Label Libertino
Label recordio cerddoriaeth amgen yw Recordiau Libertino (Saesneg: Libertino Records). Mae'n rhyddhau caneuon gan artistiaid sy'n canu yn y Gymraeg ac yn y Saesneg. Rhyddhawyd y traciau cyntaf yn 2017. Prif Weithredwr y label yw Gruff Owen.[1] Ceir oddeutu 20 o artistiaid ar lyfrau'r label.[2]
Enghraifft o'r canlynol | label recordio |
---|---|
Dechrau/Sefydlu | 2017 |
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, alternative music |
Gwefan | https://www.libertinorecords.com/ |
Natur
golyguMae Libertino yn gartref hollgynhwysol i artistiaid – darperir asiant archebu/cymorth taith, cysylltiadau cyhoeddus mewnol, rheoli artistiaid yn ogystal â chymorth creadigol. Yn ôl y Prif Weithredwr, Gruff Owen, "Credaf yn gryf y dylai celf fod yn gynhwysol ac nid yn gyfyngedig gan greu cymuned ar lawr gwlad. Nod Libertino yw rhoi llwyfan i artistiaid hedfan ohono a’r wybodaeth am sut i hedfan yn llwyddiannus."[3]
Cyd-weithio gyda Phrifysgol De Cymru
golyguYm mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Prifysgol De Cymru bartneriaeth diwydiant gyda’r label. Mae'n cynnig mynediad i fyfyrwyr Cerddoriaeth i ddosbarthiadau meistr, briffiau busnes pwrpasol a gwobr i raddedigion am ragoriaeth. Cynorthwyddodd Prif Weithredwr Recordiau Libertino, Gruff Owen, gan ddod â’i brofiad i gwrs MA Ysgrifennu Caneuon a Chynhyrchu y Brifysgol, ar ôl helpu’r label i dyfu’n sylweddol yn y blynyddoedd diwethaf i frolio dros 20 o artistiaid o fri rhyngwladol sy’n creu a pherfformio trwy gyfrwng y Gymraeg a Saesneg.[4]
Artistiaid
golyguMae'r Libertino yn rhyddhau caneuon nifer o artistiaid pop a roc. Dyma'r rhai sy'n canu yn y Gymraeg (yn 2022):
Ymhlith y bandiau eraill mae:
- N'Famady Kouyaté
Dolenni allanol
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ "Libertino Records". Gwefan Discogs. Cyrchwyd 10 Tachwedd 2022.
- ↑ "USW Announces Partnership with Libertino Records". Business News Wales. 23 Tachwedd 2021.
- ↑ "Gruff Owen (LIBERTINO)". Gwefan Focus Wales. 2022. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-10. Cyrchwyd 2022-11-10.
- ↑ "USW Announces Partnership with Libertino Records". Business News Wales. 23 Tachwedd 2021.