Cibwts

(Ailgyfeiriad o Kibbutz)

Cymuned fwriadol gyfunol Israelaidd yw cibwts (weithiau cibẃts; Hebraeg: קיבוץ; lluosog: cibwtsau neu cibwtsim: קיבוצים, "casgliad" neu "ynghyd"). Er bod gwledydd eraill wedi mentro cymundodau tebyg, nid oes 'run ohonynt wedi chwarae rôl mor bwysig o fewn gwlad â chibwtsau Israel. Sefydlwyd y weledigaeth pan sefydlwyd gwladwriaeth Israel yn y 1940au, a pharhaodd hyd heddiw.

Cibwts
Enghraifft o'r canlynolsefydliad Edit this on Wikidata
Mathanheddiad dynol, cymuned parod Edit this on Wikidata
Rhan oKibbutz Movement Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.kibbutz.org.il/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Cibwtsiad yn gweithio mewn perllan orenwydd yng nghibwts Na'an, 1938.

Caiff y rôl o fagu'r plant eu rhannu gan rieni ac oedolion eraill. Yn aml byddai'r plant yn cysgu mewn tŷ plant tra bod y rhieni mewn tŷ arall.[1]

Mae cibwtsau yn arbrawf Israelaidd unigryw, sydd yn cyfuno sosialaeth a Seioniaeth i'r hyn a elwir yn Seioniaeth Lafur, ac yn rhan o un o'r mudiadau cymunedol mwyaf erioed. Sefydlwyd y cibwtsau mewn cyfnod pan nad oedd ffermio annibynnol yn ymarferol. Wedi eu gorfodi gan anghenreidiau i droi at fywyd cymunedol, ac wedi eu hysbrydoli gan ideoleg Iddewig-sosialaidd eu hunain; datblygodd aelodau'r cibwtsau ddull cymunedol a phur o fyw, a ddenodd sylw'r holl fyd. Parhaodd cibwtsau am nifer o genedlaethau fel cymunedau iwtopaidd, ond mae'r rhan fwyaf o gibwtsau heddiw yn debycach i'r trefi cyfalafaidd yr oedd y cibwtsau gwreiddiol yn ceisio bod yn ddewisiadau amgen iddynt.

Mae cibwtsau wedi cyfrannu cyfran anghyfartal o arweinwyr milwrol, deallusion, a gwleidyddion Israel.[2] Er nad yw poblogaeth y mudiad cibwts erioed wedi bod yn uwch na 7% o boblogaeth Israel gyfan, maent wedi gwneud mwy i ffurfio'r ddelwedd sydd gan Israeliaid o'u gwlad, a'r ddelwedd sydd gan dramorwyr o Israel, nag unrhyw sefydliad arall.

Mosiaf golygu

Ceir math arall o ffarm gydweithredol yn Israel, sef y mosiaf (moshav mewn orgraff Saesneg). Mae'r mosiaf yn cynnig mwy o breifatrwydd a hunan-reolaeth i'r uned deuluol neu unigolyn gan adael iddynt ffarmio'r tir ond rannu'r adnoddau a'r dull gwerthu gyda gweddill aelodau'r uned.

Cibwts mewn Diwylliant Gymraeg golygu

Ceir cân ddychan 'Cristion yn y Kibbutz'[3] gan y grŵp Datblygu ar record hir 'The BBC Peel Sessino 1987-1993'[4] Mae'r gân yn dychanu person yr arfer o deithio a gweithio mewn cibwts.

Lawr i Israel er mwyn pigo orenau yr Iddewon
Ti di cymryd blwyddyn allan o cwrs coleg sydd ddim yn mynd i ddim unman
ac wrth gwrs, ti'n addysgu nhw am yr Iesu tra ti'n chwysu

Gweler hefyd golygu

Dolenni golygu

Cyfeiriadau golygu

 
Comin Wikimedia
Mae gan Gomin Wikimedia
gyfryngau sy'n berthnasol i: