Gwenno Saunders
Cantores a chwaraewr allweddellau Gymreig ydy Gwenno Mererid Saunders[1] (ganed 23 Mai 1981). Mae wedi teithio'r byd efo Pnau (Empire Of The Sun) ac Elton John. Cyn hynny bu'n aelod o fand pop The Pipettes. Mae hi'n siaradwraig Cymraeg rugl a hefyd yn siarad Cernyweg.[2] Caiff Gwenno ei hadnabod weithiau fel Gwenno Pipette. Cyhoeddodd albwm o'r enw'r Y Dydd Olaf yn Awst 2014, sydd wedi'i sylfaenu ar themâu ffug-wyddonol nofel o'r un enw a gyhoeddwyd yn 1976 gan Owain Owain.[3]
Gwenno Saunders | |
---|---|
Ganwyd | 23 Mai 1981 Caerdydd |
Label recordio | Recordiau Peski, Heavenly Recordings |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | canwr, cerddor |
Arddull | electropop |
Prif ddylanwad | Y Dydd Olaf |
Tad | Tim Saunders |
Gwefan | http://www.gwenno.info/ |
Bywgraffiad
golyguGaned Saunders yng Nghaerdydd,[4] yn ferch i'r ieithydd a bardd Cernyweg nodweddiadol, Tim Saunders,[5] a Lyn Mererid, sy'n aelod o'r côr sosialaidd Cymreig adnabyddus, Côr Cochion Caerdydd, ac yn gweithio fel cyfieithydd.
Bu Saunders yn mynychu Academi Dawns Wyddelig Seán Éireann-McMahon ers oedd hi'n bump oed,[6] roedd Gwenno hefyd yn aelod o gast gynhyrchiadau Michael Flatley, Lord Of The Dance[7] a Feet of Flames, tra roedd hi yn ei harddegau, a chwaraeodd y rhan arweiniol yng nghynyrchiad Las Vegas Lord Of The Dance. Yn 2001, cafodd ran yn y gyfres teledu Pobol y Cwm ar S4C, ac yn hwyrach cyflwynodd y rhaglen "Ydy Gwenno'n Gallu... ?".
Gyrfa gerddorol
golygu-
2014
-
2016
Yn ystod y blynyddoedd cyn ymaelodi â'r Pipettes, bu Gwenno yn gantores bop unigol, yn canu y rhan fwyaf drwy gyfrwng y Gymraeg a Chernyweg, gan ryddhau dwy EP unigol, Môr Hud[8] a ryddhawyd yn 2002, a Vodya[9] yn 2004. Yn ddiweddarach, cynrychiolodd Saunders Gernyw yn y Gystadleuaeth Cân Eurovision Amgen yn 2003, ac enillodd Wobr Dewis y Bobl am ei pherfformiad o Vodya.
Ymaelododd Gwenno â'r Pipettes ym mis Ebrill 2005 wedi i'r aelod cychwynnol, Julia, adael. Mae hi'n nodweddiadol yn bennaf am ei llais arweiniol ar y sengl Pull Shapes a chytgan Your Kisses Are Wasted on Me. Fe gyhoeddoedd gwaith unigol ar ei gwefan MySpace. Rhyddhaodd albwm unigol fechain U & I ym mis Hydref 2007. Wedi ymadawiad Rosay a RiotBecki o'r Pipettes, ymunodd chwaef ieuengaf Saunders, Ani â'r band ym mis Ebrill 2008.
Yn Rhagfyr 2005 cyrhaeddodd ei albwm Y Dydd Olaf restr fer un o brig siartiau cerddoriaeth Prydain. Dyma'r tro cyntaf i albwm Cymraeg ei hiaith gyrraedd y safle hwn.
Disgyddiaeth
golyguAlbymau ac EPs
golyguFformat | Teitl | Blwyddyn |
---|---|---|
EP | Vodya | 2002 |
EP | Ymbelydredd | 2012 |
Albwm | Y Dydd Olaf | 2014 |
Albwm | Le kov | 2018 |
Albwm | Tresor | 2022 |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "ASCAP: American Society of Composers, Authors and Publishers". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2011-05-23. Cyrchwyd 2010-03-04.
- ↑ "BBC.co.uk: Gwenno - in tune, in Cornish!". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-11-13. Cyrchwyd 2010-03-04.
- ↑ Gwefan Gwenno Saunders; Archifwyd 2015-08-11 yn y Peiriant Wayback adalwyd 8 Medi 2014
- ↑ Sweeping The Nation: A Friendly Chat With Gwenno
- ↑ "BBC Wales: Gwenno". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2006-03-22. Cyrchwyd 2006-03-22.
- ↑ "Lord of the Dance biographies". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2003-08-19. Cyrchwyd 2010-03-04.
- ↑ Manchester Evening News: Dotty about The Pipettes
- ↑ Môr Hud
- ↑ Vodya