foreign-Relations Expert, Dies at 88. The New York Times. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.
- ↑ (Saesneg) Langer, Emily (21 Mai 2013). Kenneth N. Waltz, scholar of international relations, dies at 88. The Washington Post. Adalwyd ar 22 Gorffennaf 2013.