Lauren Price
Mae Lauren Louise Price (ganwyd 25 Mehefin 1994) yn baffiwr/bocsiwr proffesiynol o Gymru.
Lauren Price | |
---|---|
Ganwyd | 25 Mehefin 1994 Casnewydd |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Alma mater | |
Galwedigaeth | paffiwr, kickboxer, pêl-droediwr |
Taldra | 167 centimetr |
Pwysau | welter |
Gwobr/au | MBE |
Chwaraeon | |
Tîm/au | Tîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru, C.P.D. Merched Dinas Caerdydd |
Safle | amddiffynnwr |
Gwlad chwaraeon | Cymru |
Cyn hynny, roedd Lauren yn focsiwr amatur, ac yn gyn-gic-focsiwr a phêl-droediwr.[1]
Bywyd cynnar
golyguCafodd Price ei geni yng Nghasnewydd, ond cafodd ei magu yng Nghaerffili, gan ei thaid a’i nain.[2] Cafodd ei addysg yn Ysgol Gyfun Heolddu, Bargod.[3] Dangosodd ddiddordeb mawr mewn sawl camp, gan gymryd pêl-droed, pêl-rwyd a bocsio cic yn ddeg oed, yr olaf ar ôl anogaeth gan ei thad-cu.[4]
Gyrfa chwaraeon
golyguFel cic-focsiwr, enillodd Price fedal arian mewn digwyddiad ym Mhencampwriaethau'r Byd yn Athen yn 2007 yn 13 oed, gan gystadlu yn erbyn gwrthwynebwyr ddwywaith ei hoedran,[3] a daeth y cystadleuydd ieuengaf erioed ym Mhencampwriaethau Prydain.[5] Aeth ymlaen i fod yn bencampwr pedair gwaith y byd ac yn bencampwr Ewropeaidd chwe-amser yn y gamp ac yn ddiweddarach cystadlodd yn Taekwondo.[2]
Ar ôl bod yn gapten ar Gymru ar lefel dan-19, enillodd ddau gap dros dîm pêl-droed cenedlaethol merched Cymru yn 2012-2013 tra'n chwarae i dîm pêl-droed Dinas Caerdydd. Fe wnaeth hi hefyd chwarae dros dîm pel-rwyd Cymru.[6]
Paffio amatur
golyguCystadlodd dros Gymru yn y dosbarth pwysau canol y menywod yng Ngemau'r Gymanwlad 2014, lle enillodd fedal efydd. Hi oedd y fenyw gyntaf o Gymru i ennill medal focsio Gemau'r Gymanwlad. Ragorodd hi ar y cyflawniad hwn trwy ennill aur yng Ngemau'r Gymanwlad 2018 yn yr Arfordir Aur, Awstralia.[7] Ar ôl curo’r bocsiwr o’r Iseldiroedd Nouchka Fontijn yn y rownd gynderfynol pwysau canol aeth ymlaen i ennill y fedal aur yn erbyn Li Qian o China yng Ngemau Olympaidd 2021 yn Tokyo.[8][7]
Paffio proffesiynol
golyguEnillodd Lauren ei gornest broffesiynol gyntaf yn erbyn Valgerdur Gudsten-sdottir o Wlad yr Iâ ar 11 Mehefin 2022.[9]
Daeth yn bencampwraig byd ar 11 Mai 2024 wrth guro Jessica McCaskill yng Nghaerdydd. Enillodd Lauren deitlau byd pwysau welter cylchgrawn Ring, WBA ac IBO. Cerddodd i'r cylch bocsio i gân Yma o Hyd gan Dafydd Iwan.[10] Ar ôl ennill ei gornest, dywedodd, "Dwi ond yn mynd i wella. 'Da chi'n gweld beth mae Katie Taylor wedi gwneud dros Iwerddon; dwi isio gwneud yr un peth dros Gymru".[11]
Cofnod paffio proffesiynol
golyguRhif | Canlyniad | Record | Gwrthwynebydd | Math | Rownd, amser | Dyddiad | Lleoliad | Nodiadau |
---|---|---|---|---|---|---|---|---|
7 | Ennill | 7-0 | Jessica McCaskill | Pwyntiau | 9 (10) | 11 Mai 2024 | Utilita Arena, Caerdydd, Cymru | Ennill Pencampwriaeth Byd Pwysau Welter WBA, IBO a Cylchgrawn Ring |
6 | Ennill | 6–0 | Silvia Bortot | Pwyntiau | 8 | 10 Rhagfyr 2023 | Bournemouth International Centre, Bournemouth, Lloegr | |
5 | Ennill | 5–0 | Lolita Muzeya | Penderfyniad Technegol | 6 (8), 0:24 | 2 Medi 2023 | Manchester Arena, Manceinion, Lloegr | Torriad i ben Muzeya ar ol taro pen yn y 5ed rownd |
4 | Ennill | 4–0 | Kirstie Bavington | Penderfyniad | 10 | 6 Mai 2023 | Resorts World Arena, Birmingham, Lloegr | Enillodd Bencampwriaeth Pwyasu Welter Prydain (Tro cyntaf erioed i'r wobr gael ei chynnig) |
3 | Ennill | 3–0 | Naomi Mannes | Penderfyniad Unfryd | 8 | 11 Mawrth 2023 | Zénith Paris, Paris, Ffrainc | |
2 | Ennill | 2–0 | Timea Belik | Taro Allan | 4 (6), 1:18 | 15 Hydref 2022 | O2 Arena, Llundain, Lloegr | |
1 | Ennill | 1–0 | Valgerdur Gudstensdottir | Pwyntiau | 6 | 11 Mehefin 2022 | SSE Arena Wembley, Llundain, Lloegr |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Penman, Andrew (23 November 2018). "Gwent's Lauren Price wins world boxing bronze in India". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
- ↑ 2.0 2.1 Webb, Alex (28 Gorffennaf 2014). "Glasgow 2014: Footballer Lauren Price swaps boots for boxing". BBC Sport (yn Saesneg). Cyrchwyd 22 Hydref 2014.
- ↑ 3.0 3.1 "Kickboxing: Lauren is a hit with teachers". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 28 Mehefin 2007. Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
- ↑ White, Jim (15 Tachwedd 2018). "How Olympic hero Nicola Adams inspired next generation of British women boxers – 'She is the person who showed us all it's possible'". The Telegraph (yn Saesneg). Cyrchwyd 11 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Lauren's a Sporting Role Model". WalesOnline (yn Saesneg). Media Wales. 22 Tachwedd 2007. Cyrchwyd 12 Gorffennaf 2019.
- ↑ "Lauren Price a'i thaith i frig y byd bocsio". BBC Cymru Fyw. 2024-05-10. Cyrchwyd 2024-05-11.
- ↑ 7.0 7.1 "Live Tokyo 2020, boxing live: GB's Lauren Price wins gold medal fight against Li Qian". Telegraph. 8 Awst 2021.
- ↑ "Lauren Price yn ennill medal aur i Gymru am focsio". Golwg360. 2021-08-08. Cyrchwyd 2024-05-11.
- ↑ "Lauren Price yn ennill ei gornest focsio broffesiynol gyntaf". newyddion.s4c.cymru. 2024-05-11. Cyrchwyd 2024-05-11.
- ↑ Owens, David (2024-05-11). "Lauren Price crowned welterweight world champion in Cardiff". Nation.Cymru (yn Saesneg). Cyrchwyd 2024-05-11.
- ↑ "'Just the start': Price bests McCaskill for title". ESPN.com (yn Saesneg). 2024-05-11. Cyrchwyd 2024-05-12.