Mae Kim Michele Leadbeater MBE (ganwyd 1976) yn wleidydd Llafur a'r Blaid Gydweithredol sydd wedi bod yn Aelod Seneddol (AS) Batley a Spen, Lloegr, ers mis Gorffennaf 2021.[1] [2]

Kim Leadbeater
Ganwyd1 Mai 1976 Edit this on Wikidata
Heckmondwike Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • University of Huddersfield
  • Prifysgol Leeds Beckett
  • Heckmondwike Grammar School Edit this on Wikidata
Galwedigaethpersonal trainer, gwleidydd Edit this on Wikidata
SwyddAelod o 58ain Senedd y Deyrnas Unedig, Aelod o 59ain Senedd y Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • Coleg Bradford
  • The Jo Cox Foundation Edit this on Wikidata
Plaid Wleidyddoly Blaid Lafur Edit this on Wikidata
Gwobr/auMBE Edit this on Wikidata

Ganwyd Leadbeater ym 1976 yn Heckmondwike, Gorllewin Swydd Efrog, Lloegr, [3] yn ferch i Jean a Gordon Leadbeater. Ei chwaer hynaf oedd Jo Cox, a oedd yn AS dros Batley a Spen rhwng 2015 a 2016. Mynychodd Ysgol Ramadeg Heckmondwike, ac mae wedi byw yn "bob mymryn bach" o'r ardal leol. [4] Aeth ymlaen i raddio gyda gradd Baglor Gwyddoniaeth (BSc) mewn ymarfer corff a ffitrwydd iechyd o Brifysgol Leeds Beckett yn 2005 a Thystysgrif Ôl-raddedig mewn Addysg (PGCE) o Brifysgol Huddersfield yn 2008. [5]

Cyn symud i wleidyddiaeth, roedd Leadbeater yn ddarlithydd mewn iechyd corfforol yng Ngholeg Bradford, ac mae wedi gweithio fel hyfforddwr personol.[6]

Llofruddiwyd Jo Cox yn 2016 a daeth Tracy Brabin yn AS Batley and Spen . Ar ôl ymddiswyddiad Brabin i dod yn Maer, daeth Leadbeater yn ymgeisydd Llafur ar gyfer Batley. [7] Fe’i hetholwyd yn Aelod Seneddol (AS) dros Batley a Spen ar 1 Gorffennaf 2021, gyda mwyafrif o 323 o bleidleisiau.[8]

Cyfeiriadau

golygu
  1. "Batley and Spen: Labour narrowly hold seat in by-election". BBC News. 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
  2. Pidd, Helen (23 Mai 2021). "Jo Cox's sister selected as Labour candidate for Batley and Spen byelection". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
  3. "Kim Leadbeater: Sister of Jo Cox is new Batley and Spen MP". BBC News. 2 Gorffennaf 2021. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
  4. Hyde, Nathan (17 Mehefin 2021). "All you need to know about Batley and Spen by election candidate Kim Leadbeater". The Yorkshire Post (yn Saesneg). ISSN 0963-1496. Cyrchwyd 1 Gorffennaf 2021.
  5. "New Year Honours for Leeds Beckett Graduates". www.leedsbeckett.ac.uk (yn Saesneg). Leeds Beckett University. 31 Rhagfyr 2020. Cyrchwyd 2 July 2021.
  6. Adams, Tim (17 Mehefin 2018). "Kim Leadbeater on her sister, Jo Cox: 'You can't give in to hatred'". The Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 July 2021.
  7. Rodgers, Sienna. "Jo Cox's sister Kim Leadbeater selected by Labour to contest Batley and Spen". LabourList (yn Saesneg). Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
  8. Wolfe-Robinson, Maya; Stewart, Heather (2 July 2021). "Labour's Kim Leadbeater wins narrow victory in Batley and Spen byelection". The Guardian (yn Saesneg). Guardian Media Group. ISSN 1756-3224. OCLC 60623878. Cyrchwyd 2 Gorffennaf 2021.
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Tracy Brabin
Aelod Seneddol dros Batley a Spen
20152016
Olynydd:
'presennol'