Kliph Scurlock
Mae Kliph Scurlock (ganwyd 16 Mehefin 1973) yn gerddor Americanaidd. Roedd e'n ddrymiwr mewn band roc The Flaming Lips o 2002 i 2014.
Kliph Scurlock | |
---|---|
Kliph Scurlock mewn cyngerdd | |
Y Cefndir | |
Enw (ar enedigaeth) | Clifton Thomas Scurlock |
Ganwyd | 16 Mehefin 1973 |
Tarddiad | Topeka, Kansas, U.D.A. |
Math o Gerddoriaeth | Roc amgen |
Gwaith | Cerddor |
Offeryn/nau | Drymiau |
Cyfnod perfformio | 1991-presennol |
Perff'au eraill | The Flaming Lips Skating Polly Gruff Rhys |
Bywgraffiad
golyguCafodd ei eni fel Clifton Thomas Scurlock[1] yn Topeka, Kansas, U.D.A..
Gadawodd Scurlock The Flaming Lips ym Mawrth 2014.[2]
Teithiodd Scurlock gyda Gruff Rhys o'r band Super Furry Animals, fel rhan o fand Rhys ar y daith American Interior rhwng 2014 a 2015. Mae e wedi chwarae mewn band Gulp, gyda Guto Pryce hefyd o'r Super Furry Animals. Roedd e'n rhan o griw llwyfan Super Furry Animals yn ystod ei gigs mis Mai 2015.
Bandiau a phrosiectau
golyguDyma restr o'r bandiau a phrosiectau mae Kliph Scurlock wedi cyfrannu atyn nhw fel drymiwr a chanwr (oni nodir yn wahanol).
- 2002 i 2014: aelod o fand The Flaming Lips
- 2014 - 2015: aelod o fand Gruff Rhys ar daith American Interior[3]
- mis Mai 2015: criw llwyfan Super Furry Animals
- 25 Medi 2015: aelod o fand byw Gwenno
- 16 Rhagfyr 2015 - 2 Ionawr 2016: fel 'Cactopus', aelod o fand/cast Candylion; sioe gerdd Gruff Rhys / National Theatre Wales
- 5 Mawrth 2016 aelod o fand Alun Tan Lan yn y cystadleuaeth Can i Gymru
- 29 Ebrill 2016 aelod o fand Kansas Dance Troupe a gyfrannodd fersiwn o'r gân Merched Yn Neud Gwallt Eu Gilydd gan Gorky's Zygotic Mynci at yr albwm Iechyd Da ar Recordiau Prin[4]
- 19-20 mis Mai 2016: cyfranogwr Sesiwn UnNos Radio Cymru fel aelod o'r band Kaüs[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "The Flaming Lips - People - The Supporting Cast". FlamingLips.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-10-10. Cyrchwyd 2007-10-24.
- ↑ pitchfork.com; Archifwyd 2014-05-09 yn y Peiriant Wayback adalwyd 11 Tachwedd 2015.
- ↑ http://www.bbc.co.uk/cymrufyw/28686967
- ↑ http://www.walesonline.co.uk/whats-on/music-nightlife-news/artists-line-up-record-tribute-10951575
- ↑ http://www.bbc.co.uk/programmes/b07bkxv5
Dolenni allanol
golygu- Tudalen Kliph Scurlock ar MySpace
- Cyfweliad 2006 Kliph Scurlock gyda Jon Niccum, Lawrence Journal-World, Mehefin 10, 2006
- 2013 cyfweliad Kliph Scurlock Archifwyd 2014-06-06 yn y Peiriant Wayback gyda The Drummer’s Journal