Cân i Gymru
Rhaglen deledu a chystadleuaeth cân yw Cân i Gymru a chaiff ei darlledu gan S4C o gwmpas Dydd Gŵyl Dewi. Mae'r cyfansoddwr buddugol yn ennill swm o arian a chael y cyfle i gynrychioli Cymru yn yr Ŵyl Ban Geltaidd.
Cân i Gymru | |
---|---|
Gwlad/gwladwriaeth | Cymru |
Iaith/ieithoedd | Cymraeg |
Cynhyrchiad | |
Amser rhedeg | 120 munud (yn cynnwys hysbysebion) |
Darllediad | |
Sianel wreiddiol | BBC Cymru (1969) S4C (1983–) |
Rhediad cyntaf yn | 1969 |
Dolenni allanol | |
Gwefan swyddogol |
Hanes
golyguCyflwynwyd Cân i Gymru o dan yr enw 'Cân Disg a Dawn' am y tro cyntaf ym 1969. Ar y pryd roedd Meredydd Evans, pennaeth adloniant ysgafn BBC Cymru yn gobeithio byddai'r gân fuddugol yn gallu cystadlu yng Nghystadleuaeth Cân Eurovision, er y penderfynodd y BBC yn Llundain yn y diwedd mai dim ond un cân o wledydd Prydain fyddai'n cystadlu.[1]
Darlledwyd wyth rhaglen yn y gyfres i ddewis Cân i Gymru gyda saith cân ymhob un, yn cael eu perfformio gan gantorion adnabyddus y cyfnod. Roedd y cyhoedd yn pleidleisio drwy ddanfon llythyrau i mewn ac roedd y gân gyda'r nifer fwyaf o bleidleisiau yn mynd ymlaen i'r rownd derfynol.[2] Darlledwyd y rhaglen olaf ar 5 Mehefin 1969 drwy wledydd Prydain dan y teitl Song for Wales ac fe'i gyflwynwyd gan Ronnie Williams yn Gymraeg a Saesneg. Roedd panel wedyn yn dewis y gân fuddugol ar y noson. Roedd y rhaglen hefyd yn rhan o ddarpariaeth y BBC ar gyfer arwisgiad Tywysog Siarl a fyddai'n digwydd ar 1 Gorffennaf 1969.[3]
Yn dilyn sefydlu yr Ŵyl Ban Geltaidd yn Iwerddon ddechrau'r 70au dechreuodd Pwyllgor Cymru yr Ŵyl y gystadleuaeth 'Cân i Gymru' unwaith eto er mwyn dewis cân i gynrychioli Cymru yn y gystadleuaeth Celtavision. Doedd yna ddim cystadleuaeth Cân i Gymru yn 1973. I ddechrau doedd gan y cyfryngau yng Nghymru ddim llawer o ddiddordeb yn y gystadleuaeth. Doedd Cân i Gymru ddim yn cael ei darlledu yn fyw ar y teledu, a phanel oedd yn pleidleisio i ddewis enillwyr. Er enghraifft cynhaliwyd cystadleuaeth 1980 ym Mar Cefn yr Angel yn Aberystwyth ac fe'i darlledwyd ar Radio Cymru.
Erbyn 1982 roedd y gystadleuaeth nôl ar y teledu ond panel oedd yn dal i ddewis yr enillydd.
Erbyn hyn caiff y gân fuddugol ei dewis drwy bleidlais lle mae aelodau'r cyhoedd yn ffonio am eu hoff gân. Yn 2019 roedd y wobr yn £5,000 gyda £2,000 am yr ail safle a £1,000 am y trydydd safle. Bydd yr enillydd yn cael y cyfle i fynd ymlaen i gystadlu yn Celtavision, a gynhelir yn Iwerddon fel rhan o'r Ŵyl Ban Geltaidd.
Yn wahanol i'r mwyafrif o gystadlaethau canu yn Ewrop, pwysleisir cyfansoddwr y gân yn hytrach na'r perfformiwr.
Crynodeb o'r rhaglenni
golyguBlwyddyn | Nifer y caneuon | Cân fuddugol[4] | Perfformiwr/wyr | Cyfansoddwyr[5][6] | Lleoliad | Cyflwynwyr | Cwmni Cynhyrchu | Darlledwr | Dyddiad darlledu |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|---|
1969 | Y Cwilt Cymreig | Margaret Williams | Llifon Hughes-Jones, Megan Lloyd Ellis | Caerdydd | Ronnie Williams | BBC Cymru | BBC 1 | ||
1970 | 6 | Dydd o Haf | Y Canolwyr | Hawys James | Caerdydd | Ronnie Williams | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 23 Mai |
1971 | 6 | Nwy yn y Nen | Eleri Llwyd | Dewi 'Pws' Morris | Caerdydd | Huw Jones | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 31 Gorffennaf |
1972 | Pan Ddaw'r Dydd | Heather Jones | Geraint Jarman | Caerdydd | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 1 Mawrth | ||
Dim cystadleuaeth yn 1973 | |||||||||
1974 | 6 | I Gael Cymru'n Gymru Rydd | Iris Williams | Rod Thomas, Rod Gruffydd | Caerdydd | Dewi 'Pws' Morris | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 1 Mawrth |
1975 | Caledfwlch | Brân (grŵp) | Gwyndaf Roberts | Caerdydd | Hywel Gwynfryn | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 1 Mawrth | |
1976 | Y Llanc Glas Lygad | Rhian Rowe | Douglas Roberts | Caerdydd | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 1 Mawrth | ||
1977 | Dafydd ap Gwilym | Cawl Sefin | Peter Hughes Griffiths, Meinir Lloyd | Caerdydd | Gwyn Erfyl | HTV | HTV | 1 Mawrth | |
1978 | Angel Ble Wyt Ti | Delwyn Siôn a Brân | John Gwyn, Ronw Protheroe | Caerdydd | BBC Cymru | BBC 1 Cymru Wales | 1 Mawrth | ||
1979 | Ni Welaf yr Haf | Pererin (grwp) | Arfon Wyn | Caerdydd | Arfon Haines Davies | HTV | HTV | 1 Mawrth | |
1980 | 5 | Golau Tan Gwmwl | Plethyn | Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd | Aberystwyth | Emyr Wyn a Mynediad am Ddim
(Darllediad Radio yn unig) |
BBC Cymru | BBC Radio Cymru | 1 Mawrth |
1981 | 6 | Dechrau'r Dyfodol | Beca | Gareth Glyn, Eleri Cwyfan | Yr Wyddgrug | Gwyn Erfyl | HTV | HTV | |
1982 | 5 | Nid Llwynog Oedd yr Haul | Caryl Parry Jones a Bando | Geraint Lovgreen, Myrddin ap Dafydd | Caerdydd | Menna Gwyn ac Emyr Wyn | BBC Cymru | S4C | 1 Mawrth |
1983 | 6 | Popeth Ond Y Gwir | Linda Healy a Cleif Harpwood | Siân Wheway, Robin Gwyn | Caerdydd | Emyr Wyn | BBC Cymru | S4C | 1 Mawrth |
1984 | 5 | Y Cwm | Geraint Griffiths | Huw Chiswell | Caerdydd | Emyr Wyn | BBC Cymru | S4C | 1 Mawrth |
1985 | 6 | Ceiliog y Gwynt | Bwchadanas | Euros Rhys Evans | Caerdydd | Emyr Wyn | BBC Cymru | S4C | 1 Mawrth |
1986 | 6 | Be Ddylwn i Ddweud | Eirlys Parri | Mari Emlyn | Caerdydd | Margaret Williams | BBC Cymru | S4C | 1 Mawrth |
1987 | 8 | Gloria Tyrd Adre | Eryr Wen | Euros Elis Jones, Llion Jones | Llandudno | Caryl Parry Jones | Teledu'r Tir Glas | S4C | 15 Mawrth |
1988 | 8 | Can Wini | Manon Llwyd | Manon Llwyd, Eurig Wyn | Llandudno | Geraint Griffiths | Teledu'r Tir Glas | S4C | 13 Mawrth |
1989 | 8 | Twll Triongl | Hefin Huws | Hefin Huws, Les Morrison | Llandudno | Nia Roberts | Teledu'r Tir Glas | S4C | 19 Mawrth |
1990 | 8 | Gwlad y Rasta Gwyn | Sobin a'r Smaeliaid | Rhys Wyn Parry, Bryn Fôn | Alaw Bennett Jones ac Owain Gwilym | Teledu'r Tir Glas | S4C | 15 Mawrth | |
1991 | 8 | Yr Un Hen Lle | Neil Williams a'r Band | Richard Marks | Caernarfon | Nia Roberts | Teledu'r Tir Glas | S4C | 2 Mawrth |
1992 | 7 | Dal i Gredu | Eifion Williams | Gwennant Pyrs, Meleri Roberts, Alwen Derbyshire | Caernarfon | Nia Roberts | Teledu'r Tir Glas | S4C | 18 Ebrill |
1993 | 8 | Y Cam Nesa | Paul Gregory | Paul Gregory | Caernarfon | Nia Roberts | Teledu'r Tir Glas | S4C | 10 Ebrill |
1994 | 8 | Rhyw Ddydd | Geraint Griffiths | Paul Gregory, Lorraine King, Tim Hamill, Dave Parsons | Caerdydd | Nia Roberts a Stifyn Parri | HTV | S4C | 1 Mawrth |
1995 | 8 | Yr Ynys Werdd | Gwenda Owen | Richard Jones, Arwel John | Pontrhydfendigaid | Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
1996 | 8 | Cerrig yr Afon | Iwcs a Doyle | Iwan Roberts, John Doyle | Pontrhydfendigaid | Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
1997 | 8 | Un Funud Fach | Bryn Fôn | Barry Jones | Ponthydfendigaid | Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
1998 | 8 | Rho Dy Law | Arwel Wyn Roberts | Rhodri Tomos | Caerdydd | Nia Roberts | Apollo | S4C | 28 Chwefror |
1999 | 8 | Torri'n Rhydd | Steffan Rhys Williams | Matthew McAvoy, Steffan Rhys Williams | Corwen | Dafydd Du a Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
2000 | 8 | Cae o Ŷd | Martin Beattie | Arfon Wyn | Llangollen | Dafydd Du a Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
2001 | Dagrau Ddoe | Geinor Haf | Emlyn Dole | Llangollen | Dafydd Du a Nia Roberts | Apollo | S4C | 1 Mawrth | |
2002 | Harbwr Diogel | Elin Fflur | Arfon Wyn, Richard Synnott | Port Talbot | Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd | Apollo | S4C | 1 Mawrth | |
2003 | 16 | Oes Lle i Mi | Non Parry & Steffan Rhys Williams | Emma Walford, Mererid Hopwood | Port Talbot | Lisa Gwilym ac Angharad Llwyd | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
2004 | 16 | Dagrau Tawel | Rhian Mair Lewis | Meinir Richards. Tudur Dylan | Casnewydd | Sarra Elgan a Dafydd Du | Apollo | S4C | 1 Mawrth |
2005 | Mi Glywais | Rhydian Bowen Philips | Dafydd Jones, Guto Vaughan | Casnewydd | Sarra Elgan ac Alun Williams | Apollo | S4C | 1 Mawrth | |
2006 | 9 | Llii'r Nos | Ryland Teifi | Ryland Teifi | Port Talbot | Sarra Elgan a Hefin Thomas | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
2007 | 9 | Blwyddyn Mas | Einir Dafydd | Einir Dafydd, Ceri Wyn Jones | Port Talbot | Sarra Elgan a Hefin Thomas | Avanti | S4C | 2 Mawrth |
2008 | 9 | Atgofion | Aled Myrddin | Aled Myrddin | Port Talbot | Sarra Elgan a Rhydian Bowen Phillips | Avanti | S4C | 29 Mawrth |
2009 | 8 | Gofidiau | Elfed Morgan Morris | Lowri Watcyn Roberts, Elfed Morgan Morris | Llandudno | Sarra Elgan a Rhodri Owen | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
2010 | 8 | Bws i'r Lleuad | Tomos Wyn | Alun Evans | Llandudno | Sarra Elgan a Rhodri Owen | Avanti | S4C | 28 Chwefror |
2011 | 8 | Rhywun yn Rhywle | Tesni Jones | Steve Balsamo, Ynyr Gruffydd | Pontrhydfendigaid | Elin Fflur a Dafydd Du | Avanti | S4C | 6 Mawrth |
2012 | 8 | Braf yw Cael Byw | Gai Toms | Gai Toms, Philip Jones | Pontrhydfendigaid | Elin Fflur a Dafydd Du | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
2013 | 6 | Mynd I Gorwen Hefo Alys | Jessop a'r Sgweiri | Rhys Gwynfor, Osian Huw Williams | Caerdydd | Elin Fflur a Dafydd Du | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
2014 | 6 | Galw Amdanat Ti | Mirain Evans | Barry Evans, Mirain Evans[7] | Gwalchmai | Elin Fflur a Gethin Evans | Avanti | S4C | 28 Chwefror |
2015 | 8 | Y Lleuad a'r Sêr | Elin Angharad | Elin Angharad, Arfon Wyn[8] | Gwalchmai | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 7 Mawrth |
2016 | 8 | Dim Ond Un | Cordia | Ffion Elin, Rhys Jones[9] | Caerdydd | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 5 Mawrth |
2017 | 10 | Rhydd | Cadi Gwyn Edwards | Cadi Gwyn Edwards[10] | Caerdydd | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 11 Mawrth |
2018 | 8 | Cofio Hedd Wyn | Ceidwad y Gân | Erfyl Owen[11] | Bangor | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
2019 | 8 | Fel Hyn 'da Ni Fod | Elidyr Glyn | Elidyr Glyn[12] | Aberystwyth | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 6 Mawrth |
2020 | 8 | Cyn i’r Llenni Gau | Gruffydd Wyn | Gruffydd Wyn[13] | Aberystwyth | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 29 Chwefror |
2021 | 8 | Bach o Hwne | Morgan Elwy Williams | Morgan Elwy Williams[14] | Theatr Donald Gordon, Canolfan Mileniwm Cymru, Caerdydd | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 5 Mawrth |
2022 | 8 | Mae yna Le | Ryland Teifi | Rhydian Meilir[15] | Aberystwyth | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 4 Mawrth |
2023 | 8 | Patagonia | Dylan Morris | Alistair James[16] | Canolfan y Celfyddydau, Aberystwyth | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 3 Mawrth |
2024 | 8 | Ti | Sara Davies | Sara Davies[17] | Arena Abertawe | Elin Fflur a Trystan Ellis-Morris | Avanti | S4C | 1 Mawrth |
Mae nifer o gyfansoddwyr wedi bod yn fuddugol mwy nag unwaith, gan gynnwys Arfon Wyn. Ymhlith y caneuon poblogaidd a ddaeth yn ail yn y gystadleuaeth y mae Gwin Beaujolais (cân).
Y goreuon, yn ôl gwylwyr S4C, 2016
golyguYm Mawrth 2016 cynhaliodd S4C bleidlais o'r holl enillwyr ers 1982, a'r 7 uchaf oedd:
- 7fed: Cerrig Oer yr Afon - Iwcs a Doyle
- 6ed: Dagrau Tawel - Rhian Mair Lewis
- 5ed: Galw Amdanat Ti - Mirain a Barry Evans
- 4ydd: Harbwr Diogel - Arfon Wyn
- 3ydd: Y Cwm - Geraint Griffiths yn canu; Chiswell y cyfansoddwr
- 2il: Gofidiau - Elfed Morgan Morris
- 1af: Torri'n Rhydd - Steffan Rhys Williams
Dychan
golyguMae'r gystadleuaeth wedi bod yn destun dychan ar hyd y blynyddoedd. Ar gyfer Cân i Gymru 2019 cafwyd sgetch ddychan gan DJ Bry ar sianel ar-lein Hansh S4C, "Tips Bry ar Shwt i Ennill Cân i Gymru".[18]
Mae sylwadau o gefnogaeth, anghytuno a dychan ar y sioe ar Twitter yn boblogaidd iawn adeg darllediad y rhaglen yn fyw ar S4C. Mae'r hashnod #CiG2019 (neu'r flwyddyn gyfredol) yn 'trendio' ar Twitter ar draws Brydain adeg cyfnod y darllediad byw.[19]
Dolenni allanol
golygu- Cân i Gymru ar wefan S4C
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Can i Gymru Gwefan UKGameshows. Adalwyd ar 05-12-2010
- ↑ Lle oeddwn i: Margaret Williams, Cân i Gymru 1969 , BBC Cymru Fyw, 1 Mawrth 2019.
- ↑ (Saesneg) Genome - SONG FOR WALES. BBC.
- ↑ Archif Cân i Gymru ar S4C
- ↑ (Saesneg) Cân i Gymru: Y Casgliad Cyflawn 1969–2005. MusicBrainz.
- ↑ S4C yn agor Pôl Cân i Gymru fel rhan o ddathliadau Dydd Miwsig Cymru. S4C (2 Chwefror 2016). Adalwyd ar 6 Mawrth 2016.
- ↑ "Barry a Mirain Evans yn ennill Cân i Gymru 2014". BBC Cymru Fyw. 2014-02-28. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Cân i Gymru: Y Lleuad a'r Sêr ar y brig". BBC Cymru Fyw. 2015-03-08. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Band ifanc o Fôn yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2016-03-06. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Cantores ifanc o Lanrwst yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2017-03-12. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Erfyl Owen o ardal Rhuthun yn ennill Cân i Gymru". BBC Cymru Fyw. 2018-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Elidyr Glyn yn ennill Cân i Gymru 2019". BBC Cymru Fyw. 2019-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Gruffydd Wyn yn ennill Cân i Gymru 2020". BBC Cymru Fyw. 2020-03-01. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Morgan Elwy Williams yn ennill Cân i Gymru 2021". BBC Cymru Fyw. 2021-03-05. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Mae yna Le gan Rhydian Meilir yn ennill Cân i Gymru 2022". BBC Cymru Fyw. 2022-03-04. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Patagonia yn ennill cystadleuaeth Cân i Gymru 2023". BBC Cymru Fyw. 2023-03-03. Cyrchwyd 2023-03-04.
- ↑ "Sara Davies yn ennill Cân i Gymru 2024". BBC Cymru Fyw. 2024-03-01. Cyrchwyd 2024-03-01.
- ↑ https://www.youtube.com/watch?v=SwmyLol-zl8
- ↑ https://twitter.com/canigymru/status/1101589319956025345/