Leni (drama deledu)

Addasiad i deledu o ddrama Dewi Wyn Williams yw Leni a ryddhawyd ym 1991 gan S4C. Mae'r ffilm yn seiliedig ar y ddrama lwyfan o'r un enw a gynhyrchwyd gan Gwmni Theatr Gwynedd ym 1990. Recordiwyd y ddrama yn stiwdio Barcud yng Nghaernarfon.

Leni
Enghraifft o'r canlynolffilm Edit this on Wikidata
AwdurDewi Wyn Williams
Dyddiad cyhoeddi1991 Edit this on Wikidata
Mathdrama deledu
Cwmni cynhyrchuTeledu'r Tir Glas i S4C
Iaith wreiddiolCymraeg Edit this on Wikidata

Mae'n dilyn hanes Leni Lewis, digrifwr yn y clybiau nos, sy'n mwynhau bywyd er iddo fod yn hynod sinigaidd tuag at y cyfan. John Ogwen fu'n portreadu'r digrifwr ar lwyfan ac yn y ffilm.

Mae Leni Lewis yn cael ei daro oddi ar ei echel ynghanol dathliadau'r Nadolig, wrth iddo ganfod bod ei wraig Alis yn anffyddlon iddo gyda'i ffind gorau, Marc. Mae'r datgelu yn cydfynd â datgeliad arall gan ei feddyg, bod Canser yr ysgyfaint arno, ac nad oes ganddo lawer o amser ar ôl yn y fuchedd hon. Mae hyn yn peri i'w emosiynau droi'n un bwrlwm berw wrth iddo geisio ymdopi efo'r newyddion.

Cymeriadau

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.