Camlas Panamâ
Camlas 82 km (51 millt) yn Panamâ yw Camlas Panamâ (Sbaeneg: Canal de Panamá) sy'n cysylltu Cefnfor Iwerydd a'r Cefnfor Tawel. Fe'i crewyd er mwyn masnachu drwy longau cludo nwyddau. O ran peirianneg, mae'n un o'r prosiectau mwyaf ac anoddaf erioed, gyda llwybr tarw Camlas Panamâ yn lleihau'r amser i longau deithio rhwng cefnforoedd yr Iwerydd a'r Môr Tawel yn fawr, gan eu galluogi i osgoi llwybr hir a pheryglus Cape Horn o amgylch y rhan mwyaf deheuol o Dde America.
Math | camlas i longau |
---|---|
Agoriad swyddogol | 15 Awst 1914 |
Cysylltir gyda | Cefnfor yr Iwerydd, Y Cefnfor Tawel |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Seven Wonders of the Modern World |
Sir | Talaith Panamá, Panamá Oeste Province, Talaith Colón |
Gwlad | Panamâ |
Uwch y môr | 26 metr |
Cyfesurynnau | 9.12°N 79.75°W |
Hyd | 82 cilometr |
Statws treftadaeth | Historic Civil Engineering Landmark |
Manylion | |
Ceir locs ar bob pen sy'n codi llongau i fyny i Lyn Gatun, sef llyn artiffisial a grëwyd i leihau faint o waith cloddio sy'n ofynnol ar gyfer y gamlas, 26 m (85 tr) uwch lefel y môr, ac yna gostyngir y llongau yn y pen arall. Adeiladwyd trydydd lôn ehangach o lociau rhwng Medi 2007 a Mai 2016. Dechreuodd y ddyfrffordd estynedig weithredu'n fasnachol ar 26 Mehefin 2016. Mae'r cloeon newydd yn caniatáu cludo llongau New Panamax, llongau llawer mwy. Ceir hefyd dau grŵp o lociau ochr arfordir y Cefnfor Tawel ac un ochr arfordir Cefnfor Iwerydd gyda drysau dur enfawr yn pwyso 745 tunnell ar loc Gatún. Ond o ganlyniad i'w hadeiladwaith crefftus gellir eu hagor gan beiriant 30 kW (40 marchnerth). Ceir nifer o lociau ar y gamlas, ond maent i gyd mewn parau er sicrhau y gall y llongau fynd trwy'r gamlas i'r ddau gyfeiriad heb orfod colli gormod o amser.[1]
Mae'r gamlas yn mynd trwy Lyn Gatún sydd 26m yn uwch na lefel y môr, ac mae lefel y Cefnfor Tawel yn 24 cm yn uwch na lefel Cefnfor Iwerydd, ac mae llanw'r Cefnfor Tawel yn fwy hefyd.
Mae traffig blynyddol y gamlas wedi codi o tua 1,000 o longau ym 1914, pan agorodd y gamlas, i 14,702 o longau yn 2008, a chyfanswm o 333.7 miliwn o dunelli Camlas Panamâ / System Mesur Cyffredinol (PC / UMS).[2] Erbyn 2012, roedd mwy na 815,000 o gychod wedi pasio trwy'r gamlas. Yn 2017 cymerodd 11.38 awr ar gyfartaledd i longau basio rhwng dau loc y gamlas.[3] Mae Cymdeithas Peirianwyr Sifil America wedi graddio Camlas Panamâ yn un o saith rhyfeddod y byd modern.[4]
Hanes
golyguAm fod hi'n beryglus mynd o gwmpas yr Horn yn Ne America, roedd pobl wedi bod eisiau camlas dros culdir Panamâ ers blynyddoedd, ond dim ond yn y 1820au y daeth hynny i ymddangos yn bosib. Roedd pobl yn ystyried camlas ar draws Nicaragwa hefyd, ond nid adeiladwyd camlas o'r fath. Y cofnod cynharaf yn ymwneud â chamlas ar draws y tir dan sylw a elwir yn '"Guldir Panamâ" oedd ym 1534, pan orchmynnodd Siarl V, Ymerawdwr Glan Rufeinig a Brenin Sbaen, arolwg ar gyfer llwybr trwy'r America er mwyn hwyluso'r fordaith i longau sy'n teithio rhwng Sbaen a Pheriw. Roedd y Sbaenwyr yn ceisio ennill mantais filwrol dros y Portiwgaliaid.[5]
Llwyddodd Ferdinand de Lesseps, peiriannydd o Ffrainc adeiladu Camlas Suez yn yr Aifft, ac ef oedd y peiriannydd cyntaf i gynllunio'r gamlas. Dechreuodd y gwaith adeiladu ar 1 Ionawr, 1880. Ond yn wahanol i'r Aifft lle roedd aeiladu camlas Suez yn golygu cloddio tywod mewn diffeithdir, roedd yn rhaid cloddio cerrig mewn coedwig law a brwydro yn erbyn dilywiau yn ogystal ag afiechydon trofannol megis clefyd melyn a malaria a bu'n rhaid rhoi'r gorau i'r prosiect.[6][7]
Beth bynnag, roedd Theodore Roosevelt, Arlywydd yr Unol Daleithiau yn hyderus fod y prosiect hwn yn bwysig i'w wlad—am resymau milwrol yn ogystal â rhai economaidd. Ar y pryd, roedd Panamá yn rhan o Colombia, a felly dechreuodd trafodaethau â Colombia i gael caniatâd adeiladu. O ganlyniad, arwyddwyd Cytundeb Hay-Herran ym 1903, ond ni chadarnhawyd y cytundeb gan Senedd Colombia. Felly roedd Roosevelt yn cefnogi'r mudiad annibyniaeth Panamáidd ac yn danfon llongau rhyfel i'r arfordir pan ddechreuodd frwydr. Doedd gwrthwynebiad Colombia yn erbyn y chwyldro ddim yn cryf iawn (efallai er mwyn osgoi rhyfel yn erbyn yr Unol Daleithiau) a daeth Panamá i fod yn wlad annibyniol; rhoddwyd Camlas Panamá a'r ardal cyfagos i'r Unol Daleithiau ar 23 Chwefror, 1904 am gyfnod amhenodol.[8] Cafodd Panamá $10 miliwn am hynny (ar ôl Cytundeb Hay-Bunau-Varilla, 18 Tachwedd, 1903).[9] Hyd yn oed yn 2021, gwelai lawer o frodorion Panema hyn fel cam gwag a oedd yn bygwth sofraniaeth y wlad.[10][11]
Yn ystod yr adeiladu, bu arbenigwyr o'r Unol Daleithiau yn cryfhau mesurau iechyd ac yn dileu'r clefyd melyn. Roedd tri prif peiriannydd yn gweithio ar y gamlas: doedd y cyntaf, John Findlay Wallace, nad oedd yn llwyddiannus iawn, ac ymddiswyddodd ar ôl blwyddyn. Gwnaethpwyd y gwaith sylfaenol gan yr ail, John Stevens, ond fe ymddiswyddodd yntau ym 1907. Cwblhawyd y gamlas gan y trydydd, y milwr Americanaidd George Washington Goethals.
Cynllun de Lesseps oedd adeiladu camlas ar lefel y môr, ond methodd a datrys problem yr Afon Chagres a oprlifai'n aml yn ystod y tymor glaw. Felly cynlluniodd Stevens gamlas gyda lociau, gan adeiladu argae enfawr dros Afon Chagres ger Gatún. Defnyddir y llyn enfawr, a grewyd o ganlyniad, i gynhyrchu trydan—ac i'w groesi ar long. Felly mae traean y gamlas yn daith ar hyd lyn artiffisial. Camp enfawr oedd cloddio ffordd trwy wahanfa ddŵr ger Culebra (Toriad Caillard erbyn hyn). Daeth gwaith adeiladu'r gamlas i ben ar y degfed o Hydref, 1913, pan ffrwydrwyd Gamboa Dike gan yr Arlywydd Woodrow Wilson mewn seremoni swyddogol.
Roedd llawer o weithwyr o India'r gorllewin yn gweithio ar greu'r gamlas, a bu o leiaf 5,609 ohonyn farw wrth eu gwaith.
Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd llongau rhyfel yr Unol Daleithiau yn mynd trwy'r camlas i'r Môr Tawel a roedd Cylchfa'r Gamlas o dan reolaeth yr Unol Daleithiau hyd i 31 Rhagfyr, 1999. Daeth rheolaeth yr Unol Daleithiau ar ben yn ganlyniad i Gytundeb Torrijos-Carter (a arwyddwyd ym 1977 gan yr Arlywydd Jimmy Carter) oedd yn rhoi'r gamlas o dan reolaeth Panamá.
Llyn Gatun
golyguCreewyd y llyn yn 1913 trwy godi argae ar draws Afon Chagres. Mae Llyn Gatun yn rhan allweddol o Gamlas Panamâ, gan ddarparu'r miliynau o litrau o ddŵr sy'n angenrheidiol i weithredu'r locs bob tro y mae llong yn mynd trwodd. Ar adeg ei ffurfio, Llyn Gatun oedd y llyn mwyaf yn y byd o waith dyn. Y fforest law amhosibl o amgylch y llyn fu'r amddiffyniad gorau i Gamlas Panamâ. Heddiw mae'r coedwigoedd hyn yn parhau i fod yn ardaloedd heb ymyrraeth ddynol ac maent yn un o'r ychydig ardaloedd hygyrch lle gellir gweld amryw o rywogaethau brodorol o anifeiliaid a phlanhigion Canol America heb darfu arnynt yn eu cynefin naturiol.
Yr ynys fwyaf ar Lyn Gatun yw Ynys Barro Colorado. Fe'i sefydlwyd ar gyfer astudiaeth wyddonol pan ffurfiwyd y llyn, ac mae'n cael ei weithredu gan y Sefydliad Smithsonian. Tarddodd llawer o ddarganfyddiadau gwyddonol a biolegol pwysig o'r deyrnas anifeiliaid a phlanhigion trofannol yma. Mae Llyn Gatun yn gorchuddio tua 470 km2 (180 metr sgwâr), parth ecolegol trofannol helaeth a rhan o Goridor Coedwig yr Iwerydd. Mae ecodwristiaeth ar y llyn wedi dod yn ddiwydiant i Banamaniaid.
Mae Llyn Gatun yn darparu dŵr yfed ar gyfer Dinas Panamâ a Colón. Pysgota yw un o'r prif weithgareddau hamdden ar Lyn Gatun. Cyflwynwyd y cichia anfrodorol ar ddamwain i Lyn Gatun tua 1967 gan ddyn busnes lleol, ac ers hynny maent wedi ffynnu i ddod yn brif bysgod hela yn Llyn Gatun.[12][13]
Gelwir y pysgodyn hwn yn "Sargento" yn lleol a chredir mai dyna'r rhywogaeth Cichla pleiozona, iddynt darddu o fasnau afonydd Amazon, Rio Negro, ac Orinoco, lle maen nhw'n cael eu hystyried yn brif bysgod o ran pysgota.[14]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Zamorano, Juan; Martinez, Kathia (26 Mehefin 2016). "Panama Canal opens $5B locks, bullish despite shipping woes". The Big Story. Associated Press. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 26 Mehefin 2016. Cyrchwyd 6 Mawrth 2017.
- ↑ "Panama Canal Traffic—Years 1914–2010". Panama Canal Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-12-30. Cyrchwyd 2011-01-25.
- ↑ "Annual Report 2017" (PDF). Panama Canal Authority. Archifwyd (PDF) o'r gwreiddiol ar 2021-04-03. Cyrchwyd 2021-04-02.
- ↑ "Seven Wonders". American Society of Civil Engineers. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2010-08-02. Cyrchwyd 2011-02-21.
- ↑ "A History of the Panama Canal: French and American Construction Efforts". Panama Canal Authority. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2014-12-15. Cyrchwyd 2007-09-03.; Chapter 3, Some Early Canal Plans Archifwyd 2015-01-02 yn y Peiriant Wayback
- ↑ McCullough 1977, t. 125.
- ↑ Cadbury, Deborah (2003). Seven Wonders of the Industrial World. London and New York: Fourth Estate. tt. 252–260.
- ↑ "Avalon Project—Convention for the Construction of a Ship Canal (Hay-Bunau-Varilla Treaty), November 18, 1903". Avalon.law.yale.edu. Cyrchwyd 2010-10-24.
- ↑ Livingstone, Grace (2009). America's Backyard : The United States and Latin America from the Monroe Doctrine to the War on Terror. London: Zed. tt. 13. ISBN 9781848132146.
- ↑ "September 07, 1977 : Panama to control canal". History.com. 2010. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-04-10. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
- ↑ Lowe, Vaughan (28 Medi 2007). International Law. Oxford University Press. t. 66. ISBN 9780191509070. Cyrchwyd 4 Ebrill 2015.
- ↑ Zaret, Thomas M.; Paine, R.T. (2 Tachwedd 1973). "Species Introduction in a Tropical Lake". Science 182 (4111): 449–455. Bibcode 1973Sci...182..449Z. doi:10.1126/science.182.4111.449. PMID 17832455. https://archive.org/details/sim_science_1973-11-02_182_4111/page/449.
- ↑ "Peacock Bass: Fun to Catch, Fine to Eat". Panama Canal Review: 11. Chwefror 1971. https://archive.org/stream/panamacanalrevie1971pana#page/11/mode/1up. Adalwyd 2012-04-30.
- ↑ "Gatun Lake Peacock Bass Fishing Charters". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 22 Gorffennaf 2010. Cyrchwyd 2012-04-30.