Yn llên gwerin Llydaw, creadur bychan arallfydol tebyg i gorrach yw'r korrigan (Llydaweg, lluosog: korriganed). Gwraidd y gair yw korr (sef cor[rach] yn Gymraeg). I ryw raddau gellid disgrifio'r korriganiaid fel "Tylwyth Teg Llydaw".

Korrigan

Ceir sawl traddodiad a chwedl werin am y korriganiaid. Mae ganddynt wallt deniadol a llygaid coch disglair. Yn aml maent yn wrthwynebus i Gristnogaeth ac yn elyniaethus tuag at offeiriaid, eglwysi ac addoliad y Forwyn Fair ; disgrifiad sy'n atgof o wrthdaro rhwng y grefydd Geltaidd baganaidd yn Llydaw a'r cenhadon Cristnogol cynnar, efallai. Dywedir eu bod yn gallu darogan y dyfodol, newid rhith a symud yn gyflym. Fe'u cysylltir â ffynhonnau a ffrydiau. Weithiau ceir korraniaid yn syrthio mewn cariad â meidrolion. Maent yn gwarchod trysor cudd ac yn dawnsio mewn cylchoedd. Fel y Tylwyth Teg yng Nghymru a gwledydd eraill, ceir chwedlau amdanynt yn cyfnewid un o'u plant hwy am blentyn meidrol. Dywedir hefyd eu bod i'w gweld ger cromlechi ar Nos Calan Gaeaf.

Cyfeiriodd yr ysgolhaig Cymreig Ifor Williams at y posiblrwydd fod cysylltiad rhwng y Coraniaid - creaduriaid rhyfeddol sy'n aflonyddu ar Ynys Prydain yn y chwedl Gymraeg Canol Cyfranc Lludd a Llefelys - a'r korriganed o Lydaw.