Lewcemia lymffoblastig aciwt
Lewcemia lymffoblastig aciwt (lewcemia ALL) yw math o gancr ar y llinell lymffoid o gelloedd gwaed, ac yn nodweddiadol, gwelir datblygiad eang o lymffosytau anaeddfed.[1] Gall symptomau gynnwys blinder, croen gwelw, twymyn, gwaedu hawdd a chleisio, chwyddo yn y lymff, neu boen yn yr esgyrn. Fel lewcemia aciwt, mae ALL yn tyfu'n gyflym ac yn gyflwr angheuol os na chaiff ei drin mewn cyfnod o wythnosau neu fisoedd.
Math o gyfrwng | dosbarth o glefyd |
---|---|
Math | acute leukemia, lewcemia lymffoblastig, clefyd |
Symptomau | Y dwymyn, gwendid, blinder meddwl, colli pwysau, anorecsia, bone pain, poen yn yr abdomen, diffyg anadl |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ni ellir esbonio'r rhan fwyaf o achosion. Gall ffactorau risg genetig gynnwys syndrom Down, syndrom Li-Fraumeni, neu fath 1 o neurofibromatosis. Ymhlith y ffactorau risg amgylcheddol y mae datguddiad i ymbelydredd sylweddol neu driniaeth gemotherapi blaenorol. Nid yw'r dystiolaeth ynghylch meysydd electromagnetig a phlaladdwyr yn eglur.[2] Rhagdybia rhai y gallai ymatebiad imiwnedd anarferol i haint gyffredin achosi'r cyflwr. Mae mecanwaith sylfaenol yr afiechyd yn cynnwys newidiadau genetig lluosog sy'n arwain at ymraniad celloedd cyflym. Ymyrra'r lymffocytau anaeddfed gormodol ym mêr yr esgyrn ar y broses o gynhyrchu celloedd gwaed coch, celloedd gwaed gwyn a phlatennau. Fel arfer, mae diagnosis yn seiliedig ar brofion gwaed ac archwiliadau ynghylch mêr yr esgyrn.
Fel rheol, trinnir ALL i ddechrau gyda rhaglen cemotherapi er mwyn arafu'r cyflwr. Dilynir hyn wedyn gan raglen cemotherapi pellach, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd. Gall triniaethau ychwanegol gynnwys cemotherapi intrathecal neu therapi ymbelydredd os lledaena i'r ymennydd. Gellir defnyddio trawsblaniad celloedd bonyn os dychwela'r cyflwr wedi'r triniaethau nodweddiadol. Mae triniaethau ychwanegol fel imiwnotherapi yn cael eu hastudio.
Effeithiodd ALL 876,000 o unigoliol yn fyd-eang yn 2015 a chofrestrwyd oddeutu 111,000 o farwolaethau.[3] Mae'r cyflwr yn fwyaf cyffredin ymysg plant, yn enwedig rhwng 2 a 5 oed. Yn yr Unol Daleithiau dyma'r cyflwr cancr sy'n achosi'r fwyaf o farwolaethau ymysg plant. Caiff ALL ei gydnabod fel y cyflwr cancr cyntaf i'w wella. Cynyddodd y canran goroesi ymysg plant o dan 10% yn y 1960au i 90% yn 2015. Mae cyfraddau goroesi yn parhau i fod yn is i fabanod (50%) ac oedolion (35%).
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Childhood Acute Lymphoblastic Leukemia Treatment". National Cancer Institute (yn Saesneg). 8 December 2017. Cyrchwyd 20 December 2017.
- ↑ Childhood acute lymphoblastic leukemia. Vora, Ajay (editor). Cham, Switzerland: Springer International Publishing. 2017. tt. 1–44, 61–86. ISBN 9783319397078. OCLC 984342596.CS1 maint: others (link)
- ↑ GBD 2015 Mortality and Causes of Death, Collaborators. (8 October 2016). "Global, regional, and national life expectancy, all-cause mortality, and cause-specific mortality for 249 causes of death, 1980-2015: a systematic analysis for the Global Burden of Disease Study 2015.". Lancet 388 (10053): 1459–1544. doi:10.1016/s0140-6736(16)31012-1. PMC 5388903. PMID 27733281. http://www.pubmedcentral.nih.gov/articlerender.fcgi?tool=pmcentrez&artid=5388903.