Llong allan o wasanaeth sy'n cael ei defnyddio fel uned storio a dadlwytho arnofol (floating storage and offloading unit neu FSO) mewn doc sych yn harbwr Dubai ac sy'n perthyn i'r cwmni Norwyaidd Fred Olsen Production yw'r Knock Nevis. Cyn hynny, roedd yn gwasanaethu fel tancer olew mawr ac yn dal y record am y llong fwyaf yn y byd. Fel tancer roedd yn cael ei adnabod fel y Seawise Giant, yr Happy Giant, a'r Jahre Viking. Cafodd ei adeiladu yn Oppama, Siapan yn 1979. Cafodd ei thynnu allan o wasaneth ar ôl dioddef niwed yn ystod Rhyfel Iran-Irac wrth forio Culfor Hormuz.

Knock Nevis
Math o gyfrwngtancer olew Edit this on Wikidata
Deunydddur Edit this on Wikidata
GwneuthurwrSumitomo Heavy Industries Edit this on Wikidata
Hyd458.45 metr Edit this on Wikidata
Tunelledd gros260,941 Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Knock Nevis yn harbwr Dubai
Hyd y Knock Nevis mewn cymhariaeth ag adeiladau uchaf y byd (cliciwch i weld manylion).

Mae gan y llong ddrafft o 24.6 m (81 troedfedd) wedi'i llwytho'n llawn, sy'n ei gwneud yn rhy fawr i forio Môr Udd hyd yn oed, heb sôn am gamlesi Suez a Panama. Mae'r Knock Nevis yn 458.45 m (1,504 tr) o hyd. Mae ei hyd yn fwy nag uchder rhai o adeiladau uchaf y byd, fel Adeilad Empire State (452 m, 1,480 tr) yn Efrog Newydd.

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu