Gemau'r Gymanwlad 2014

Gemau'r Gymanwlad 2014 oedd yr ugeinfed tro i Gemau'r Gymanwlad gael eu cynnal. Glasgow, Yr Alban, oedd cartref y Gemau am y trydydd tro yn eu hanes gyda'r Gemau'n digwydd rhwng 23 Gorffennaf a 3 Awst. Cafwyd cyfarfod i ddewis y ddinas fyddai'n cynnal y Gemau yn ystod Cyfarfod Ffederasiwn Gemau'r Gymanwlad yn Colombo, Sri Lanca ym mis Tachwedd 2007 gyda Glasgow yn ennill y bleidlais gyda 47 pleidlais i 24 Abuja, Nigeria.

20ed Gemau'r Gymanwlad
Campau17
Seremoni agoriadol23 Gorffennaf
Seremoni cau3 Awst
XIX XXI  >
Gemau'r Gymanwlad 2014
Math o gyfrwngdigwyddiad aml-chwaraeon Edit this on Wikidata
Dyddiad2014 Edit this on Wikidata
Dechreuwyd23 Gorffennaf 2014 Edit this on Wikidata
Daeth i ben3 Awst 2014 Edit this on Wikidata
CyfresGemau'r Gymanwlad Edit this on Wikidata
LleoliadGlasgow Edit this on Wikidata
RhanbarthStrathclyde Edit this on Wikidata
Gwefanhttp://www.glasgow2014.com/ Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Diflanodd Saethyddiaeth a Tenis o'r rhestr chwaraeon gyda Triathlon yn dychwelyd am y tro cyntaf ers 2006 a Jiwdo am y tro cyntaf ers 2002.

Seremoni Agoriadol

golygu

Un o nodweddion fwyaf y seremoni agoriadol, ac un oedd ychydig yn heriol, oedd dewis y gân Freedom Come-All-Ye yn drefn. O gofio hanes Y Gymanwlad a rôl y frenhiniaeth ynddi, roedd perfformio cân weriniaethol a gwrth-imperialaidd a chenedlaetholgar Albanaidd gref, gan Hamish Henderson yn ddewis annisgwyl. Perfformiwyd y gân gan y soprano o Dde Affrica, Pumeza Matshikiza.[1] Dewisiwyd Matshikiza gan fod cyfeiriad at dreflan Nyanga yn y gân - treflan ddu a fu'n ymladd yn erbyn effeithiau apartheid.

Uchafbwyntiau'r Gemau

golygu

Llwyddodd Ciribati i gipio ei medal cyntaf erioed yn Ngemau'r Gymanwlad wrth i David Katoatau ennill medal aur yng nghategori 105 kg y Codi pwysau[2] a casglodd Kirani James fedal aur cyntaf Grenada yn y 400m i ddynion ar y trac Athletau. Y nofiwr o Dde Affrica, Chad le Clos, gasglodd y nifer fwyaf o fedalau wrth iddo ennill dwy fedal aur, un arian a phedair efydd[3]. Patricia Bezzoubenko o Ganada gafodd y nifer fwyaf o fedalau aur wrth iddi gipio pum medal aur ac un medal efydd yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig[4].

Daeth perfformiad gorau Cymru yn y gystadleuaeth Gymnasteg rhythmig hefyd wrth i Francesca Jones gipio un medal aur a phum medal arian yn ogystal â Gwobr David Dixon am y perfformiad a chyfraniad gorau gan unrhyw athletwr yn ystod y Gemau[5].

Chwaraeon

golygu

Timau yn cystadlu

golygu

Roedd 70 o'r 71 o wledydd yn y Gymanwlad yn Ngemau'r Gymanwlad 2014 gyda Gambia yn tynnu yn ôl o'r Gemau ac o'r Gymanwlad ym mis Hydref 2013[6]

Medalau'r Cymry

golygu

Roed 233[7] aelod yn nhîm Cymru a gyda 36 medal, dyma oedd y perffromiad gorau erioed gan Gymru yn nhermau'r nifer o fedalau enillwyd.

Medal Enw Cystadleuaeth
Aur Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Rhuban
Aur Natalie Powell Jiwdo Merched 58 kg
Aur Jazz Carlin Nofio 800m Dull rhydd merched
Aur Georgia Davies Nofio 50m Dull cefn merched
Aur Geraint Thomas Beicio Ras Lôn Dynion
Arian Francesca Jones
Laura Halford
Nikara Jenkins
Gymnasteg rhythmig Amryddawn (tîm)
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Amryddawn unigol
Arian Elena Allen Saethu Sgît
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Cylch
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Pastynau
Arian Francesca Jones Gymnasteg rhythmig Pêl
Arian Georgia Davies Nofio 100m Dull cefn
Arian Elinor Barker Beicio Ras pwyntiau 25 km
Arian Aled Davies Athletau Disgen F42/44
Arian Sally Peake Athletau Naid bolyn merched
Arian Jazz Carlin Nofio 200m Dull rhydd merched
Efydd Laura Halford Gymnasteg rhythmig Amryddawn unigol
Efydd Calum Jarvis Nofio 200m Dull rhydd
Efydd Matt Ellis
Ieuan Williams
Beicio Ras tandem yn erbyn y cloc
Efydd Laura Halford Gymnasteg rhythmig Pêl
Efydd Elinor Barker Beicio Ras "scratch"
Efydd Michaela Breeze Codi Pwysau Merched 58 kg
Efydd Jack Thomas Nofio 200m Dull rhydd S14
Efydd Mark Shaw Jiwdo 100 kg Dynion
Efydd Paul Taylor
Jonathan Tomlinson
Mark Wyatt
Bowlio lawnt Triawd
Efydd Rhys Jones Athletau 100m dynion T37
Efydd Craig Pilling Reslo Rhydd 57 kg
Efydd Lizzie Beddoe
Georgina Hockenhull
Jessica Hogg
Angel Romaeo
Raer Theaker
Gymnasteg Amryddawn (tîm)
Efydd Daniel Jervis Nofio 1500m Dull rhydd
Efydd Geraint Thomas Beicio Treial amser dynion
Efydd Sean McGoldrick Bocsio Pwysau bantam
Efydd Nathan Thorley Bocsio Pwysau trwm ysgafn
Efydd Georgina Hockenhull Gymnasteg Trawst
Efydd Ashley Williams Bocsio Pwysau pryf ysgafn
Efydd Joseph Cordina Bocsio Pwysau ysgafn

Cyfeiriadau

golygu
  1. https://www.heraldscotland.com/news/13171590.the-games-opens-a-ceremony-of-gallusness-with-a-powerful-charity-theme/
  2. "Glasgow 2014: David Katoatau claims first ever Ciribati medal published=BBC Sport". 2014-07-30.
  3. "Chad le Clos reaches seven medal target". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2015-10-22. Cyrchwyd 2014-08-10. Unknown parameter |published= ignored (help)
  4. "Patricia Bezzoubenko wins 6th medal at Commonwealth Games". 2014-07-26. Unknown parameter |published= ignored (help)
  5. "Gwobr olaf y gemau yn mynd i Frankie Jones". 2014-08-04. Unknown parameter |Published= ignored (help)
  6. "The Gambia withdraw from Glasgow 2014". 2013-10-07. Unknown parameter |published= ignored (help)
  7. "Commonwealth Games 2014 team has been finalised". 2014-07-04. Unknown parameter |Published= ignored (help)

Gweler hefyd

golygu

Dolenni allanol

golygu
Rhagflaenydd:
Delhi Newydd
Gemau'r Gymanwlad
Lleoliad y Gemau
Olynydd:
Gold Coast,Queensland