Legio I Parthica
Lleng Rufeinig a ffurfiwyd yn y flwyddyn 197 gan yr ymerawdwr Septimius Severus oedd y Legio I Parthica (ynganiad Lladin: prima Párthica . Ei harwyddlun oedd y centaur.
Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Sinjar |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfiodd Septimius Severus y lleng yma, ynghyd â Legio II Parthica a Legio III Parthica, i ymgyrchu yn erbyn y Parthiaid. Bu'r rhyfel yn llwyddiannus, a choncrwyd gogledd Mesopotamia ac anrheithio Ctesiphon, prifddinas y Parthiaid. Wedi'r rhyfel, sefydlwyd Legio I Parthica a Legio III Parthica yn Singara, Sinjar yng ngogledd Irac heddiw, i warchod talaith Mesopotamia. Yn 360, gyrrwyd y lleng allan o Singara gan y Sassaniaid, a symudodd i Nisibis yn nhalaith Syria (heddiw Nusaybin, Twrci), lle bu hyd y 5g.