Grŵp ethnig sydd yn byw'n bennaf yn rhanbarth Trentino-Alto Adige yng ngogledd yr Eidal yw'r Ladinwyr. Maent yn siarad Ladineg, iaith neu dafodiaith Raetieg o deulu'r ieithoedd Romáwns, ac felly maent yn perthyn yn ieithyddol i'r Ffriwliaid a'r Románsh.

Map o gymunedau'r Ladinwyr yng ngogledd yr Eidal.

Gellir olrhain y llwyth a roddwyd enw'r grŵp ieithyddol, sef y Rhaetiaid, yn ôl i'r 2g CC. Ers hynny mae sawl pobl a fu'n byw yn yr ardal, gan gynnwys yr Etrwsgiaid, yr Ilyriaid, y Rhufeiniaid, a'r Germaniaid. Ansicr felly mae tras y Ladinwyr.[1]

Oriel golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Carl Waldman a Catherine Mason. Encyclopedia of European Peoples (Efrog Newydd: Facts On File, 2006), t. 479.