Ligwriaid
(Ailgyfeiriad o Ligures)
Un o bobloedd de Ewrop yn yr henfyd oedd y Ligwriaid neu Ligures. Roedd eu tiriogaeth, Ligwria, yn ymestyn o ogledd yr Eidal i dde Gâl. Cedwir yr enw yn rhanbarth Liguria yn yr Eidal heddiw.
Enghraifft o'r canlynol | grŵp ethnig |
---|---|
Gwladwriaeth | yr Eidal |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Mae ansicrwydd a oeddynt yn gangen o'r Celtiaid neu bobl ar wahân. Awgrymodd rhai ysgolheigion fod ganddynt berthynas a'r Lepontii, eraill eu bod yn hannu o Betica (Andalucía heddiw). Ceir yr un ansicrwydd ynglŷn â'u hiaith, a elwir gan rai ieithyddion yn Ligwreg.
Yn 180 CC gorchfygwyd y Ligwriaid gan fyddin Gweriniaeth Rhufain mewn brwydr ger Genova heddiw. Symudwyd 40,000 o Ligwriaid i rannau eraill o'r Eidal.
Enwir nifer o lwythau o'r Ligwriaid: