Hessen

(Ailgyfeiriad o Hesse)

Un o daleithiau ffederal (Länder) yr Almaen yw Hessen. Fe'i lleolir yng ngorllewin canolbarth y wlad. Ei phrifddinas yw Wiesbaden.

Hessen
Mathtaleithiau ffederal yr Almaen Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlChatti Edit this on Wikidata
PrifddinasWiesbaden Edit this on Wikidata
Poblogaeth6,420,729 Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 19 Medi 1945 (Allied Control Council, proclamation) Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethBoris Rhein Edit this on Wikidata
Cylchfa amserUTC+01:00, UTC+2 Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iEmilia-Romagna, Wisconsin Edit this on Wikidata
Iaith/Ieithoedd
  swyddogol
Almaeneg Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Arwynebedd21,100 km² Edit this on Wikidata
Uwch y môr264 metr Edit this on Wikidata
Yn ffinio gydaNiedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg, Rheinland-Pfalz, Nordrhein-Westfalen Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau50.60803°N 9.02847°E Edit this on Wikidata
DE-HE Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
Corff deddfwriaetholLandtag of Hesse Edit this on Wikidata
Swydd pennaeth
  y Llywodraeth
Minister-President of Hesse Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethBoris Rhein Edit this on Wikidata
Map

Roedd presenoldeb Celtaidd cynnar yn yr ardal a elwir heddiw'n Hessen. Mae tystiolaeth o hyn ar ffurf claddiadau o arddull La Tène sy'n dyddio o ganol y 5 CC a ddarganfuwyd yn Glauberg. Anheddwyd y rhanbarth yn ddiweddarach gan lwyth Germanaidd yn Chatti tua'r ganrif 1af CC, ac mae'r enw Hessen yn barhad o enw'r llwyth. Yn y Canol Oesoedd cynnar, roedd gau Ffrancaidd yn cynnwys ardal o amgylch Fritzlar a Kassel ac un Sacsonaidd arall i'r gogledd a adnabuwyd fel Hessengau. Yn ystod y 9g daeth Hessengau Sacsonaidd hefyd o dan reolaeth y Franconiaid, cyn cael ei drosglwyddo i Thüringen yn y 12g.

Enillodd Hessen ei hannibyniaeth yn Rhyfel Olyniaeth Thuringiaid (12471264), a daeth yn Landgrafiaeth o fewn Yr Ymerodraeth Lân Rufeinig. Cododd yn fuan i bwysigrwydd sylfaenol o dan Landgraf Philip y Fawrfrydig, a oedd yn un o'r arweinwyr Almaeneg Protestannaidd. Ar ôl marwolaeth Philip ym 1567, rhannwyd y diriogaeth ymhlith ei bedwar mab o'i briodas gyntaf (roedd Philip yn figamydd) mewn llinellau: Hessen-Kassel, Hessen-Darmstadt, Hessen-Rheinfels a Hessen-Marbwrg. Bu farw'r ddwy linell ganlynol allan yn weddol fuan (1583 ac 1605), Hessen-Kassel a Hessen-Darmstadt oedd y ddwy diriogaeth graidd yn y tiroedd Hessiaidd. Rhannwyd llinellau cyfochrog sawl gwaith dros y canrifoedd, fel ym 1622, pan rannwyd Hessen-Hombwrg i ffwrdd o Hessen-Darmstadt. Mabwysiadodd Hessen-Kassel Galfiniaeth yn yr 16g, tra arhosodd Darmstadt gyda Lutheriaeth ac o ganlyniad, bu gwrthdaro rhwng y ddwy linell, yn arbennig yn yr anghydfod dros Hessen-Marbwrg ac yn y Rhyfel Deng Mlynedd ar Hugain, pan ymladdodd Darmstadt ar ochr yr Ymerawdwr, tra ochrodd Hessen-Kassel gyda Sweden a Ffrainc.

Cyflogwyd nifer o hurfilwyr o Hesse gan Brydain yn ystod y Chwyldro Americanaidd, i ymladd yn erbyn y gwrthryfelwyr yn America.

Cododd Hessen-Kassel i statws Etholaeth ym 1803, ond ni chafodd hyn unrhyw effaith gan y diddymwyd yr Ymerodraeth Lân Rufeinig ym 1806. Mae'r diriogaeth yn atodiad gan y Deyrnas Westphalia yn 1806, ond hadfer i'r etholwr ym 1813. Er Etholwyr eraill wedi ennill o deitlau eraill, gan ddod yn naill ai brenhinoedd neu Uchel Ddugiaeth, cadw etholwr o Hessen-Kassel yn unig y mae anachronistig urddas. Mae'r enw goroesi yn y tymor Kurhessen, sy'n dynodi ardal o amgylch Kassel. Yn 1866 roedd yn atodiad gan Brwsia, ynghyd â Dinas am ddim o Frankfurt, Hessen-Hombwrg a Dugiaeth o Nassau, a sefydlodd y dalaith Hessen-Nassau.

Codwyd Hessen-Darmstadt i statws Uchel Ddugiaeth ym 1806. Ymladdodd y diriogaeth ar ochr Prwsia yn erbyn Awstria yn Rhyfel 1866, o gadwodd ei annibyniaeth er iddynt gael eu gorchfygu, gan fod rhan fwyaf o'r wlad wedi ei leoli i'r de o Afon Main, a ni feiddiodd Prwsia geisio ehangu y tu hwnt i'r ffin yr afon hon, rhag ofn cythruddo Ffrainc. Ond, cafodd y rhannau o Hessen-Darmstadt i'r gogledd o'r afon (yr ardal o amgylch tref Gießen, a elwir yn aml yn Oberhessen) eu cynnwys yn y Norddeutscher Bund, sef ffederasiwn o wladwriaethau'r Almaen, a sefydlwyd gan Brwsia ym 1867. Ymunodd gweddill y Brif Ddugiaeth ag Ymerodraeth yr Almaen ym 1871. Roedd Darmstadt yn un o ganolfannau'r Jugendstil o gwmpas troad y ganrif.

Hyd 1907, llewod Hessian coch a gwyn yn unig a ddefnyddiodd Hesse ar ei arfbais.

Trawsnewidiwyd Hessen-Darmstadt o frenhiniaeth i weriniaeth yn ystod chwyldro 1918, ac ailenwyd yn swyddogol yn Volksstaat Hessen (Talaith Pobl Hesse). Meddiannwyd rhannau o Hesse-Darmstadt ar lan orllewinol y Rhein (talaith Rheinhessen) gan filwyr Ffrengig hyd 1930, o dan delerau cytundeb heddwch Versailles y Rhyfel Byd Cyntaf, a ddaeth i ben yn swyddogol ym 1919.

Meddiannwyd yr ardal i'r gorllewin o'r Rhein unwaith eto gan Ffrainc ar ôl yr Ail Ryfel Byd, tra bu gweddill y wlad yn rhan o ardal a feddiannwyd gan yr Unol Daleithiau. Gwahanodd y Ffrancod eu rhan hwy o Hessen oddi wrth weddill y wlad, a'i ymgorffori'n rhan o dalaith newydd Rheinland-Pfalz. Dros yr afon, crëwyd talaith Groß-Hessen o weddill y rhanbarth gan yr Unol Daleithiau, ar 19 Medi 1945, a chynhwyswyd y rhan fwyaf o'r hen dalaith Brwsiaidd Hessen-Nassau. Ar 4 Rhagfyr 1946 ail-enwyd Groß-Hessen yn swyddogol yn Hessen.

Daearyddiaeth

golygu

Mae Hessen yn ffinio â thaleithiau Nordrhein-Westfalen, Niedersachsen, Thüringen, Bafaria, Baden-Württemberg a Rheinland-Pfalz. Ymysg ei dinasoedd mwyaf mae Frankfurt am Main, Wiesbaden, Darmstadt, Offenbach, Gießen, Wetzlar, Fulda, Kassel a Marburg.

Y prif afonydd yn y gogledd yw Afon Fulda ac Afon Lahn. Mae ganddi dirwedd fryniog; y prif fynyddoedd yw'r Rhön, y Westerwald, y Taunus, y Vogelsberg a'r Spessart.

Trigai'r rhan fwyaf o'r boblogaeth yn rhan ddeheuol y dalaith, rhwng Afon Main ac Afon Rhein (sy'n ffurfio'r ffin i'r de-orllewin). Safai'r mynyddoedd Odenwald rhwng afonydd Main a Rhein.

Dinasoedd a Rhanbarthau

golygu
 

Mae 21 rhanbarthau yn Hessen.

  1. Bergstraße (Heppenheim) (HP)
  2. Darmstadt-Dieburg (Darmstadt, Ortsteil Kranichstein) (DA)
  3. Groß-Gerau (Groß-Gerau) (GG)
  4. Hochtaunuskreis (Bad Homburg) (HG)
  5. Main-Kinzig-Kreis (Gelnhausen) (MKK)
  6. Main-Taunus-Kreis (Hofheim am Taunus) (MTK)
  7. Odenwaldkreis (Erbach) (ERB)
  8. Offenbach (Dietzenbach) (OF)
  9. Rheingau-Taunus-Kreis (Bad Schwalbach) (RÜD)
  10. Wetteraukreis (Friedberg) (FB)
  11. Gießen (Gießen) (GI)
  12. Lahn-Dill-Kreis (Wetzlar) (LDK)
  13. Limburg-Weilburg (Limburg) (LM)
  14. Marburg-Biedenkopf (Marburg) (MR)
  15. Vogelsbergkreis (Lauterbach) (VB)
  16. Fulda (Fulda) (FD)
  17. Hersfeld-Rotenburg (Bad Hersfeld) (HEF)
  18. Kassel (Kassel) (KS)
  19. Schwalm-Eder-Kreis (Homberg (Efze)) (HR)
  20. Werra-Meißner-Kreis (Eschwege) (ESW)
  21. Waldeck-Frankenberg (Korbach) (KB)

Dinasoedd heb rhanbarth:

  1. Darmstadt (DA)
  2. Frankfurt am Main (F)
  3. Kassel (KS)
  4. Offenbach am Main (OF)
  5. Wiesbaden (WI)

Dolenni allanol

golygu


Taleithiau ffederal yr Almaen  
Baden-Württemberg | Bafaria | Berlin | Brandenburg | Bremen | Hamburg | Hessen | Mecklenburg-Vorpommern | Niedersachsen | Nordrhein-Westfalen | Rheinland-Pfalz | Saarland | Sacsoni | Sachsen-Anhalt | Schleswig-Holstein | Thüringen