Deutsche Welle
Mae Deutsche Welle, talfyriad DW, yn ddarlledwr Almaeneg, rhyngwladol ganolog ac yn cymryd rhan yn y sefydliad darlledu cyhoeddus ARD. Mae Deutsche Welle yn cynnwys gorsaf radio, sianel deledu, gwefan mewn ddeg ar hugain o ieithoedd a chwrs hyfforddi newyddiadurol. Nod Deutsche Welle yw hyrwyddo'r Almaen fel gwladwriaeth gyfansoddiadol ddemocrataidd sydd wedi'i gwreiddio yn Ewrop, wedi'i chreu'n rhydd, a hyrwyddo dealltwriaeth a chyfnewid rhwng diwylliannau a phobloedd[1] gan hefyd cynhyrchu sylw newyddion dibynadwy, darparu mynediad i'r iaith Almaeneg, a hyrwyddo dealltwriaeth rhwng pobl.[2]
Enghraifft o'r canlynol | y cyfryngau torfol, darlledwr, public television station, public-law institution (Germany) |
---|---|
Gwlad | yr Almaen |
Dechrau/Sefydlu | 3 Mai 1953 |
Perchennog | ARD |
Aelod o'r canlynol | ARD, German Media Council, Informations-Verarbeitungs-Zentrum, Comisiwn UNESCO yr Almaen, Undeb Darlledu Ewropeaidd, ITU Telecommunication Standardization Sector |
Ffurf gyfreithiol | public-law institution (Germany) |
Pencadlys | Schürmann-Bau |
Enw brodorol | Deutsche Welle |
Gwladwriaeth | yr Almaen |
Gwefan | https://www.dw.com/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Rhyngwladol
golyguSianel newyddion yw DW (TV) sy'n darlledu 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos yn Almaeneg, Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg, Arabeg, Dari a Pashto. Gellir clywed DW (Radio) mewn 31 o wahanol ieithoedd. Mae DW.de ar gael mewn 30 iaith ledled y byd. Mae'r DW-Akademie yn cynnig hyfforddiant ac addysg bellach proffesiynau cyfryngau i bobl o bob cwr o'r byd.
Mae Deutsche Welle wedi bod yn darlledu'n rheolaidd ers 1953. Hyd at 2003, roedd yr orsaf wedi'i lleoli yn ninas Cwlen, ac ar ôl hynny symudodd i Bonn (DW (Radio), DW Akademie, DW.de). Mae'r pencadlys teledu ym mhrifddinas yr Almaen, Berlin. Mae swyddfeydd ym Mrwsel, Mosgo, a Washington. Mae rhwydwaith o newyddiadurwyr parhaol a llawrydd yn gyfrifol am newyddiadura ar ran yr orsaf.
Er 2004 mae Deutsche Welle yn trefnu'r etholiad gweflog blynyddol 'Best of the Blogs'.[3]
Staff
golyguO 2019 ymlaen, roedd tua 1,500 o weithwyr a 1,500 o weithwyr llawrydd o 60 gwlad yn gweithio i Deutsche Welle yn ei swyddfeydd yn Bonn a Berlin.[2]
Cronoleg
golygu- 1924 - sefydlu Deutsche Welle GmbH, yn Berlin
- 1953 - ailddechreuodd Deutsche Welle weithredu ar ôl yr Ail Ryfel Byd
- 1955 - dechrau cynhyrchu rhaglenni yn Saesneg, Ffrangeg, Sbaeneg a Phortiwgaleg
- 1990 - Ailuno'r Almaen - Gydag ailuno'r Almaen ym 1990, peidiodd gwasanaeth darlledu rhyngwladol Dwyrain yr Almaen, a alwyd yn Radio Berlin International (RBI), ddarlledu. Ymunodd rhai o staff yr RBI â Deutsche Welle ac etifeddodd DW rai cyfleusterau darlledu, gan gynnwys cyfleusterau darlledu yn Nauen, yn ogystal ag amleddau RBI.
- 1994 - ym mis Medi 1994, Deutsche Welle oedd y darlledwr cyhoeddus cyntaf yn yr Almaen gyda phresenoldeb ar y rhyngrwyd, a'r cyfeiriad i ddechrau oedd www-dw.gmd.de, a gynhaliwyd gan Ganolfan Ymchwil Technoleg Gwybodaeth GMD.
Ieithoedd Darlledu
golyguIaith | Cychwyn | Dod i ben | Sylwadau |
---|---|---|---|
Almaeneg | 1953[4] | TV | |
Saesneg * | 1954[4] | Radio & TV | |
Ffrangeg * | Radio | ||
Sbaeneg | TV | ||
Portiwgaleg | Radio | ||
Arabeg | 1959[5] | TV | |
Farsi | 1962[6] | ||
Twrceg | |||
Rwsieg | |||
Pwyleg * | |||
Tsieceg * | 2000[7] | ||
Slofaceg * | 2000[7] | ||
Hwngareg * | 2000[7] | ||
Serbo-Croateg * | 1992[8] | ||
Swahili | 1963[6] | Radio | |
Hausa | Radio | ||
Indoneseg (Malay) | |||
Bwlgareg | |||
Rwmaneg * | |||
Slofeneg | 2000 | ||
Groegeg | 1964[6] | Radio | |
Hindi | |||
Bengali | |||
Urdu | |||
Eidaleg * | 1998[9] | ||
Tsieinieg | 1965[10] | ||
Amhareg | Radio | ||
Sanskrit | 1966 | 1998 | |
Japaneg | 1969[10] | 2000[7] | |
Macedoneg | |||
Pashto | 1970[11] | Radio | |
Dari | Radio | ||
Serbeg | 1992[8] | ||
Croateg | |||
Albaneg | |||
Bosnieg | 1997[9] | ||
Daneg * | 1965 | 1998[9] | |
Norwyeg * | |||
Swedeg * | |||
Iseldireg * | 1967 | ||
Wcreineg | 2000[7] | ||
Belarwsieg | 2005[12] | before 2011 |
* yn rhannol gan Deutschlandfunk (tan 1993)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ {{{1}}}Bundesministerium der Justiz und für Verbraucherschutz. Gesetz über die Rundfunkanstalt des Bundesrechts "Deutsche Welle", 11 januari 2005.
- ↑ 2.0 2.1 "Profile DW". Deutsche Welle. Cyrchwyd 5 July 2015.
- ↑ (Saesneg) DW. The Bobs[dolen farw]Nodyn:Dode link, Best of Online Activism
- ↑ 4.0 4.1 "1950–1954". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ "1955–1959". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ 6.0 6.1 6.2 "1960–1964". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ 7.0 7.1 7.2 7.3 7.4 "2000–2005". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ 8.0 8.1 "1990–1994". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ 9.0 9.1 9.2 "1995–1999". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ 10.0 10.1 "1965–1969". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ "1970–1974". Deutsche Welle. Cyrchwyd 19 July 2015.
- ↑ "Broadcasting Democracy to Belarus". Belarus Digest. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 5 December 2014. Cyrchwyd 15 May 2015.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan swyddogol dw.de
- "DW International Weblog Award". The Bobs. 2016. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-03-24. Cyrchwyd 2021-09-01.