Leopold III, Dug Awstria

brenin neu frenhines (1351-1386)

Dug Awstria o 1365 hyd 1379 a Dug Styria a Carinthia 1365–1386 oedd Leopold III, Dug Awstria (1 Tachwedd 1351 - 9 Gorffennaf 1386).

Leopold III, Dug Awstria
Ganwyd1 Tachwedd 1351 Edit this on Wikidata
Fienna Edit this on Wikidata
Bu farw9 Gorffennaf 1386 Edit this on Wikidata
o lladdwyd mewn brwydr Edit this on Wikidata
Sempach Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethyr Ymerodraeth Lân Rufeinig Edit this on Wikidata
Galwedigaethbrenin neu frenhines Edit this on Wikidata
TadAlbert II Edit this on Wikidata
MamJoanna of Pfirt Edit this on Wikidata
PriodViridis Visconti Edit this on Wikidata
PlantDuke Wilhelm I, Duke of Austria, Leopold IV, Duke of Austria, Ernest, Frederick IV, Duke of Austria, Margarete von Habsburg, Katharina von Habsburg, Elisabeth von Habsburg Edit this on Wikidata
LlinachHabsburg Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Fienna, yn fab ieuengaf i Albrecht II, Dug Awstria, aelod o deulu Habsburg. Rhoddwyd cyfrifoldeb am y Tirol iddo, yna wedi marwolaeth ei frawd hynaf, Rudolf IV, roedd ef a'i frawd Albrecht III yn gyfrifol am weinyddu tiroedd teulu Habsburg. Yn 1375 cyflogodd Enguerrand VII de Coucy, oedd yn hawlio rhan o'r tiriogaethau hyn, fyddin i geisio eu meddiannu, yn yr ymgyrch a elwir yn Rhyfel y Gugler. Roedd Owain Lawgoch yn un o arweinwyr y fyddin hon. Gorfodwyd Leopold a'i fyddin i encilio, ond methodd ymgyrch y Gugler oherydd gwrthwynebiad ffyrnig y Swisiaid.

Dan delerau Cytundeb Neuberg yn 1379, daeth yn rheolwr Styria, Carinthia, Carniola a nifer o diriogaethau eraill. Ychweanegodd at y rhain, ac erbyn 1382 roedd ei feddiannau yn cynnwys Trieste.

Methodd ei ymdrechion i feddiannu y Swistir a Swabia pan laddwyd ef ym Mrwydr Sempach yn 1386. Olynwyd ef gan ei fab hynaf, Wilhelm.

Rhagflaenydd:
Rudolf IV
Dug Awstria
7 Gorffennaf 13799 Gorffennaf 1386
Olynydd:
Albrecht III