Kevin Spacey

cyfarwyddwr ffilm, cynhyrchydd, sgriptiwr ffilm ac actor a aned yn Ne Orange yn 1959

Actor, cynhyrchydd, sgriptiwr a chyfarwyddwr Americanaidd yw Kevin Spacey Fowler (ganwyd 26 Gorffennaf 1959). Cafodd ei fagu yng Nghaliffornia, a dechreuodd ei yrfa ym myd actio yn ystod y 1980au. Ar ddechrau'r 1990au, derbyniodd feirniadaethau clodwiw am ei waith a derbyniodd ei Wobr yr Academi gyntaf am ei rôl gefnogol yn The Usual Suspects. Derbyniodd ei ail wobr am yr actor gorau yn y ffilm American Beauty (1999).

Kevin Spacey
GanwydKevin Spacey Fowler Edit this on Wikidata
26 Gorffennaf 1959 Edit this on Wikidata
South Orange Village, New Jersey Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Ysgol Juilliard, Efrog Newydd
  • Ysgol Uwchradd Chatsworth
  • Los Angeles Valley College Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor ffilm, cyfarwyddwr theatr, cyfarwyddwr ffilm, actor teledu, cynhyrchydd ffilm, sgriptiwr, actor llais, actor cymeriad, actor llwyfan, cynhyrchydd teledu, actor, cyfranogwr fforwm rhyngwladol, cyfarwyddwr Edit this on Wikidata
Adnabyddus amThe Usual Suspects, American Beauty, Seven, A Bug's Life Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddolplaid Ddemocrataidd Edit this on Wikidata
PerthnasauDaniel Fowler, Josh Sartain Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Laurence Olivier, KBE, Gwobr yr Academi i'r Actor-gynorthwyydd Gorau, Gwobr yr Academi am Actor Gorau, Gwobr Tony am yr Actor Gorau mewn Drama, British Academy Television Award for Best International Programme, Golden Globe Award for Best Actor – Television Series Drama, Gwobr Tony, Gwobr Deledu MTV i'r Dyn Cas Gorau, Gwobr BAFTA am Actor Gorau mewn Prif Rhan, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Gwobr Arbennig Cymdeithas Theatr Llundain Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://KevinSpacey.com Edit this on Wikidata

Rhwng 2003 a 2015 Spacey oedd cyfarwyddwr creadigol theatr yr Old Vic yn Llundain. Aeth ymlaen i serennu fel Frank Underwood yng nghyfres ddrama wleidyddol Netflix House of Cards.

Honiadau o gamymddwyn rhywiol golygu

Yn Hydref 2017, gwnaed cyhuddiad gan yr actor Anthony Rapp fod Spacey wedi ymddwyn mewn modd rywiol amhriodol ag ef pan oedd yn 14 oed.[1][2] Yn sgil cyhuddiad Rapp, daeth sawl dyn arall ymlaen i honni fod Spacey wedi eu aflonyddu neu ymosod arnynt yn rhywiol.[3][4] O ganlyniad, gohiriodd Netflix y gwaith cynhyrchu ar House of Cards am gyfnod cyn penderfynu terfynu ei gysylltiad a'r gyfres, a penderfynwyd peidio ryddhau ei ffilm Gore ar eu gwasanaeth.[5][6] Roedd Spacey wedi saethu golygfeydd fel J Paul Getty yn ffilm Ridley Scott All the Money in the World. Penderfynodd y cyfarwyddwr gastio Christopher Plummer gan ddisodli Spacey ac fe ail-saethwyd nifer o olygfeydd gyda'r actor newydd cyn ryddhau y ffilm.[7]

Cyfeiriadau golygu

  1. Kevin Spacey yn ymddiheuro dros honiadau rhywiol , Golwg360, 30 Hydref 2017. Cyrchwyd ar 10 Tachwedd 2017.
  2. Felman, Kate (29 Hydref 2017). "Anthony Rapp accuses Kevin Spacey of trying to seduce him when he was 14". New York Daily News. Cyrchwyd October 29, 2017.
  3. Miller, Mike (2 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey accused of sexual misconduct by eight House of Cards employees: report". People. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
  4. Brown, Mark; Weaver, Matthew (2 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey: Old Vic accused of ignoring sexual misconduct allegations". The Guardian. Cyrchwyd 3 November 2017.
  5. Stanhope, Kate; McClintock, Pamela (3 Tachwedd 2017). "Netflix severs ties with Kevin Spacey, drops 'Gore' movie". The Hollywood Reporter. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
  6. Staff writer (3 Tachwedd 2017). "Kevin Spacey: Netflix severs ties amid sex assault allegations". BBC News. Cyrchwyd 3 Tachwedd 2017.
  7. Fleming Jr, Mike (8 Tachwedd 2017). "Shocker: Kevin Spacey dropped from 'All The Money In The World;' J Paul Getty role recast with Christopher Plummer". Deadline.com. Cyrchwyd 8 Tachwedd 2017.