Awdur a sgriptiwr Almaenig oedd Leonie Ossowski (15 Awst 1925 - 4 Chwefror 2019). Ysgrifennodd hefyd o dan yr enw Jo Tiedemann. Cedwir ei gwaith yn Llyfrgell Genedlaethol yr Almaen.[1]

Leonie Ossowski
FfugenwJo Tiedemann Edit this on Wikidata
GanwydJolanthe von Brandenstein Edit this on Wikidata
15 Awst 1925 Edit this on Wikidata
Osowa Sień Edit this on Wikidata
Bu farw4 Chwefror 2019 Edit this on Wikidata
Berlin Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Yr Almaen Yr Almaen
Galwedigaethsgriptiwr, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
MamRuth von Ostau Edit this on Wikidata
PriodGunther Solowjew Edit this on Wikidata
Gwobr/auHermann Kesten, Gwobr Andreas Gryphius, Gwobr Schiller Dinas Mannheim, Urdd Teilyngdod Diwylliant Pwyleg, Grimme-Preis Edit this on Wikidata

Ganed Jolanthe von Brandenstein (sef ei henw bedydd)[2] yn Röhrsdorf (Osowa Sień erbyn hyn) a bu farw yn Berlin, lle'i claddwyd ym Mynwent Dorotheenstadt.[3][4][5]

Ysgrifennodd nofelau, gan gynnwys y nofel ar gyfer oedolion ifanc Die große Flatter a drowyd yn ddrama deledu arobryn, dramâu teledu ar gyfer Zwei Mütter, straeon a llyfrau ffeithiol. Derbyniodd wobrau nodedig, gan gynnwys Medal Kesten Hermann o Ganolfan Pen a'r Adolf-Grimme-Preis.[6]

Magwraeth golygu

Ganwyd Ossowski Jolanthe von Brandenstein yn Röhrsdorf (Osowa Sień erbyn hyn) yn Grenzmark Posen-Westpreußen, yn ferch i Lothar von Brandenstein (1893–1953), perchennog ystad, a'r awdur Ruth von Ostau (1899–1966). Ei chwaer hŷn oedd Yvonne a ddaeth yn actores. Ar ddiwedd yr Ail Ryfel Byd, ffodd i Bad Salzungen yn Thuringia, yna symudodd i Hesse. Ymsefydlodd o'r diwedd yn Swabia Uchaf.[7]

Gwaith golygu

Cafodd Ossowski wahanol swyddi, gan gynnwys clerc man-werthu, gweithiwr ffatri a chynorthwyydd labordy lluniau. Gan ddechrau yn y 1950au, ysgrifennodd hefyd straeon byrion o dan ei llysenw. Ar ymweliad â'r GDR ym 1953, cafodd gomisiwn gan y stiwdio ffilmiau DEFA y wladwriaeth am sgript ffilm. Ysgrifennodd y sgript ar gyfer Zwei Mütter, ffilm a gyfarwyddwyd gan Frank Beyer a'i pherfformio am y tro cyntaf ar 28 Mehefin 1957. Flwyddyn yn ddiweddarach, cyhoeddodd y nofel Stern ohne Himmel (Seren Heb Awyr), a wnaed yn ddiweddarach yn ffilm.[8][9][10][11]

Symudodd Ossowski gyda'i theulu i Mannheim yn 1958. Ym 1968, cyhoeddodd nofel yng Ngorllewin yr Almaen am y tro cyntaf. Cyhoeddodd hefyd straeon (Erzählungen), llyfrau ffeithiol, dramâu sgrîn a dramâu llwyfan.[12] Roedd yn aelod o Ganolfan PEN yr Almaen. Yn y 1970au, roedd yn weithiwr cymdeithasol, yn gofalu am bobl ifanc yn y carchar ac yn gosod tai cymunedol (Wohngemeinschaft) ar gyfer pobl ifanc a ryddhawyd o'r carchar.[7][13]

Dychwelodd ar ymwelid i'w man geni yn 1974, ac ysgrifennodd drioleg o nofelau am y rhyfel a chyfnodau ar ôl y rhyfel yno, gan ddangos empathi at y safbwynt Pwylaidd.[12] Mae ei nofel Die große Flatter (1977), ar gyfer oedolion ifanc, yn delio â dau berson ifanc digartref yn Mannhein. Cafodd ei ffilmio fel drama deledu tair rhan, gyda Richy Müller, ac a gyflwynwyd ym 1979.[9][12]

Trigodd yn Berlin o 1980 hyd ei marwolaeth ar 4 Chwefror 2019. Ymhlith ei saith o blant mae'r diwinydd Louis-Ferdinand von Zobeltitz.[7]

Anrhydeddau golygu

  • Dros y blynyddoedd, derbyniodd nifer o anrhydeddau, gan gynnwys: Hermann Kesten (2006), Gwobr Andreas Gryphius (2014), Gwobr Schiller Dinas Mannheim (1982), Urdd Teilyngdod Diwylliant Pwyleg, Grimme-Preis (1973) .


Cyfeiriadau golygu

  1. "Works by Leonie Ossowski" (yn Almaeneg). German National Library. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  2. "Schriftstellerin Leonie Ossowski gestorben". Ruhr Nachrichten (yn Almaeneg). 4 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-02-06. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  3. Rhyw: Deutsche Nationalbibliothek; Staatsbibliothek zu Berlin; Bayerische Staatsbibliothek; Llyfrgell Genedlaethol Awstria (yn de), Gemeinsame Normdatei, Wikidata Q36578, https://gnd.network/, adalwyd 26 Ebrill 2014
  4. Dyddiad geni: Gemeinsame Normdatei. dyddiad cyrchiad: 14 Hydref 2015. "Leonie Ossowski". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Leonie Ossowski". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Leonie Ossowski". Cyrchwyd 9 Hydref 2017. "Leonie Ossowski".
  5. Dyddiad marw: https://www.jungewelt.de/artikel/348610.literatur-ossowski-gestorben.html. https://www.pnp.de/nachrichten/panorama/3217997_Schriftstellerin-Leonie-Ossowski-gestorben.html. iaith y gwaith neu'r enw: Pwyleg. dyddiad cyrchiad: 4 Chwefror 2019. "Leonie Ossowski".
  6. Zwei Mütter auf defa-stiftung.de
  7. 7.0 7.1 7.2 Budeus-Budde, Roswitha (13 Awst 2005). "Flucht und Versöhnung. Die Jugendromanautorin Leonie Ossowski wird 90". Süddeutsche Zeitung (yn Almaeneg). t. 11.
  8. "Leonie Ossowski" (yn Almaeneg). Munzinger. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  9. 9.0 9.1 Sandford, John (2013). Encyclopedia of Contemporary German Culture. t. 461. ISBN 1136816038.
  10. "Andreas-Gryphius-Preis" (yn Almaeneg). Die Künstlergilde. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-10-30. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  11. "Kesten-Medaille für Leonie Ossowski" (yn Almaeneg). Deutsche Welle. 2 Hydref 2006. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  12. 12.0 12.1 12.2 "Schriftstellerin Leonie Ossowski ist tot" (yn Almaeneg). Bayerischer Rundfunk. 5 Chwefror 2019. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2019-06-06. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.
  13. "Leonie Ossowski" (yn Almaeneg). Piper. Cyrchwyd 5 Chwefror 2019.