House of Cards (Netflix)

Mae House of Cards yn gyfres we-deledu wleidyddol Americanaidd a ddatblygwyd a chynhyrchir gan Beau Willimon. Mae'n addasiad o'r mini-gyfres BBC a seiliwyd ar y nofel gan Michael Dobbs. Ymddangoswyd y gyfres gyntaf gyfan, sy'n cynnwys 13 pennod, am y tro cyntaf ar y gwasanaeth ffrydio Netflix ar 1 Chwefror, 2013. Ymddangoswyd ail gyfres o 13 pennod am y tro cyntaf ar 14 Chwefror, 2014, ac ymddangoswyd y drydedd gyfres am y tro cyntaf ar 27 Chwefror, 2015. Adnewyddyd House of Cards ar gyfer pedwaredd gyfres, a fe'i hymddangoswyd am y tro cyntaf ar 4 Mawrth, 2016. Ym mis Ionawr 2016, cyhoeddodd Neflix bod y gyfres wedi cael ei hadnewyddu ar gyfer pumed cyfres a ryddhawyd yn 2017. Cyhoeddwyd y byddai Willimon yn gadael ei swydd fel rhedwraig ar y rhaglen ar ddiwedd y bedwaredd gyfres.[1]

House of Cards
Genre Drama wleidyddol
Crëwyd gan Beau Willimon
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Michael Dobbs
Seiliwyd ar:
House of Cards
gan Andrew Davies
Serennu Kevin Spacey
Robin Wright
Kate Mara
Corey Stoll
Michael Kelly
Sakina Jaffrey
Kristien Connolly
Sebastian Arcelus
Michel Gill
Nathan Darrow
Rachel Brosnahan
Constance Zimmer
Mahershala Ali
Elizabeth Norment
Sandrine Holt
Jayne Atkinson
Molly Parker
Gerald McRaney
Jimmi Simpson
Elizabeth Marvel
Derek Cecil
Mozhan Marno
Paul Sparks
Neve Campbell
Joel Kinnaman
Cyfansoddwr y thema Jeff Beal
Gwlad/gwladwriaeth Yr Unol Daleithiau
Iaith/ieithoedd Saesneg
Nifer cyfresi 5
Nifer penodau 65
Cynhyrchiad
Amser rhedeg 43-59 munud
Darllediad
Sianel wreiddiol Netflix
Rhediad cyntaf yn 1 Chwefror, 2013 - presennol
Cysylltiadau allanol
Gwefan swyddogol

Ar 30 Hydref 2017, cyhoeddodd Netflix mai'r gyfres derfynol y byddai'r chweched cyfres, yn dilyn honiadau o gamymddwyn rhywiol yn erbyn Spacey. Ar 3 Tachwedd 2017, cyhoeddodd Netflix bod Spacey wedi cael ei ddiswyddo o'r rhaglen. Ar 4 Rhagyfr 2017, cyhoeddodd Netflix y cynhyrchir chweched cyfres gydag wyth pennod yn gynnar yn 2018 heb Spacey. Rhyddheir y gyfres derfynol yn nes ymlaen yn 2018.

Plot golygu

Lleolir yn y presennol yn Washington, D.C., dilyna House of Cards stori Frank Underwood (Kevin Spacey), Democrat o'r 5ed ardal gyngresol De Carolina a Chwip y Blaid Fwyafrifol yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr. Ar ôl iddo gael ei wrthod ar gyfer swydd fel Ysgrifennydd Gwladol, mae'n dechrau cynllwyno i gael swydd well, gyda chymorth ei wraig, Claire Underwood (Robin Wright). Delia'r gyfres gyda'r themâu o bragmatiaeth annhosturiol,[2] defnyddio pobl, a phŵer.[3]

Cast golygu

Dengys y lluniau isod rhai aelodau o'r prif gast o gyfresi 1-4.

Cymeriadau a phenodau golygu

Dengys y tabl isod actorion House of Cards, enwau eu cymeriadau, os ydynt wedi bod yn 'brif' aelod o'r cast neu'n aelod 'gwadd' a'r nifer o benodau y maent wedi ymddangos ynddynt.

House of Cards
Actor Cymeriad 1 2 3 4 5 6 Nifer o benodau Gwybodaeth bellach
Kevin Spacey Francis Underwood Prif Prif Prif Prif Prif 52 Gŵr i Claire
Chwip yn Nhŷ'r Cynrychiolwyr (cyfres 1)
Is-arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
46ain Arlywydd yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4)
Robin Wright Claire Underwood Prif Prif Prif Prif style="background-color:#99FF99" 52 Gwraig i Francis
Pennaeth y 'Fenter Ddŵr Glan' (cyfres 1)
Is-Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau (cyfres 3-4)
Kate Mara Zoe Barnes Prif Gwadd Gwadd 13 Gohebydd The Washington Herald ac wedyn Slugline.
Corey Stoll Peter Russo Prif Gwadd 12 Cyngreswr Democrataidd
Michael Kelly Doug Stamper Prif Prif Prif Prif 51 Cyfrinachddyn cyffredinol i Francis
Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood
Sakina Jaffrey Linda Vasquez Prif Prif 18 Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Walker
Kristen Connolly Christina Gallagher Prif Prif 17 Cynorthwy-ydd personol i'r Arlywydd Walker
Sebastian Arcelus Lucas Goodwin Prif Prif Gwadd 17 Golygydd The Washington Herald
Boris McGiver Tom Hammerschmidt Prif Gwadd Prif 14 Prif olygydd The Washington Herald
Constance Zimmer Janine Skorsky Prif Prif Gwadd 13 Gohebydd The Washington Herald
Mahershala Ali Remy Danton Prif Prif Prif Prif 33 Cyfreithiwr a lobïwr (cyfres 1-2)
Pennaeth Staff y Tŷ Gwyn i'r Arlywydd Underwood (cyfres 3)
Sandrine Holt Gillian Cole Prif Gwadd 10 Arweinydd y sefydliad 'World Well'
Michel Gill Garrett Walker Prif Prif Gwadd 24 Cyn-lywodraethwr Colorado
45ain Arlywydd yr Unol Daleithiau
Gerald McRaney Raymond Tusk Prif Prif Gwadd 15 Biliwnydd a gŵr busnes
Nathan Darrow Edward Meechum Prif Prif Prif Gwadd 35 Gwarchodwr a gyrrwr i Francis a Claire
Dan Ziskie Jim Matthews Prif 4 Cyn-lywydd Pennsylvania
Is-arlywydd yr Unol Daleithiau
Ben Daniels Adam Galloway Prif Gwadd 7
Jayne Atkinson Catherine Durant Gwadd Gwadd Prif Prif 23 Seneddwraig Ddemocrataidd Louisiana
Rachel Brosanhan Rachel Posner Gwadd Prif Gwadd Prif 19 Putain a ddefnyddiwyd gan Francis a Doug
Reg E. Cathey Freddy Gwadd Gwadd Gwadd Gwadd 15 Cyfrinachddyn a ffrind go iawn i Francis
Perchennog y tŷ bwyta 'Freddy's BBQ'
Molly Parker Jackie Sharp Prif Prif Prif 25 Cyngeswraig Ddemocrataidd Califfornia
Dirprwy Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 2)
Chwip y Blaid Fwyafrifol (cyfres 3)
Jimmi Simpson Gavin Orsay Prif Prif 17 Haciwr cyfrifiaduron
Derek Cecil Seth Grayson Gwadd Prif Prif 30 Ysgrifennydd y Wasg i'r Is-arlywydd Underwood
Mozhan Marnò Ayla Sayyad Prif Gwadd 11 Gohebydd Wall Street Telegraph
Elizabeth Marvel Heather Dunbar Gwadd Prif Prif 22 Cyfreithwraig Gyffredinol yr Unol Daleithiau (cyfres 2)
Ceisio am yr enwebiad Democrataidd ar gyfer Arlywydd (cyfres 3-4)
Kate Lyn Sheil Lisa Williams Prif Gwadd 9
Lars Mikkelsen Viktor Petrov Prif Prif 7 Arlywydd Rwsia
Kim Dickens Kate Baldwin Prif Gwadd 8 Prif ohebydd gwleidyddol y Wall Street Telegraph
Paul Sparks Thomas Yates Prif Prif 15 Awdur llyfr am y rhaglen swyddi 'America Works'
Neve Campbell LeAnn Harvey Prif 13 Ymgynghorydd gwleidyddol
Joel Kinnaman Will Conway Prif 8 Gŵr i Hannah
Llywydd Efrog Newydd
Dewisddyn Gweriniaethol ar gyfer Arlywyddd
Dominique McElligott Hannah Conway Prif 7 Gwraig i Will
Colm Feore General Brockhart Prif 5
Ellen Burstyn Elizabeth Hale Prif 5

Gwobrau ac enwebiadau golygu

Ar gyfer ei chyfres gyntaf, derbyniodd House of Cards naw enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Cyfres Ddrama Ragorol, Prif Actor Rhagorol i Spacey, Prif Actores Ragorol i Wright, a Cyfarwyddo Rhagorol i David Fincher. Hon yw'r gyfres wreiddiol ar-lein-yn-unig i dderbyn enwebiadau Emmy sylweddol.[4] Mae'r gyfres hefyd wedi derbyn pedwar enwebiad Gwobr Glôb Aur ac enillodd Wright yr Actores Orau - Cyfres Deledu Ddrama, y wobr actio sylweddol gyntaf ar gyfer cyfres we-deledu ar-lein-yn-unig. Ar gyfer ei hail gyfres, derbyniodd 13 enwebiad Gwobr Primetime Emmy, gan gynnwys Prif Actor Rhagorol (Spacey), Prif Actores Orau (Wright), Cyfarwyddo Rhagorol (Carl Franklin), Cyfres Ddrama Ragorol, ac Ysgrifennu Rhagorol (Willimon).[5] Derbyniodd yr ail gyfres dri enwebiad Gwobr Glôb Aur, gyda Spacey yn ennill y Wobr ar gyfer yr Actor Gorau - Cyfres Deledu Ddrama.

Cyfeiriadau golygu

  1. Schneider, Michael (February 13, 2014). "House of Cards Creator Beau Willimon on the D.C. Thriller's Second Season". TV Guide. Cyrchwyd October 2, 2015.
  2. Graves, Lucia (February 19, 2014). "Frank Underwood and a Brief History of Ruthless Pragmatism". National Journal. Cyrchwyd July 30, 2014.
  3. Cronk, Jordan (April 29, 2013). "'Doing bad for the greater good': Kevin Spacey, Beau Willimon and Co. Look Back at 'House of Cards' Season One". Indiewire. Cyrchwyd July 30, 2014.
  4. Stelter, Brian (July 18, 2013). "Netflix Does Well in 2013 Primetime Emmy Nominations". The New York Times. Cyrchwyd July 18, 2013.
  5. Lowry, Brian (July 10, 2014). "2014 Emmy Awards: 'Game of Thrones,' 'Fargo' Lead Nominations". Variety. Cyrchwyd July 30, 2014.