Mer esgyrn
Mer esgyrn yw'r meinwe hyblyg tu mewn asgwrn. Gyda bodau dynol, mae Cell goch y gwaed yn cael eu cynhyrchu gan rhan tu mewn i'r mer esgyrn ym mhen esgyrn hir mewn proses a elwir yn hematopoiesis. Ar gyfartaledd mae mer esgyrn yn gyfwerth a 4% o mas y corff o fodau dynol; mewn oedolyn sydd a mas o 65 kg (143 lb), fyddai mer esgyrn yn cyfateb i tua 2.6 kg (5.7 lb). Mae'r cyfansoddyn hematopoietic o mer esgyrn yn cynhyrchu tua 500 biliwn cell gwaed y diwrnod, sy'n defnyddio system fasgwlar y mer ersgyrn fel cwndid i system gylchredol y corff.[1] Mae mer esgyrn hefyd yn elfen allweddol i'r System lymff, gan gynhyrchu'r lymffocytau sy'n cefnogi System imiwnedd y corff.[2] Yn ychwanegol i'r celloedd hematopoietic, mae'r mer esgyrn yn cynnwys meinwe bloneg yn ogystal a'r asgwrn trabecwlaidd. Gall y gydadwaith rhwng y gwahanol celloedd yma a'u ffactorau lleol maent yn creu cael effaith ar gelloedd hematopoietic o fewn y gilfach bon-gell hematopoietic.
![]() | |
Data cyffredinol | |
---|---|
Enghraifft o'r canlynol | meinwe, dosbarth o endid anatomegol ![]() |
Math | meinwe, zone of bone organ, blood forming organ, endid anatomegol arbennig ![]() |
Yn cynnwys | bone marrow cells ![]() |
![]() |
Gall trawsblaniad mer esgyrn cael ei gynnal er mwyn trin clefydau difrifol y mer esgyrn, gan gynnwys mathau penodol o Canser megis Liwcemia. Yn ychwanegol mae bon-gelloedd wedi cael eu newid, yn llwyddiannus, i gelloedd niwral gweithredol,[3] ac hefyd, o bosib, yn gallu cael eu defnyddio i trin clefydau megis clefyd coluddyn llidus.[4]
Y ddau fath o mer esgyrn yw "mer coch" (Lladin: medulla ossium rubra), sy'n cynnwys yn bennaf meinwe hematopoietic [celloedd coch y gwaed], a "mer melyn" ({{lang-la|medulla sy'n cynnwys yn bennaf celloedd bras. Mae Celloedd goch y gwaed, Platennau, a rhan helaeth o'r Celloedd gwaed gwyn i'w weld yn y mer. Mae'r ddau fath o mer esgyrn yn cynnwyr nifer o bibellu gwaed a carpilariau. Ar eni, mae'r ddau fath o mer esgyrn yn goch. Gyda oedran, mae mwy a mwy ohono yn cael ei droi i'r mer melyn; dim ond hanner o mer esgyrn oedolion sy'n goch. Mae mer coch fel arfer yn cael ei ddarganfod yn yr esgyrn gwastad megis y Pelfis, sternwm, Penglog, asennau, Fertibra a'r sgapwla ag yn yr deunydd cancellous ("Sbwnglyd") ar ddiwedd epiphyseal esgyrn hir megis asgwrn y forddwyd a'r hwmerws. Mae mer melyn iw weld yn y geudod medwlaidd, y gwacle yng nghanol esgyrn hir. Mewn achosion difrifol o golli gwaed, mae'r corff yn gallu newid y mer melyn i fer coch er mwyn cynyddu cynhyrchiad celloedd goch y gwaed.
StromaGolygu
Stroma'r mer esgyrn yw'r holl meinwe sydd ddim yn gysylltiedig yn uniongyrchol a prif weithred y mer o hematopoiesis. Mae mer melyn yn cyfrannu at rhan helaeth storma'r mer esgyrn, yn ychwanegol at grynodiadau o gelloedd stroma wedi eu lleoli yn y mer coch. Er nid yw mor weithgar a'r mer coch parenchyma, mae'r stroma yn gysylltiedig yn anuniongyrchol yn hematopoiesis, gan ei fod yn darparu'r micro-amgylchedd hematopoietic sy'n hyrwyddo'r hematopoiesis gan y celloedd parenchymal. Er enghraifft, maent yn cynhyrchu ffactorau ysgogol cytref, sy'n cael effaith sylweddol ar hematopoiesis. Mae'r mathau o gelloedd sy'n cynnwys y stroma mer esgyrn yn cynnwys:
- ffibroblastau (meinwe gyswllt rhwydol)
- macroffabau, sy'n cyfrannu'n sylweddol at gynhyrchiad Cell goch y gwaed, gan eu bod yn mynd a Haearn ar gyfer cynhyrchiad hemoglobin
- adypocytiau (celloedd bras)
- osteoblastiau (asgwrn synseseiddio)
- osteoclastiau (asgwrn atsugno)
- celloedd endothelial, sy'n ffurfio'r sinwsoidau. Mae rhein yn deillio o'r bon-gell endothelial, sydd hefyd i'w weld yn y mer esgyrn.
Grwp | Math o gell |
Ffracsiwn Cymedredd |
Ystod Cyfeirnod |
---|---|---|---|
Celloedd Myelopoietic |
Myeloblasts | 0.9% | 0.2–1.5 |
Promyelocytes | 3.3% | 2.1–4.1 | |
Neutrophilic myelocytes | 12.7% | 8.2–15.7 | |
Eosinophilic myelocytes | 0.8% | 0.2–1.3 | |
Neutrophilic metamyelocytes | 15.9% | 9.6–24.6 | |
Eosinophilic metamyelocytes | 1.2% | 0.4–2.2 | |
Neutrophilic band cells | 12.4% | 9.5–15.3 | |
Eosinophilic band cells | 0.9% | 0.2–2.4 | |
Segmented neutrophils | 7.4% | 6.0–12.0 | |
Segmented eosinophils | 0.5% | 0.0–1.3 | |
Segmented basophils and mast cells | 0.1% | 0.0–0.2 | |
Celloedd Erythropoietic |
Pronormoblasts | 0.6% | 0.2–1.3 |
Basophilic normoblasts | 1.4% | 0.5–2.4 | |
Polychromatic normoblasts | 21.6% | 17.9–29.2 | |
Orthochromatic normoblast | 2.0% | 0.4–4.6 | |
Mathau eraill o gelloedd |
Megakaryocytes | < 0.1% | 0.0-0.4 |
Plasma cells | 1.3% | 0.4-3.9 | |
Reticular cells | 0.3% | 0.0-0.9 | |
Lymphocytes | 16.2% | 11.1-23.2 | |
Monocytes | 0.3% | 0.0-0.8 |
GweithrediadGolygu
Bon-gelloedd MesenchymalGolygu
Mae stroma'r mer esgyrn yn cynnwys bon-gelloedd mesenchymal (MSCau), adnabyddir hefyd fel celloedd stromal mer. Mae rhein yn bon-gelloedd amlgref sy'n gallu addasu eu hunain i nifer o wahanol fathau o gelloed. Mae'n hysbys fod MSCau yn addasu, yn vitro neu'n vivo, i osteoblastau, chondroctyeau (cell cartilag), have been shown to differentiate, in vitro or in vivo, into osteoblasts, chondrocytes, myocytes, marrow adipocytes and beta-pancreatic islets cells.
CyfeiriadauGolygu
- ↑ Vunjak-Novakovic, G.; Tandon, N.; Godier, A.; Maidhof, R.; Marsano, A.; Martens, T. P.; Radisic, M. (2010). "Challenges in Cardiac Tissue Engineering". Tissue Engineering Part B: Reviews 16 (2): 169–187. doi:10.1089/ten.teb.2009.0352.
- ↑ The Lymphatic System. Allonhealth.com. Retrieved 5 December 2011.
- ↑ "Antibody Transforms Stem Cells Directly Into Brain Cells". Science Daily. 22 April 2013. Cyrchwyd 24 April 2013.
- ↑ "Research Supports Promise of Cell Therapy for Bowel Disease". Wake Forest Baptist Medical Center. 28 February 2013. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2017-08-08. Cyrchwyd 5 March 2013.
- ↑ Appendix A:IV in Wintrobe's clinical hematology (9th edition). Philadelphia: Lea & Febiger (1993).