Actor a dramodydd o Ganada a anwyd yng Nghymru oedd Leon Pownall (26 Ebrill 19432 Mehefin 2006).

Leon Pownall
Ganwyd26 Ebrill 1943 Edit this on Wikidata
Wrecsam Edit this on Wikidata
Bu farw2 Mehefin 2006 Edit this on Wikidata
o canser Edit this on Wikidata
Stratford Edit this on Wikidata
DinasyddiaethCanada, Cymru Edit this on Wikidata
Galwedigaethactor llwyfan, actor ffilm, actor teledu Edit this on Wikidata

Cafod ei eni yn Wrecsam ond symudodd ef a'i deulu i Hamilton, Ontario ym 1957. Perfformiodd yng Ngŵyl Stratford yn ystod y 1960au a dychwelodd i berfformio i'r ŵyl ar sawl achlysur dros y blynyddoedd, ac yn fwyaf diweddar fel cyfarwyddwr yn 2002.

Ysgrifennodd a pherfformiodd Pownall drama un-dyn, "Do Not Go Gentle", am Dylan Thomas. Yn ddiweddarach, perfformiodd Geraint Wyn Davies y ddrama hon yng Ngŵyl Stratford yn 2002 ac oddi-ar Broadway yn 2005.

Mae ei waith ffilm yn cynnwys Dead Poets Society (1989) a Dirty Pictures (2000). Enwebwyd Pownall am Wobr Gemini am ei rôl Dr. Ewan Cameron yn y gyfres deledu Canadaidd The Sleep Room (1998). Ymddangosodd hefyd mewn cyfresi teledu fel The Beachcombers, Street Legal, a Wiseguy.

Bu farw o gancr yn Stratford yn 2006, yn 63 mlwydd oed.

  • Do Not Go Gentle

Ffilmiau

golygu