Adwaith (band)

grŵp gerddoriaeth roc indie Cymraeg

Mae Adwaith yn grŵp roc indie Cymraeg o Gaerfyrddin yng Ngorllewin Cymru, a ffurfiwyd yn 2015. Ar hyn o bryd mae'r grŵp yn cynnwys Hollie Singer (lleisiau, gitâr), Gwenllian Anthony (bas, allweddi, mandolin), a Heledd Owen (drymiau). Mae'r band wedi ei arwyddo i Label Libertino.

Adwaith
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Label recordioLabel Libertino Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Adwaith yn chwarae yn un o'i gigs cyntaf nhw yn y Parrot, Caerfyrddin (2016).

Magwyd aelodau’r band Hollie Singer a Gwenllian Anthony gyda’i gilydd yng Nghaerfyrddin ac maent wedi adnabod ei gilydd ers yn dair oed.[1][2] Ar ôl ffurfio band a pherfformio yn y dref, roedd nhw heb ddrymiwr, a fe wnaethon nhw chwrdd â'r drymiwr presennol Heledd Owen yn eu perfformiad cyntaf.[1]Fe wnaeth y band gael ei gymryd i fyny gan bennaeth Libertino Records, Gruff Wyn Owen.[1] Dywedodd Singer mae syniad un o'i mamau oedd defnyddio'r enw Adwaith, "Gofynnodd un o'n mamau beth oedd 'reaction' yn Gymraeg, ac roedden ni'n meddwl 'O, byddai hynny'n gwneud enw band cŵl!'"

Ymddangosodd Adwaith gyntaf ar y sin roc Gymraeg i gynulleidfa eang yn Dydd Miwsig Cymru 2017, lle perfformiodd y grŵp yn Castle Emporium Womanby Street, gan ryddhau cerddoriaeth newydd ac ymuno â nifer o artistiaid Cymraeg newydd fel rhan o'r ymgyrch hyrwyddo y sefydliad.[3] Fel rhan o'r diwrnod, mae David Owens yn enwi'r band yn ei restr "75 caneuon i ddathlu Dydd Miwsig Cymru".[3]

 
Adwaith yn perfformio yn Dydd Miwsig Cymru 2017

Fe wnaethant chwarae yn 2017 ar lwyfannau BBC Introducing yn ngŵyl Latitude ac maen nhw hefyd wedi recordio yn stiwdios byd-enwog y BBC, Maida Vale.[4]

Rhwng 30 Tachwedd 2017 ac 2 Rhagfyr 2017 roeddent yn cymryd rhan yng ngŵyl SUNS Europe, sef gŵyl celfyddydau yn yr Eidal ar gyfer ieithoedd lleiafrifol.[5]

Ym mis Rhagfyr 2017 cyhoeddwyd bod y band yn dderbynwyr cyllid Cyngor Celfyddydau a BBC Cymru o dan gynllun Gorwelion, gan dderbyn rhan o gronfa gwerth £35,000 a rannwyd ymhlith cerddorion Cymreig annibynnol cyfoes.[6]Enwyd y band fel rhan o'r rhestr fer 12 enw ar gyfer rhifyn 2018 o Horizons Gorwelion.[2]

Mae'r band wedi perfformio yn Future is Female, ac fe wnaethant cychwyn gigs FEMME eu hunain gyda'r bwriad o gynnig lle diogel i fenywod.[4] Mae perfformwyr FEMME wedi cynnwys Ani Glass, Chroma, Serol Serol, Gwenno a Patricia Morgan o Datblygu.[1] Dywedodd Gwenllian Anthony “Ni’n really [ddim] yn gweld ein hunan fel band o ferched, ni jyst yn gweld ein hunain fel band ac wedyn wnaeth pobol dechrau mentiono fe a doeddwn i ddim yn sylweddoli cyn lleied o ferched sydd yn y sîn,”[4]

Sengl y band, "Fel i Fod", yw'r un sydd wedi cael ei ffrydio fwyaf hyd yma gyda dros hanner miliwn o ffrydiau, ac fe'i defnyddiwyd gan dîm menywod Cymdeithas Bêl-droed Cymru wrth cynyddu momentwm rhwng gemau.[1]

Rhyddhaodd y band eu halbwm cyntaf, Melyn ym mis Hydref 2018, wedi'i recordio yn Giant Wafer Studios ym Mhowys ac yn Music Box yng Nghaerdydd, a'i gynhyrchu gan Steff Pringle, chwaraewr bas Estrons.[1][7] Dyluniwyd llawes drawiadol yr albwm gan H. Hawkline. Ailgymysgwyd sengl y band, Gartref, yn 2018 gan James Bradfield, aelod Manic Street Preachers[1] ac enwyd "Y Diweddaraf" yn Trac y Dydd Clash Magazine ar gyfer y 1af o Hydref. Cafodd y band sylw yn The Guardian mewn ddarn ar dwf diwylliant pop Cymraeg.[8]

Ym mis Tachwedd 2019, cyhoeddwyd bod y band yn enillydd Gwobr Gerddoriaeth Gymreig am yr albwm Melyn. Dywedodd Huw Stephens, "Mae Adwaith wedi cael effaith wirioneddol gyda'u cerddoriaeth bersonol, hardd sy'n cyfleu sut beth yw bod yn ifanc, benywaidd, rhwystredig a dryslyd yn y byd rydyn ni'n byw ynddo. Enillydd cyffrous a haeddiannol iawn o restr fer eithriadol".[9] Bu'r band hefyd yn cymryd rhan yn Dydd Miwsig Cymru mewn amryw fodd.

Fe wnaeth Adwaith derbyn £10,000 o gronfa gerddoriaeth Brydeinig y ‘PPL Momentum Music Fund‘ ym mis Rhagfyr 2020 i’w wario ar farchnata a hyrwyddo eu halbwm nesaf. Dyma'r tro cyntaf i band Cymraeg cael ei noddi.[10][11]

 
Adwaith yn perfformio yng Ngŵyl Traeth Rockaway, 2020

Mewn rhaglen 'Maes B:Merched yn Gwneud Miwsig' oedd ar S4C ar 6 Awst 2021[12] perfformiwyd Adwaith 3 chân. Datgelwyd Gwenllian Anthony bod Adwaith mynd i ryddhau ei ail albwm ddechrau 2022.[13]

Gwleidyddiaeth

golygu

Mae adwaith yn gefnogwyr o annibyniaeth i Gymru. Fe wnaethant ddweud wrth Yes is More: “Mae pobl Prydain yn dibynnu gormod ar San Steffan a Lloegr ac mae trigolion yr Alban a Chymru’n sylweddoli’n gyflym iawn fod annibyniaeth yn ddewis gwych. Mae angen arweinydd arnom ni sy’n rhoi Cymru gyntaf ac sy’n gwerthfawrogi’r diwylliant a’r iaith o ddifri.”[14]

Dywedodd Gwenllian Anthony wrth golwg360 “Mae yna fwy o waith i’w wneud o ran cydraddoldeb, ond mae’n mynd yn y cyfeiriad cywir. Gobeithio, o fewn y blynydde nesa’, y byddwn ni’n cyrraedd sefyllfa deg. Dyna dw i’n gobeithio.”[15]

Aelodau'r band

golygu
  • Hollie Singer - Llais, gitâr (2015-presennol)
  • Gwenllian Anthony - bas, allweddi, mandolin (2015-presennol)
  • Heledd Owen - drymiau (2015 - presennol)
  • Gillie Rowland - gitâr (2023)
  • Rhys Grail - gitâr (2024 - presennol)

Disgyddiaeth

golygu

Senglau

golygu
Blwyddyn Teitl Label Albwm
2018 "Fel i Fod / Newid" Label Libertino Melyn
2018 "Pwysau" Label Libertino Melyn
2018 "Haul" Label Libertino
2018 "Femme / Lipstick Coch" Label Libertino Melyn
2018 "Gartref / Remix James Dean Bradfield" Label Libertino Melyn
2018 "Y Diweddaraf" Label Libertino Melyn
2019 "O Dan Y Haenau" Label Libertino Melyn
2019 "Wine Time"/"Hey!" Label Libertino
2020 "Orange Sofa"/ "Byd Ffyg" Label Libertino
2020 "Lan Y Môr" Label Libertino Bato Mato
2022 "Eto" Label Libertino Bato Mato
2023 "Addo" Label Libertino
2024 "Mwy" Label Libertino

Albymau

golygu
Blwyddyn Teitl Label
2018 Melyn Recordiau Libertino
2022 Bato Mato Recordiau Libertino

[16]

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 Cummings, Bill (2018-08-13). "IN CONVERSATION: Adwaith". God Is In The TV (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-09.
  2. 2.0 2.1 "BBC Radio Cymru - Gorwelion - ADWAITH". BBC. Cyrchwyd 2021-08-09.
  3. 3.0 3.1 Owens, David (2017-02-10). "75 songs to celebrate Welsh Language Music Day". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-09.
  4. 4.0 4.1 4.2 "MERCHED Y SIN ROC #2: "Dyw menywod ddim yn gweld role models"". Golwg360. 2017-12-27. Cyrchwyd 2021-08-09.
  5. "Adwaith yn cael mynd i'r Eidal". Golwg360. 2017-11-12. Cyrchwyd 2021-08-09.
  6. Owens, David (2017-12-06). "These future Welsh music stars have won bursaries to help them reach the top". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-09.
  7. "Track Of The Day 1/10 - Adwaith". Clash Magazine (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-08-09.
  8. "Welsh-language pop culture is having a party – and everyone's invited | Rhiannon Lucy Cosslett". the Guardian (yn Saesneg). 2018-12-12. Cyrchwyd 2021-08-09.
  9. "Adwaith yn cipio Gwobr Gerddoriaeth Gymreig 2019". BBC Cymru Fyw. 2019-11-27. Cyrchwyd 2021-08-09.
  10. Selar, Y. (2020-12-20). "Dyfarnu £10,000 o Gronfa Momentwm y PPL i Adwaith". Y Selar. Cyrchwyd 2021-08-09.
  11. "Y band Adwaith i dderbyn £10,000 – "moment fawr i gerddoriaeth Gymraeg"". Golwg360. 2020-12-18. Cyrchwyd 2021-08-09.
  12. "Trysorau'r Eisteddfod Genedlaethol yn gefnlen i rai o artisiaid blaenllaw Cymru mewn rhaglen newydd". Golwg360. 2021-07-23. Cyrchwyd 2021-08-09.
  13. "S4C - Yr Eisteddfod Gudd, Gymanfa Ganu yr Eist, Merched yn Gwneud Miwsig". BBC. Cyrchwyd 2021-08-09.
  14. "Adwaith". yes is more (yn Saesneg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-08-09. Cyrchwyd 2021-08-09.
  15. ""Mwy o waith i'w wneud" o ran bandiau merched ym Maes B". Golwg360. 2018-05-17. Cyrchwyd 2021-08-09.
  16. "Carmarthen indie group Adwaith become first band to win Welsh Music Price for second year in a row". ITV (yn Saesneg). Cyrchwyd 27 Hydref 2022.

 

Dolenni allanol

golygu