Gwleidydd Americanaidd yw Hillary Diane Rodham Clinton (ganed 26 Hydref 1947), hefyd gwraig Arlywydd Bill Clinton; a bu'n Brif Foneddiges yr Unol Daleithiau yn ystod arlywyddiaeth ei gŵr (1993 - 2001) Hi oedd 67ain Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau o 2009 hyd 2013 a Seneddwr o Efrog Newydd o 2001 hyd 2009. Roedd hi'n un o ymgeiswyr arlywyddol y Blaid Ddemocrataidd yn 2008 ond enillodd Barack Obama yr enwebiad. Collodd hefyd yn Etholiad 2016, pan gipiodd Donald Trump yr arlywyddiaeth.

Hillary Clinton
Hillary Clinton


Cyfnod yn y swydd
21 Ionawr 2009 – 1 Chwefror 2013
Dirprwy James Steinberg
William Joseph Burns
Arlywydd Barack Obama
Rhagflaenydd Condoleezza Rice
Olynydd John Kerry

Cyfnod yn y swydd
3 Ionawr 2001 – 21 Ionawr 2009
Rhagflaenydd Daniel Patrick Moynihan
Olynydd Kirsten Gillibrand

Cyfnod yn y swydd
20 Ionawr 1993 – 20 Ionawr 2001
Arlywydd Bill Clinton
Rhagflaenydd Barbara Bush
Olynydd Laura Bush

Geni 26 Hydref 1947(1947-10-26)
Chicago, Illinois, UDA
Plaid wleidyddol Plaid Ddemocrataidd
Priod Bill Clinton
Plant Chelsea Clinton
Llofnod

Personol golygu

Fe'i ganed yn Chicago a'i magu ym mwrdeistref Park Ridge, Illinois, ble astudiodd y gyfraith yng Ngholeg Wellesley, gan raddio yn 1969. Derbyniodd radd arall yn Ysgol y Gyfraith, yng Ngholeg Iâl yn 1973. Bu'n gwnsel am ychydig cyn priodi Bill Clinton yn 1975. Roedd ei thad, Hugh Ellsworth Rodham (1911–1993) o dras Cymreig a Saesnig[1] a weithiai fel rheolwr yn y diwydiant tecstilau,[2] a'i mam Dorothy Howell Rodham (1919–2011), o dras Albanaidd, Cymreig, Seisnig, Canadaidd ac Iseldiraidd.[1][3]

Ymgeisydd am Arlywyddiaeth 2016 golygu

Yng Ngorffennaf 2016 fe'i henwebwyd gan y Blaid Ddemocrataidd fel eu ymgeisydd ar gyfer yr arlywyddiaeth yn Etholiad arlywyddol yr Unol Daleithiau, 2016, y fenyw gyntaf i'w enwebu gan unrhyw brif blaid yn yr U.D.A. Cododd sawl honiad o dwyll a cham-weithredu yn ei herbyn, nid yn unig gan ei gwrthwynebydd Donald Trump yn y ras am yr Arlywyddiaeth, ond ychydig ddyddiau cyn yr etholiad - gan yr FBI. Roedd y prif honiadau'n ymwneud â nifer o ebyst a oedd wedi'u dileu. Trump a orfu, yn groes i'r polau piniwn.

Dolenni Allanol golygu

Rhagflaenydd:
Barbara Bush
Prif Foneddiges yr Unol Daleithiau
19932001
Olynydd:
Laura Bush
Cyngres yr Unol Daleithiau
Rhagflaenydd:
Daniel Patrick Moynihan
Seneddwr dros Efrog Newydd
gyda Charles Schumer

20012009
Olynydd:
Kirsten Gillibrand
Swyddi gwleidyddol
Rhagflaenydd:
Condoleezza Rice
Ysgrifennydd Gwladol yr Unol Daleithiau
20092013
Olynydd:
John Kerry


   Eginyn erthygl sydd uchod am Americanwr neu Americanes. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 Roberts, Gary Boyd. "Notes on the Ancestry of Senator Hillary Rodham Clinton". New England Historic Genealogical Society. Archifwyd o'r gwreiddiol ar June 7, 2013. Cyrchwyd November 10, 2012.
  2. Bernstein 2007, tt. 17–18.
  3. Smolenyak, Megan (Mai 2015). "Hillary Clinton's Celtic Roots". Irish America.