Ynys (band)
Band pop o Aberystwyth yw Ynys. Prif leisydd a symbylydd y grŵp yw Dylan Hughes bu gynt yn aelod o'r grwpiau Radio Luxembourg a newidiodd eu henw wedyn i Race Horses ac yna, Endaf Gremlin. Mae eu caneuon yn gwneud defnydd o'r syntheseinydd a disgrifir eu caneuon fel "haenog a melodig" [1] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, disgrifia Dylan Hughes y gerddoriaeth fel, "pop amgen o'r un brethyn ag ELO, Elliot Smith, Teenage Fanclub, a Gorky's Zygotic Mynci." Disgrifiwyd y sain gan eraill fel "Cyfoethog ac yn sinematig ei naws ond eto i gyd yn fachog ac yn hawdd gwrando arno. Gan ddefnyddio synths diddorol o’r 80au a haenau o gitarau ‘jangli’ a lleisiau hyfryd sydd yn harmoneiddio yn gelfydd," Bu’r band yn perfformio set byw ar sioe boblogaidd a dylanwadol, Mark Riley ar BBC Radio 6 Music. Bu un o’r senglau oddi ar yr albwm Ynys, sef ‘Môr Du’, yn 'Trac yr Wythnos' ar BBC Radio Cymru ym mis Hydref 2022.[2]
Enghraifft o'r canlynol | band |
---|---|
Genre | cerddoriaeth boblogaidd, synthpop |
Hanes
golyguFfurfiwyd y band yn 2019 pan bu i Hughes a ddau ffrind a chyn-aelodau Race Horses, Gwion Llewelyn a Mali Llywelyn, recodio caneuon yn stiwdio Iwan Morgan yn Lerpwl sydd wedi recordo grwpiau eraill i Label Libertino.[3] Mewn cyfweliad i bapur bro Aberystwyth, Yr Angor, esboniodd Dylan sut iddo gael awydd recordio caneuon newydd a meddwl 'beth yw'r gwaethaf gall ddigwydd?". Penderfynodd Dylan Hughes beidio recordio o dan ei enw ei hun ac mae'n "falch iawn i mi ddewis Ynys o edrych yn ôl ar rai o'r syniadau eraill!".
Aelodau
golyguMae sawl gwahanol cerddor wedi cydweithio a recordio gyda'r grŵp:
- Dylan Hughes - gitâr, syntheseinydd, piano, llais
- Gwion Llewelyn - dymiau, llais, offer taro, girâr
- Matthew Fry - gitâr fâs
- Mali Llywelyn - telyn, llais
- Eifion Austin - gitâr fâs
- Siôn Rhys Jones - gitâr
- Aled Evans - drymiau
- Frank Naughton - offer taro
- Heledd Watkins - gitâr fâs
- Tara Bethan - allweddellau a llais
Disgograffi
golyguYmysg caneuon mwyaf adnabyddus y grŵp mae Caneuon Mae'n Hawdd, Aros am Byth, a Môr Du. Ym mis Medi rhyddhawyd fideo Newid gan Lŵp.[4]
Senglau
golygu- Caneuon
- Mae'n Hawdd Label Libertino, 2019
- Aris am Byth
- There’s Nothing the Sea Doesn’t Know
- Môr Du
- Aros Amdanat Ti
- Gyda Ni
- Shindig
Albwm
golyguFideos
golygu- Caneuon 2019
- Mae'n Hawdd 2019
- Newid 2022
- There's Nothing the Sea Doesn't Know 2022
- Gyda Ni 2024
- Shindig 2024
- Dosbarth Nos 2024
- Hi Sy'n Canu 2024
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ynys ar Bandcamp
- @YnysMusic Twitter Ynys
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Gadael sŵn y ddinas ar ôl". Golwg. 20 Hydref 2022.
- ↑ "Gigs Cantre'r Gwaelod: Dychwelyd gyda dau gig o safon cyn diwedd 2022". Gwefan newyddion BroAber360. 24 Hydref 2022.
- ↑ ""Welsh music is not a genre." Welsh artist Ynys chats to Northern Soul". Northern Soul. 21 Awst 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2022-11-04. Cyrchwyd 2022-11-04.
- ↑ "Ynys - Newid". Sianel Lŵp ar Youtube. 2022.
- ↑ "Ynys". Bandcamp. 2022.
- ↑ "Ynys". Bandcamp. 2024.