Lambert Simnel
Roedd Lambert Simnel (tua 1477 - c. 1525) yn ymhonnwr i orsedd Lloegr. Honnwyd mai Edward Plantagenet, 17eg Iarll Warwick ydoedd. Roedd hyn yn bygwth teyrnasiad newydd Harri VII. Daeth Simnel yn flaenllaw yn gwrthryfel y Iorciaid a drefnwyd gan John de la Pole, Iarll Lincoln. Cafodd y gwrthryfel ei falu ym 1487. Cafodd Simnel bardwn ac wedi hynny cafodd ei gyflogi gan ystâd y brenin fel gwas cegin, ac, yn ddiweddarach, fel hebogwr.[1]
Lambert Simnel | |
---|---|
Ganwyd | c. 1477 Rhydychen |
Bu farw | c. 1535 |
Dinasyddiaeth | Lloegr |
Galwedigaeth | cogiwr, gweithiwr domestig |
Fel rhan o’u cynllwyn i ddiorseddu Harri VII, roedd Simnel, mab i saer coed o Rydychen, yn dynwared Edward, Iarll Warwick, a oedd wedi cael ei garcharu gan Harri VII yn 1485. Cefnogwyd ei gais hefyd gan offeiriad o Rydychen o’r enw Richard Symonds a welai hefyd debygrwydd rhwng Simnel a meibion y Brenin Edward IV, a lofruddiwyd yn Nhŵr Llundain. Bu croeso brwd i’r ymgyrch yn Iwerddon gyda’r Arglwydd Kildare yn trefnu ei fod yn cael ei goroni fel y Brenin Edward VI yn Nulyn, gan yr Archesgob yn 1487.
Gyda chefnogaeth John de la Pole, Iarll Lincoln, sef nai Rhisiart III, a thua 2,000 o filwyr cyflog o’r Almaen, oedd wedi eu darparu gan Margaret, Duges Burgundy, glaniodd Lambert Simnel yn Swydd Gaerhifryn, Lloegr yn 1487 er mwyn lansio ei hawl ar y goron. Trechwyd ef a’i gefnogwyr gan Harri VII ym Mrwydr Stoke, Swydd Nottingham ym Mehefin 1487 gyda Symonds yn cael ei garcharu cyn dod yn was yng ngheginau brenhinol Harri VII lle treuliodd weddill ei fywyd.[2]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Elton, G. R. England under the Tudors. Llundain: Methuen, 1974.
- ↑ "Lambert Simnel | English pretender". Encyclopedia Britannica (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-15.