Dinas a chymuned (comune) yng ngorllewin canolbarth yr Eidal yw Latina, sy'n brifddinas talaith Latina yn rhanbarth Lazio. Saif tua 36 milltir (58 km) i'r gogledd-orllewin o Rufain.

Latina
Mathcymuned, dinas Edit this on Wikidata
Poblogaeth127,564 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 30 Mehefin 1932 Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/i
Palos de la Frontera, Farroupilha, Penbedw, La Plata, Oświęcim Edit this on Wikidata
NawddsantMarc Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirTalaith Latina Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Eidal Yr Eidal
Arwynebedd277.62 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr21 ±1 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaAprilia, Nettuno, Sabaudia, Sermoneta, Cisterna di Latina, Pontinia, Sezze Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau41.4672°N 12.9036°E Edit this on Wikidata
Cod post04100, 04013, 04010 Edit this on Wikidata
Map

Yng Nghyfrifiad 2011 roedd gan y gymuned boblogaeth o 117,892.[1] Dyma'r ail ddinas fwyaf Lazio, ar ôl Rhufain.

Sefydlwyd y ddinas fodern gan Benito Mussolini ar 30 Mehefin 1932 dan yr enw Littoria, ar ôl i'r ardal o'i chwmpas a oedd wedi bod yn gors ers hynafiaeth gael ei draenio. Mae gan yr enw Littoria gynodiadau ffasgaidd, a rhoddwyd ei henw presennol i'r ddinas yn 1945 wedi i Ffasgaeth gael ei threchu. Roedd poblogaeth y ddinas newydd yn cynnwys ymsefydlwyr o Friuli a Veneto yn bennaf. Cynlluniwyd yr adeiladau a'r henebion, yn bennaf mewn arddull fodernaidd, gan benseiri ac artistiaid enwog fel Marcello Piacentini, Angiolo Mazzoni a Duilio Cambellotti.

Seremoni sylfaenu o flaen neuadd y ddinas yn 1932

Cyfeiriadau golygu

  1. City Population; adalwyd 14 Tachwedd 2022