Los Blancos (band)

Band Roc Gymraeg

Grŵp Cymraeg o ardal Caerfyrddin yw Los Blancos. Maent wedi rhyddhau dau albwm. Roedd iddynt bedwar aelod yn wreiddiol ond cynyddodd hynny i bump bellach. Los Blancos yw llysenw clwb pêl-droed Real Madrid. Ceir hefyd artist Sbaeneg ei iaith o'r enw 'Los Blancos'.

Los Blancos
Enghraifft o'r canlynolband Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Genrecerddoriaeth roc Edit this on Wikidata
GwladwriaethCymru Edit this on Wikidata

Arddull Gerddorol golygu

Dywedir bod eu cerddoriaeth yn adlewyrchu seiniau grwpiau Saesneg fel Husker Dü a'r Jesus and Mary Chain cynnar, yn enwedig caneuon fel Dilyn Iesu Grist. Ysgrifennwyd bod cân Cadw Fi Lan gyda'i canu breuddwydiol a rhyddm igam-ogam yn awgrym o'r Velvet Underground a'r Wedding Present.[1]

Aelodau golygu

Mae pump aelod i'r band:[2]

Gwyn - canu
Emyr - gitâr drydan
Cian
Dewi
Osian - drymiau

Recordiau golygu

Sbwriel Gwyn golygu

Albwm cyntaf Los Blancos, Sbwriel Gwyn, yw’r diweddaraf o don o albymau anhygoel i ddod gan label Recordiau Libertino. Mae’r record yma gan y pedwarawd o Gaerfyrddin yn gymysgedd o senglau adnabyddus y grŵp, fel ‘Cadw Fi Lan’ a ‘Clarach,’ a chynnyrch newydd roedd eisoes yn ffefrynnau mewn gigs. Mae egni amrwd byw'r band yn cael ei amlygu drwy gydol yr albwm diolch i gynhyrchu Kris Jenkins. Heb amheuaeth mae’r record yma wedi sicrhau lle Los Blancos fel un o brif fandiau’r sîn.[3] Enwebwyd yr albwm ar gyfer Gwobr Gerddoriaeth Gymreig.[4] Record Sbwriel Gwyn.[5]

Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig golygu

Cyhoeddwyd Detholiad o Ganeuon Traddodiadol Cymreig[6] yn 2021 a'i rhyddhau ar lwyfannau ffrydio megis Spotify.[7] Nid yw'r albwm yn cynnwys "caneuon traddodiadaol Cymreig" ond yn hytrach pump o ganeuon sydd wedi eu hysgrifennu gan y band gan gynnwys 5 cân gan bob un aelod unigol o'r band. Ysgrifennwyd a recordiwyd yr albwm yn ystod y Cyfnod Clo haint Covid-19 yn 2020-21 wrth i'r band ddisgwyl i fynd yn ôl i'r stiwdio i recordio.[8] Mae swn miwsig 'indi' yr 1990au.[9] Cynhyrchwyd y caneuon gan Kris Jenkins.[10]

Disgograffi golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. https://www.godisinthetvzine.co.uk/2019/11/26/introducing-los-blancos/
  2. https://twitter.com/blancoslos502/status/1433722465029664770/photo/1
  3. "copi archif". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2021-09-04. Cyrchwyd 2021-09-04.
  4. https://americymru.net/ceri-shaw/blog/5416/los-blancos-ep-newydd-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-allan-nawr-ep-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-ou
  5. https://www.libertinorecords.com/product-page/sbwriel-gwyn-los-blancos-pre-order
  6. https://album.link/i/1577413857
  7. https://open.spotify.com/album/56vBBHhTBr3v7V0nRVhNLi
  8. https://twitter.com/blancoslos502/status/1433722465029664770/photo/1
  9. https://theindyreview.com/2021/09/01/world-watch-los-blancos/
  10. https://americymru.net/ceri-shaw/blog/5416/los-blancos-ep-newydd-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-allan-nawr-ep-detholiad-o-ganeuon-traddodiadol-cymreig-ou

Dolenni allanol golygu

Facebook Los Blancos
Twitter @blancoslos502
Cadw fi Lan ar Youtube
  Eginyn erthygl sydd uchod am gerddoriaeth Cymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato