Khieu Samphan
Gwleidydd ac economegydd comiwnyddol o Gambodia yw Khieu Samphan (ganwyd 28 Gorffennaf 1931)[1] oedd yn un o brif arweinwyr y Khmer Rouge ac yn bennaeth y wladwriaeth o 1976 hyd 1979.
Khieu Samphan | |
---|---|
Khieu Samphan yn sefyll ei brawf yn ystod 2014. | |
Ganwyd | 27 Gorffennaf 1931 Talaith Svay Rieng |
Dinasyddiaeth | Cambodia |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | gwleidydd |
Swydd | Prif Weinidog Cambodia, dirprwy |
Plaid Wleidyddol | Plaid Gomiwnyddol Kampuchea, Party of Democratic Kampuchea, Cambodian National Unity Party, Khmer National Solidarity Party, Sangkum |
Priod | So Socheat |
Cafodd ei fagu yn nhalaith Svay Rieng yn ne ddwyrain Cambodia. Enillodd ysgoloriaeth gan y llywodraeth i fynychu prifysgol yn Ffrainc ym 1955. Tra'n astudio ym Mharis, cafodd ei ddenu gan Farcsiaeth ac ymunodd â grŵp o fyfyrwyr adain-chwith o Gambodia. Enillodd ei ddoethuriaeth o'r Sorbonne ar bwnc "economi a datblygiad diwydiannol Cambodia". Pwysleisiodd ddychweliad at agrariaeth, a gwelir ei thesis yn rhywbeth o flaengynllun i bolisïau economaidd y Khmer Rouge.[2]
Dychwelodd i'w famwlad a daeth yn wleidyddol weithgar tra'n weithio fel athro prifysgol. Cafodd ei ethol i'r Cynulliad Cenedlaethol ym 1962 a 1964, a phenodwyd yn Ysgrifennydd Masnach yng nghabinet y Prif Weinidog Norodom Sihanouk, cyn-frenin y wlad. Enillodd Khieu Samphan y llysenw "Mistar Glân" am fod yn ddilwgr. Dros amser, trodd Sihanouk yn erbyn elfennau adain-chwith Cambodia, a bu Khieu Samphan yn ffoi i'r jyngl ym 1967 i ymuno â'r gwrthryfelwyr comiwnyddol dan arweiniad Pol Pot. Credodd nifer iddo gael ei ladd gan heddlu cudd Sihanouk nes iddo ymddangos yn gyhoeddus ym 1973.
Cipiodd y Khmer Rouge rym ym 1975 gan sefydlu Kampuchea Ddemocrataidd, a rhoi ar waith rhaglen o gyfunoli, llafur gorfodol, ac hil-laddiad. Gwasanaethodd Khieu Samphan yn swydd llywydd y presidiwm, ac arlywydd mewn enw y wlad, o 11 Ebrill 1976 hyd 7 Ionawr 1979. Goresgynnwyd Cambodia gan Fietnam yn Rhagfyr 1978 a chafodd y Khmer Rouge ei ddymchwel o fewn dwy wythnos. Meddianwyd y wlad am ddeng mlynedd a sefydlwyd Gweriniaeth Pobl Kampuchea. Daeth Khieu Samphan yn weinidog tramor ym 1982 dan y llywodraeth glymblaid. Ef oedd wyneb gyhoeddus y llywodraeth, a theithiodd gyda diplomyddion i wledydd eraill ar ymweliadau swyddogol. Cynrychiolodd y Khmer Rouge mewn trafodaethau heddwch a ddaeth â therfyn i Ryfel Cambodia a Fietnam ym 1991.[3] Bu Khieu Samphan, a nifer o gyn-arweinwyr eraill y Khmer Rouge, yn byw yn nhalaith Pailin dan warchodaeth lluoedd Ieng Sary[3] nes iddo ildio i'r llywodraeth yn 1998.[4]
Dechreuodd waith Siambrau Arbennig Llysoedd Cambodia yn 2006 gyda chefnogaeth y Cenhedloedd Unedig i roi gyn-arweinwyr y Khmer Rouge ar brawf. Cafodd Khieu Samphan ei arestio yn 2007 a'i gyhuddo o droseddau yn erbyn dynoliaeth, hil-laddiad, a thorri Cytundeb Genefa (1948).[1] Dechreuodd yr achos yn Nhachwedd 2011. Rhannodd y doc gyda Nuon Chea ac Ieng Sary a'i wraig Ieng Thirith. Bu farw Ieng Sary yn 2013, ac yn 2012 penderfynwyd bod Ieng Thirith yn anghymwys i sefyll ei phrawf oherwydd dementia. Cyfaddefodd Khieu Samphan y bu marwolaethau torfol dan lywodraeth y Khmer Rouge, gan feio ideoleg eithafol Pol Pot, ond honodd nad oedd ganddo ei hun ran uniongyrchol parthed y llofruddiaethau. Dywedodd taw arweinydd mewn enw yn unig ac "heb rym" ydoedd. Cafwyd Khieu Samphan a Nuon Chea yn euog o droseddau yn erbyn dynoliaeth yn Awst 2014, a'u dedfrydu i garchar am oes.[5] Yn Nhachwedd 2018 fe'i cafwyd yn euog o hil-laddiad Fietnamiaid ethnig yng Nghambodia, a hefyd sawl cyhuddiad o briodasau gorfodol, treisio, ac erledigaeth grefyddol, a'i ddedfrydu i garchar am oes unwaith eto.[6] Erbyn 2021, pryd clywyd yr apêl yn erbyn ei ddedfryd, Samphan oedd yr olaf o arweinwyr y Khmer Rouge a oedd yn dal i fyw.[7]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Khieu Samphan Archifwyd 2016-12-23 yn y Peiriant Wayback (Siambrau Arbennig Llysoedd Cambodia). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
- ↑ (Saesneg) The Economist Behind the Khmer Rouge, The New York Times (27 Mehefin 2011). Adalwyd ae 13 Medi 2016.
- ↑ 3.0 3.1 (Saesneg) Khmer Rouge Biographies Archifwyd 2009-04-03 yn y Peiriant Wayback (Adran Astudiaethau De Ddwyrain Asia, Prifysgol Gogledd Illinois). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
- ↑ (Saesneg) Khmer Rouge leaders surrender, BBC (26 Rhagfyr 1998). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
- ↑ (Saesneg) Khmer Rouge leaders guilty of crimes against humanity and jailed for life, The Guardian (7 Awst 2014). Adalwyd ar 13 Medi 2016.
- ↑ (Saesneg) Khmer Rouge leaders found guilty of Cambodia genocide", BBC (16 Tachwedd 2018). Adalwyd ar 16 Tachwedd 2018.
- ↑ (Saesneg) "Sole surviving Khmer Rouge leader denies role in genocide", Al Jazeera (19 Awst 2021). Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.is ar 19 Awst 2021.