Laura Bush
Mae Laura Lane Welch Bush (ganed 4 Tachwedd 1946) yn wraig i'r 43ain Arlywydd yr Unol Daleithiau, George W. Bush. Roedd yn Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau o 2001 i 2009.
Laura Bush | |
| |
Cyfnod yn y swydd 20 Ionawr 2001 – 20 Ionawr 2009 | |
Arlywydd | George W. Bush |
---|---|
Rhagflaenydd | Hillary Clinton |
Olynydd | Michelle Obama |
Prif Foneddiges Texas
| |
Cyfnod yn y swydd 17 Ionawr 1995 – 21 Rhagfyr 2000 | |
Llywodraethwr | George W. Bush |
Rhagflaenydd | Rita Clements |
Olynydd | Anita Parry |
Geni | Midland, Tecsas, Yr Unol Daleithiau | 4 Tachwedd 1946
Plaid wleidyddol | Plaid Weriniaethol |
Priod | George W. Bush (1977–presennol) |
Plant | Barbara Bush Jenna Bush Hager |
Llofnod |
Mynychodd Brifysgol Fethodistaidd y De gan raddio 1968 gyda gradd baglor mewn addysg a arweiniodd ati'n dechrau gweithio fel athrawes yr ail radd. Ar ôl iddi raddio gyda gradd meistr mewn llyfrgellyddiaeth o Brifysgol Tecsas yn Austin, ac fe'i chyflogwyd fel llyfrgellydd.
Cyfarfu a'i gŵr, George W. Bush, ym 1977, a phriododd y ddau yn ddiweddarach y flwyddyn honno. Cafodd y cwpl efeilliaid, dwy ferch, yn 1981. Ers iddi briodi, mae Bush wedi ymwneud â gwleidyddiaeth trwy ymgyrchu gyda'i gŵr, yn ystod ei ymdrech aflwyddiannus i gael ei ethol yn Gyngreswr yr Unol Daleithiau, a hefyd yn ddiweddarach yn ei ymgyrch llwyddiannus ar gyfer Llywodraethwr Tecsas.
Rhagflaenydd: Hillary Clinton |
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau 2001 – 2009 |
Olynydd: Michelle Obama |