Klaus Kinski

cyfarwyddwr ffilm a sgriptiwr ffilm a aned yn Sopot yn 1926

Actor Almaenig oedd Klaus Kinski (ganwyd Klaus Günter Karl Nakszynski[1] 18 Hydref 192623 Tachwedd 1991). Ymddangosodd mewn mwy na 130 o ffilmiau, gan gynnwys pump o ffilmiau'r cyfarwyddwr Werner Herzog: Aguirre, der Zorn Gottes (1972), Nosferatu: Phantom der Nacht (1979), Woyzeck (1979), Fitzcarraldo (1982), a Cobra Verde (1987).

Klaus Kinski
GanwydKlaus Günter Karl Nakszynski Edit this on Wikidata
18 Hydref 1926 Edit this on Wikidata
Sopot Edit this on Wikidata
Bu farw23 Tachwedd 1991 Edit this on Wikidata
o clefyd y galon, trawiad ar y galon Edit this on Wikidata
Lagunitas-Forest Knolls Edit this on Wikidata
Man preswylBerlin, München Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Almaen Edit this on Wikidata
Galwedigaethsgriptiwr, actor ffilm, actor llwyfan, cyfarwyddwr ffilm Edit this on Wikidata
PriodMinhoï Geneviève Loanic Edit this on Wikidata
PartnerDebora Caprioglio Edit this on Wikidata
PlantPola Kinski, Nastassja Kinski, Nikolai Kinski Edit this on Wikidata
Gwobr/auCommandeur des Arts et des Lettres‎ Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.kinski.de Edit this on Wikidata

Roedd yn enwog am ei bersonoliaeth wyllt. Mae'n bosib y roedd ganddo sgitsoffrenia.[2]

Mae perthynas tymhestlog Hezog a Kinski bellach wedi dod yn chwedlonol yn y byd ffilm. Roedd cymeriad ymfflamychol Kinksi yn arwain at ddadlau ffyrnig gan arwain at Herzog hyd yn oed bygwth lladd Kinski tra'n ffilmio Aguirre.

Ddwy ddegawd wedi ei farwolaeth cyhuddwyd Kinski gan ei ferch Pola o'i chamdrin yn rhywiol.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Tystysgrif Geni
  2. (Almaeneg) Psycho-Akte von Klaus Kinski entdeckt Archifwyd 2010-08-08 yn y Peiriant Wayback., Bild, 22 Gorffennaf 2008.
  3. (Saesneg) Jackson, Patrick (10 Ionawr 2013). German actor Klaus Kinski 'abused his daughter Pola'. Adalwyd ar 10 Ionawr 2013.


  Eginyn erthygl sydd uchod am sinema'r Almaen. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.