Legio II Parthica
Lleng Rufeinig a ffurfiwyd yn y flwyddyn 197 gan yr ymerawdwr Septimius Severus oedd y Legio II Parthica. Ei harwyddluniau oedd y tarw a'r centaur.
Enghraifft o'r canlynol | Lleng Rufeinig |
---|---|
Lleoliad | Albano Laziale |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ffurfiodd Septimius Severus y lleng yma, ynghyd â Legio I Parthica a Legio III Parthica, i ymgyrchu yn erbyn y Parthiaid. Bu'r rhyfel yn llwyddiannus, a choncrwyd gogledd Mesopotamia ac anrheithio Ctesiphon, prifddinas y Parthiaid.
Wedi'r rhyfel, trosglwyddwyd Legio II Parthica i'r Eidal, gyda'i gwersyll yn Castra Albana heb fod ymhell o Rufain. Rhwng 208 a 211, aeth gyda'r ymerawdwr i Brydain, lle bu'n cynorthwyo i drwsio Mur Hadrian. Dan yr ymerawdwr Caracalla, bu'r lleng yn ymladd yn nhalaith Raetia yn erbyn yr Alemanni, cyn cael ei gyrru yn ôl i Parthia. Yn 217, llofruddiwyd Caracalla gan Macrinus, legad y lleng yma, a'i cyhoeddodd ei hun yn ymerawdwr. Y flwyddyn wedyn, cefnogodd y lleng Elagabalus yn erbyn Macrinus. Wedi iddo ennill yr orsedd, rhoddodd Elagabalus y teitl Pia Fidelis Felix Aeterna i'r lleng.
Rhwng 230 a 232, ymladdodd y lleng dan Alexander Severus yn erbyn y Sassaniaid. Wedi hyn, symudwyd hi i dalaith Germania Superior. Cefnogodd Maximinus Thrax, ac wedi ei farwolaeth ef, dychwelwyd y lleng i Castra Albana. Yn nechrau'r 4g, gyrrwyd hi i Mesopotamia eto.