Dewi Wyn Williams

Dramodydd, sgriptiwr a golygydd sgriptiau o Benysarn, Sir Fôn yw Dewi Wyn Williams a anwyd ym 1958.

Dewi Wyn Williams
FfugenwDewi Chips
Ganwyd1958
Penysarn, Ynys Môn
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethdramodydd, sgriptiwr a golygydd sgriptiau
TadGlyn Williams (Glyn Pensarn)
PerthnasauYoland Williams (actor) brawd

Cafodd ei fagu ar fferm Glanrafon ym mhlwyf Llaneilian yn fab i'r diweddar actor Glyn Williams (Glyn Pensarn) a'i wraig Kitty, ac yn frawd i'r actor Yoland Williams. Derbyniodd ei addysg gynnar yn Ysgol Gynradd Penysarn ac wedyn yn Ysgol Uwchradd Syr Thomas Jones lle'r oedd yn Brif Ddisgybl.[1]

Aeth i weithio i BBC Cymru yng Nghaerdydd ym 1980, pan yn 22 oed, ar ôl graddio gydag Anrhydedd mewn Cymraeg a Drama yng Ngholeg Prifysgol Cymru Bangor.

Bu'n gweithio fel Is-Reolwr Llawr am gyfnod byr, cyn ei benodi yn 'Olygydd Sgriptiau, yn bennaf ar y gyfres Pobol y Cwm, ac o dan warchodaeth Gwenlyn Parry. Bu yno am 16 mlynedd - gan adael yn Bennaeth yr Adran Sgriptiau - cyn ymuno ag S4C yn 1996 fel Golygydd ac Ymgynghorydd Sgriptiau. Erbyn hyn, mae'n awdur llawn amser.

Mae'n aelod o sawl rheithgor Drama rhyngwladol. Yn 2014, bu ar reithgor yr Emmys yn Efrog Newydd (am y seithfed tro) ac yn gadeirydd rheithgor Gŵyl Deledu Banff yng Nghanada. Bu hefyd ar reithgorau Rose d' Or yn Y Swistir, Prix Europa yn Berlin a'r Golden Chest ym Mwlgaria. 'Roedd hefyd yn diwtor Sgriptio rhan amser yng Ngholeg y Brifysgol Caerdydd.

Enillodd Medal Ddrama Eisteddfod yr Urdd Castell Newydd Emlyn ym 1981 am ei ddrama Rhyw Ddyn A Rhyw Ddynes.[2] Enillodd Y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Sir Gâr 2014 am ei ddrama hir La Primera Cena. [1] Daeth yn agos i frig y gystadleuaeth ddwy waith cynt efo'r ddrama hir Berwi Ŵy ym 1989 a ddaeth i'r llwyfan fel Leni gan Gwmni Theatr Gwynedd, a Difa yn 2013, a lwyfanwyd gan Theatr Bara Caws.

Ei ddrama deledu Marathon oedd y ddrama gyntaf i'w ddarlledu ar S4C.[2]

Gwaith

golygu

Dramâu Teledu a Ffilmiau

golygu

Dramâu Llwyfan

golygu

Nofelau

golygu
  • Madi (2019)

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Dewi Wyn Williams yn ennill y Fedal Ddrama". BBC Cymru Fyw. 2014-08-07. Cyrchwyd 2024-08-24.
  2. 2.0 2.1 Rhaglen Cynhyrchiad Cwmni Theatr Gwynedd o'r ddrama Leni..