Jacques Lefèvre d'Étaples

(Ailgyfeiriad o Lefèvre d’Etaples)

Diwinydd o Ffrainc a dyneiddiwr yng nghyfnod y Dadeni Dysg oedd Jacques Lefèvre d'Étaples (Lladin: Johannes Faber Stapulensis; tua 1455Mawrth 1536).

Jacques Lefèvre d'Étaples
Ganwyd1450 Edit this on Wikidata
Étaples Edit this on Wikidata
Bu farwMawrth 1536 Edit this on Wikidata
Nérac Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Ffrainc Edit this on Wikidata
ymgynghorydd y doethor
  • George Hermonymus
  • John Argyropoulos Edit this on Wikidata
Galwedigaethdiwinydd, cyfieithydd, athronydd, damcaniaethwr cerddoriaeth, cerddolegydd, cyfieithydd y Beibl, henuriad Edit this on Wikidata
Cyflogwr
  • collège du Cardinal-Lemoine Edit this on Wikidata

Ganed yn Étaples yn rhanbarth Picardi, Teyrnas Ffrainc. Cafodd ei ordeinio'n offeiriad ac astudiodd ym Mhrifysgol Paris, ac enillodd ei radd baglor ym 1479 a'i radd meistr ym 1480. Dysgodd yr iaith Roeg ym Mharis dan diwtoriaeth yr ysgolhaig alltud Georgius Hermonymus. Aeth i'r Eidal ym 1492 a 1500 i wella'i wybodaeth o lenyddiaeth Hen Roeg ac i astudio cyfriniaeth y neo-Platoniaid. Ymunodd Lefèvre â chyfadran y celfyddydau breiniol, ac addysgodd athroniaeth i fyfyrwyr o 1490 i 1507.[1][2]

Yn y cyfnod 1492–1506 ysgrifennodd Lefèvre lawlyfrau i fyfyrwyr ar bynciau ffiseg a mathemateg a chyhoeddodd gyfieithiadau anodiadol ac aralleiriadau o weithiau Aristoteles am foeseg, metaffiseg, a gwleidyddiaeth. Ymdrechai Lefèvre yn ei waith ddatgysylltu astudiaethau crefyddol oddi wrth yr hen ddulliau ysgolaidd. Cafodd ei syniadau ddylanwad ar ddisgyblion a fuasent yn arweinwyr a meddylwyr blaenllaw yn y Diwygiad Protestannaidd, gan gynnwys Guillaume Farel, neu yn ddyneiddwyr o fri megis yr Hebrëydd François Vatable. Dechreuodd gwestiynu yr uniongrededd Gatholig, ac ym 1505, dan ddylanwad daliadau cymunedol ac ysgolheigaidd Brodyr y Bywyd Cyffredin, fe drodd at gyfriniaeth. Cyhoeddodd gyfrolau o fyfyrdodau cyfriniol gan Ramon Llull, Jan van Ruysbroeck, a Nikolaus von Kues. Cafodd dau o weithiau Lefèvre – ei drosiadau o bum Salm i'r Lladin, Psalterium quintuplex (1509), a'i esboniad o Lythyrau Paul, Commentaires sur saint Paul (1512) – ddylanwad ar Martin Luther.

Ym 1507 symudodd Lefèvre i Abaty Saint-Germain-des-Prés, ym Mharis, lle'r oedd ei gyn-ddisgybl, Guillaume Briçonnet, yn abad. Am ei weithiau De Maria Magdalena (1517) a De tribus et unica Magdalena (1519), sydd yn honni undod y tair Mair a enwir yn yr Efengylau, cafodd Lefèvre ei gondemnio gan Brifysgol Paris ym 1521. Ymhlith ei weithiau eraill mae ei esboniadau ar yr Efengylau (1522) a'i gyfieithiad cyfan o'r Beibl o fersiwn Lladin y Fwlgat i'r Ffrangeg (1530). Wedi i Briçonnet gael ei benodi'n Esgob Meaux ym 1516, rhoes i Lefèvre swydd ficer cyffredinol ym 1523. Yn sgil diwygiadau Briçonnet yn ei esgobaeth, cyhuddwyd clerigwyr Meaux o Brotestaniaeth a ffoes Lefèvre i Strasbwrg ym 1525. Yn ddiweddarach, dychwelodd i Blois dan nawdd y Brenin Ffransis I. Ym 1531 ffoes Lefèvre i Nérac yn ne-orllewin Ffrainc, gyda chefnogaeth Marguerite de Navarre, ac yno bu farw.[2]

Cyfeiriadau

golygu
  1. Charles G. Nauert, Historical Dictionary of the Renaissance (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2004), t. 227.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Jacques Lefèvre d'Étaples. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 6 Awst 2020.