Ffurf ar Farcsiaeth a ddatblygwyd gan Vladimir Lenin yw Leniniaeth sydd yn pwysleisio swyddogaeth y blaid chwyldroadol a llywodraeth gan y proletariat ar y llwybr i sosialaeth.[1] Yn ôl damcaniaeth Lenin, byddai aelodau'r blaid yn chwyldroadwyr proffesiynol, a chodi ymwybyddiaeth dosbarth, addysgu athrawiaeth Farcsaidd, a threfnu'r dosbarth gweithiol yw gorchwyl y blaid. Credai Lenin bod angen plaid ganolog, effeithiol i ennill grym gwleidyddol ar ben y grym economaidd a weithredir drwy streiciau. Wedi'r chwyldro, byddai'r blaid yn cynrychioli'r dosbarth gweithiol drwy sefydlu "unbennaeth y proletariat" ac yn llywodraethu'r wlad trwy'r cyfnod o drawsnewid i sosialaeth.

Vladimir Lenin.

Ceisiodd Lenin a'i Folsieficiaid rhoi'r athrawiaeth ar waith yn sgil Chwyldro Hydref 1917 yn Rwsia, a sefydlu'r Undeb Sofietaidd yn 1922 wedi buddugoliaeth y Fyddin Goch yn Rhyfel Cartref Rwsia. Mabwysiadwyd yr egwyddorion hyn gan bleidiau comiwnyddol yn sgil sefydlu'r Comintern gan Lenin yn 1919. Dylanwadodd Leniniaeth ar syniadaeth Antonio Gramsci, Joseff Stalin, Leon Trotsky, a Mao Zedong. Daeth Leniniaeth i ddiffinio'r ffurfiau uniongred, canolog ar gomiwnyddiaeth, gan gynnwys Marcsiaeth–Leniniaeth, ideoleg wladwriaethol yr Undeb Sofietaidd.

Cyfeiriadau golygu

  1.  Leniniaeth. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 3 Medi 2018.